Cyngor darllenyddion

Nôl yn yr 80au Lotus 1-2-3 oedd y killer app ar MS-DOS ar yr IBM PC. Roedd y meddalwedd mor arbennig ac unigryw a chafodd pobol eu perswadio i brynu’r platfform er mwyn rhedeg y meddalwedd. Mae enghreifftiau eraill.

Meddwl am e-lyfrau eto.

Mae sefyllfa gyda’r diffyg e-lyfrau Cymraeg ar Kindle yn debyg i killer apps, ond y ffordd arall rownd.

Ar unrhyw dyfais mae’n bwysig cael sgrin neis, dyluniad da, ‘corff’ o ansawdd, hawdd i’w defnyddio a lot o nodweddion eraill. Ond faint o bobol fydd yn gofyn am gefnogaeth ieithyddol?

Faint o bobol sy’n ystyried e-lyfrau Cymraeg fel rhywbeth HANFODOL ar e-darllenyddion? Dw i’n gofyn os mae’r diffyg e-lyfrau Cymraeg yn dealbreaker. Does na ddim heb gwarant o Gymraeg ar Kindle yn y dyfodol, cofia. Faint o bobol fydd yn newid meddwl ar ôl iddyn nhw clywed bod Amazon wedi gwrthod derbyn Cymraeg ar ‘ecosystem’ caeedig nhw?

Ydy e’n deg i ddweud bod rhyw fath o cysylltiad rhwng teimladau pobol ar y pwnc ac ansawdd llyfrau Cymraeg a’r marchnad? Dylai awduron a chyhoeddwyr pryderu am y ffaith bod rhai o siaradwyr Cymraeg yn fodlon prynu unrhyw dyfais sydd ddim gyda chynnwys Cymraeg.

Dw i ddim yn gofyn am rhyngwynebau Cymraeg, wrth gwrs mae lot fawr o bobol yn fodlon rhedeg meddalwedd heb rhyngwyneb Cymraeg. Dw i’n gofyn am gynnwys, y peth mwyaf pwysig ar e-darllenydd.

Dw i’n gwybod bod yn cwestiwn yn berthnasol i llyfrau papur. Cyfle i ail-asesu cyflwr y marchnad yn gyffredinol?