Gwendid newyddion BBC – rhan 2

Cofia’r dolen i Gymru ar brif dudalen BBC News?

Roedd dewis ‘Wales’ am newyddion yn Saesneg a ‘Cymru’ am newyddion yn Gymraeg.

Mae’r BBC newydd cael gwared â’r dolen ‘Cymru’ rhywbryd wythnos yma. Does dim cyfeiriad i Gymru ar y tudalen bellach.

Mae’r prif dudalen yn ddarn o real estate pwysig iawn ac mae’r blaenoriaethau yna yn adlewyrchu blaenoriaethau’r sefydliad. Cer i’r prif dudalen http://www.bbc.co.uk/news/. Neu hyd yn oed http://www.bbc.co.uk/news/wales/!

Mae’r adran newyddion yn Gymraeg yn cuddio rhywle. Ydyn nhw eisiau hyrwyddo’r adran felly? Faint o ymwelwyr fydd yn dod ar draws yr adran nawr? Cofia mae BBC wedi gwneud arferiad o gynnig gwasanaethau Cymraeg (fel Chwaraeon) dan y cownter cyn iddyn nhw eu lladd.

Dw i wedi trio ychwanegu Cymru fel lleoliad ar fy fersiwn personol o’r tudalen ond mae’r system yn dehongli’r gair fel ‘Chinnor, Oxfordshire’. Ydy e’n gweithio i ti? Efallai os rydyn ni i gyd yn trio bob dydd byddan nhw yn derbyn y neges?

Gyda llaw dyma rhai o’r blaenoriaethau ar y brif dudalen heno:

  • Latin America
  • BBC World Service – News and analysis in 27 languages (ieithoedd eraill)
  • Uniforms quiz – Do you know your Grange Hill badges?
  • High drama – Painted ladies and bamboo music – a guide to Chinese opera
  • Bottled bronze – When did fake tan become the new norm?

Gweler rhan 1 os ti ddim yn ddigon blin eisoes.

14 Ateb i “Gwendid newyddion BBC – rhan 2”

  1. Fel bydden nhw’n dweud yn llyfrau Asterix ers talwm – F*%#ers!!!!!!

    Oes modd cael sgrinlun trwy archive.org neu debyg o pan oedd dolen at y dudalen flaen, yna gwneud ymholiad (FOI os oes rhaid) i weld pwy benderfynodd ac ar ba sail y dylid dileu’r ddolen? O ran y dyluniad uchod, does yna ddim lle i bumed colofn. Yr un peth yn wir am ddolen at is-wefan Gaeleg hefyd dw i’n cymryd.

  2. Wedi anfon y neges brysiog yma at adran gwynion y BBC. Nid yw’n dda iawn, rant mwy na dim ynglyn a gwefannau Cymraeg y BBC!

    //Anfonwch ymlaen at yr adran gwynion os gwelwch yn dda//

    Mae’n ymddangos eich bod wedi gwneud newidiadau i’ch gwefannau Saesneg sydd yn ei wneud yn anoa fyth i bobl gael mynediad at eich gwefannau Cymraeg (nid oedd yn hawdd yn y lle 1af!). Ar eich prif dudalen newyddion Prydeinig e.e. http://www.bbc.co.uk/news/ mae dolenni amlwg iawn ar y brig at y canlynol:

    Home
    World
    UK
    England
    N. Ireland
    Scotland
    Wales
    Business
    Politics
    Health
    Education
    Sci/Environment
    Technology
    Entertainment & Arts

    Ond dim son am y wefan Gymraeg. Pam nid cynnwys ‘Cymru’ neu ‘Cymraeg’ yn y rhestr?

    Mae hefyd adran yno ‘UK & Local News’ ond dim son am y wefan newyddion Gymraeg.

    Ar waelod yr un tudalen mae adran “News and analysis in 27 languages” ond nid yw’r Gymraeg wedi ei restru.

