Fy hoff app.

Beth yw fy hoff app?

Ateb: y we fyd-eang.

Y we fyd-eang yw app. Pa fath o app? App aml-gyfrwng sy’n rhedeg ar y platfform digidol mwyaf yn y byd, sef y rhyngrwyd.

Rwyt ti’n gallu cael mynediad i’r we o gyfrifiaduron o bob math, ffonau symudol o bron bob math, tabledi ac ati. Rwyt ti’n gallu darllen, gwylio neu postio. Does neb yn berchen ar y we fyd-eang. Felly mae pawb – i ryw raddau – yn berchen arno fe.

Un nodwedd sy’n bwysig iawn ar y we ydy’r dolen.

Ddylen ni edrych at cyfleoedd i ddatblygu apps sy’n rhedeg ar blatfformau eraill? Er enghraifft ar iPhone, iPad, Android, Facebook, Twitter ac ati? Efallai dylen ni. Mae grŵp o bobol ar bob platfform yna. Ond, yn sicr, cyn i ti ystyried datblygu unrhyw app dylet ti ystyried defnydd o’r WE.

2 Ateb i “Fy hoff app.”

  1. Mae angen symud ffwrdd yr holl syniad ‘app’ ma (dwi’n casau’r gair hefyd). Dylem feddwl am wasanaethau.

    Does dim angen i neb wybod bod cyfrifiadur yn rhedeg Windows, OS X neu Ubuntu, dim ond gwybod “dwi eisiau edrych ar fy llunie” a wedyn yn gallu gwneud hynny heb orfod gwneud ymdrech i lwytho OS, wedyn llwytho darllenydd JPEG.

    Ar ffonau Nokia cynnar, doedd neb yn meddwl am y meddalwedd neu’r caledwedd ar y ffôn, dim ond mynd i ddarllen negeseuon destun neu wneud galwad ffôn. Rwan ar y ffonau clefar ma, mae negeseuon testun yn ‘app’ yn ei hun, y llyfr ffôn yn ‘app’ arall etc.

  2. Dw i ddim yn licio’r gair ond dw i’n ei defnyddio i wneud pwynt sydd, yn fy marn i, yn bwysig.

    Dylai systemau bod yn hawdd i’w ddefnyddio ond dw i’n meddwl bod rhyddid yn bwysig hefyd.

Mae'r sylwadau wedi cau.