Mae’r gwylio fideo arlein yn tyfu bob blwyddyn. Yn yr UDA y cyfartaledd yw 187 fideo bob mis yn ôl comScore. Beth yw’r ffigur yng Nghymru? Dw i ddim yn sicr ond dw i eisiau gwybod bod y cynnwys Cymraeg yn bodoli yna am siaradwyr, dysgwyr, plant sy’n chwilio.
Dw i wedi bod yn profi termau gwahanol ar YouTube chwilio: pynciau, enwau, termau cyffredinol.
Dyma siart o dermau a nifer o ganlyniadau heddiw.
| term ar YouTube chwilio | nifer o ganlyniadau |
| wyddoniaeth | 1 |
| “Gerallt Gymro” | 4 |
| bydysawd | 7 |
| Cynghanedd | 9 |
| gwyddoniaeth | 12 |
| “dafydd ap gwilym” | 25 |
| Tyddewi | 25 |
| Llanystumdwy | 26 |
| gwleidyddiaeth | 33 |
| chwaraeon | 38 |
| addysg | 68 |
| Casnewydd | 71 |
| barddoniaeth | 79 |
Dw i’n eitha siomedig gyda’r niferoedd yma. Mae pob nifer yn bras yn ôl YouTube chwilio, e.e. “about 12 results”. Ond baswn i wedi disgwyl mwy dan categoriau fel “gwyddoniaeth” yn enwedig. Mewn gwirionedd o’n i’n methu ffeindio cynnwys Cymraeg dan rhai o’r chwiliadau, e.e. bydysawd: un canlyniad go iawn, mae’r llall yn Saesneg/amherthnasol.
Problemau yma?
- Diffyg cynnwys Cymraeg weithiau – dyw’r cynnwys perthnasol ddim yn bodoli ar YouTube o gwbl. Er enghraifft o’n i’n methu ffeindio lot o fideos o gerddi llawn gan Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg, yr iaith gwreiddiol.
- Tagiau / metadata annigonol – weithiau mae fideos yn bodoli, ond mae chwilio yn gallu defnyddio dim ond y metadata (teitl, disgrifiad, tagiau, efallai sylwadau) i’w ffeindio. Mae hwn yn wir am chwaraeon wrth gwrs. Diffyg defnydd y tag er bod fideos chwaraeon yn bodoli yna. O leiaf mae’n ddweud rhywbeth am defnydd tagiau a’r aelodau o YouTube – efallai y diffyg sefydliadau?
Peth yw, mae tagiau a metadata yn “gofod enw” fel enwau parth. Rwyt ti’n gallu perchen ar tua 20% o ganlyniadau “gwyddoniaeth” gyda dy fideo nesaf sy’n berthnasol i’r categori gwyddoniaeth. Tagiau am ddim. Dw i ddim yn sôn am chwilio yn unig chwaith achos mae YouTube yn defnyddio’r metadata am ei system awgrymiadau.
Meddyliau?
(Newyddion da: mae YouTube yn cynnig cyfrifon fideo am ddim. Dechreua cyfrif YouTube am ddim am dy hun, dy dosbarth, dy gwmni neu dy sefyliad. Efallai pryna camera Flip hefyd – rhad. Plis defnyddia’r tagiau. Maen nhw am ddim hefyd.)
Gweler hefyd: Newyddion da gan Rhodri ap Dyfrig ddoe gyda siart o’r fideos mwya llwyddianus ar fideobobdydd.