    Nid yw’r ddolen at y dudalen newyddion Cymraeg yn glir o wefan newyddion Saesneg o Gymru http://www.bbc.co.uk/news/wales/ hyd yn oed, dim ond pwt bach ar y gwaelod. Pam ddim cynnwys dolen ‘Cymru’ neu ‘Cymraeg’ ar y brig gyda’r opsiynau yma?

    Wales Politics
    North West
    North East
    Mid
    South West
    South East

    Hefyd dwi’n sylwi nad oes dolen at blog gwych Vaughan Roderick yn y Gymraeg o flog Betsan Powys mwyach, pam? http://www.bbc.co.uk/news/correspondents/betsanpowys/

    Dwi hefyd yn anhapus iawn gyda’r ffaith eich bod yn torri yn ol ar y gwasanaethau Cymraeg yn gyson. Yn gyntaf fe wnaethom ni golli y gwasanaeth newyddion ‘rhyngwladol’ trwy gyfrwng y Gymraeg. Eich dadl oedd nad oedd cymaint yn ymweld a’r straeon hynny o gymharu a straeon Cymreig, ond rol y BBC ydy cynnig gwasanaeth a rhoi sylw i bethau sydd weithiau’n llai ‘poblogaidd’ er mwyn cynnig gwasanaeth teilwng. Yn ddiweddar fe wnaethoch chi gael gwared ar yr adran chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r 2 benderfyniad yma yn golygu bod y gwasanaeth newyddion yr ydych yn cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg o’i gymharu a’r gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg yn hynod o israddol. Mae mor wael erbyn hyn, nes bod pobl fel fi yn ymweld a gwefannau newyddion Saesneg y BBC fel prif ffynhonnell newyddion a gwefan Golwg360 am y newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg. Anaml iawn byddaf yn ymweld â bbc.co.uk/cymru erbyn hyn.

    Rwyf hefyd yn anhapus iawn bod y mwyafrif o wefannau Cymraeg y BBC yn defnyddio’r hen ryngwynebau, yn hytrach na’r rhai newydd sy’n cael eu defnyddio gan y gwefannau Saesneg. Enghraifft arall o’r ffordd yr ydych yn trin y Gymraeg yn eilradd.

    Rhaid cywiro hyn ar frys. Rhaid rhoi sylw teg i wefan Gymraeg y BBC ar eich amryw o wefannau Saesneg Prydeinig ac o Gymru. Rhaid diweddaru rhyngwynebau y gwefannau Cymraeg fel eu bod yr un mor safonol a’r rhai Saesneg, a rhaid i chi wyrdroi eich penderfyniad i gael gwared ar newyddion rhyngwladol a newyddion chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Yn Gywir,

    Hedd Gwynfor
    Caerfyrddin
    Cymru

  3. Dwi ddim yn credu eu bod nhw erioed wedi rhoi dolen ‘Cymru’ yn y rhestr yna ar y dudalen newyddion Saesneg. Mae dolen i dudalennau Cymraeg yn glir ar bbc.co.uk. Dydi hyn ddim yn ei wneud yn iawn wrth gwrs. Dwi’n cofio fy mod wastad yn rhwystredig nad o’n i’n gallu dod o hyd i ddolen i’r tudalennau Cyrmaeg oddi yno, tra’n gweld dolenni i dudalennau Rwsieg a Sbaeneg…

  4. Ti’n iawn Rhodri, bbc.co.uk yw’r eithriad. Falle ddylwn i fod wedi dweud hynny, ond dwi’n well yn cwyno na chanmol!! 😉

  5. Helo,

    Chwarae teg i’r BBC dwi wedi derbyn ymateb cynhwysfawr iawn i fy ebost, efallai byddai diddordeb gyda rhai ohonoch chi ei ddarllen:

    Annwyl Hedd Gwynfor,

    Diolch am eich gohebiaeth, ac am eich diddordeb yn ein gwasanaeth newyddion ar-lein. Rydym wedi trafod eich pwyntiau gyda’r tîm datblygu er mwyn i ni roi ateb mor gyflawn â phosib i chi.

    Fel rydych yn nodi, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i dudalen flaen newyddion y DU, ac fel rhan o’r newidiadau helaeth hynny, fe gollwyd dolen i’r wefan Gymraeg.

    Yn anorfod, mae’r broses o uwch-raddio’r safle cyfan wedi cymryd nifer o fisoedd, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn disgwyl i’r wefan Gymraeg symud i’r dyluniad newydd hefyd, ac mae newyddiadurwyr Cymraeg yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r llwyfan cyhoeddi newydd. Bryd hynny, rydym yn bwriadu ail-gyflwyno dolen amlwg i’r wefan Gymraeg ddiwygiedig, yn yr adran newyddion Cymru ar dudalen flaen newyddion y DU, ac fel y gwnaethoch chi awgrymu, ar y mynegai newyddion Cymreig.

    Mae’r ddolen o dudalen newydd Betsan Powys i flog Vaughan Roderick hefyd wedi ei golli wrth symud cynnwys i’r dyluniadau newydd. Byddwn yn ystyried sut y gallwn adfer y ddolen hon – er bod y ddwy dudalen bellach yn cael eu cyhoeddi mewn systemau gwahanol.

    Efallai y bydd gennych ddiddordeb i glywed bod cynlluniau ar y gweill i ddatblygu rhifyn Cymreig o hafan-ddalen bbc.co.uk, gyda’r bwriad o roi lle mwy amlwg i gynnwys Cymraeg. Byddwch yn gallu gweld hyn yn ystod fersiynau diweddarach o’r beta cyhoeddus a lansiwyd yn ystod y dyddiau diwethaf.

    Rydym yn adolygu’r gwasanaeth yn gyson gan benderfynu ar ein blaenoriaethau o ran adnoddau, gan ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys adroddiadau traffig ar-lein. Rydych yn gywir i nodi bod ein darpariaeth Gymraeg wedi newid eleni; mae straeon chwaraeon bellach yn cael eu cyhoeddi ar fynegai /newyddion, yn hytrach nac mewn mynegai ar wahan, ond mae mwy o staff yn gweithio ar y gwasanaeth newyddion a chwaraeon cyfansawdd nac a weithiodd ar y gwefannau newyddion a chwaraeon cyn y newid.

    Mae’n flin gennym glywed eich bod bellach ond yn ymweld â’n gwefan yn achlysurol. Yn gyffredinol, mae nifer y defnyddwyr unigryw wythnosol wedi tyfu’n raddol ers mis Ebrill pan unwyd y gwasanaethau chwaraeon a newyddion.

    Rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau sydd i’w cyflwyno i’r wefan newyddion Gymraeg o fewn yr wythnos nesaf yn plesio.

    Rydyn ni wedi gwneud cofnod o’r pwyntiau a godwyd gennych chi yn eich cwyn, ac rydyn ni hefyd wedi cynnwys crynodeb ar ein hadroddiadau mewnol sy’n cael eu dosbarthu i reolwyr a staff ar draws y BBC. Mae unrhyw adborth gan y gynulleidfa yn gyfle i ni ail-ystyried ein cynnwys a’n polisiau ar gyfer y dyfodol, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i chi am fynd i’r drafferth i ysgrifennu atom.

  6. Mae’r ddolen i ‘Newyddion’ nôl ers cwpl o ddyddiau o fewn adran ‘Wales’ http://www.bbc.co.uk/news/wales/
    (sef yn union beth oedd yna cyn yr ail-ddyluniad ym mis Gorffennaf 2010).

    Mae’n werth ebostio BBC Cymru gyda awgrymiadau neu gwestiynau. Mae nhw bob amser yn ymateb – a weithiau yn gallu gwneud newidiadau cyflym. Mae’n amlwg fod newid drosodd i’w system cyhoeddi newydd wedi cymeryd amser a fod Cymru ar waelod y rhestr.

    A mae pwynt arall, dwi am roi yn dy gofnod diweddaraf..

Mae'r sylwadau wedi cau.