Dw i’n cyd-trefnu Hacio’r Iaith. Gallet ti cyfrannu hefyd.
Beth yw Hacio’r Iaith? Darllena’r cofnod gyntaf ar Metastwnsh gan Rhodri ap Dyfrig. Mae drysau yn agor iawn.
Gobeithio bydd pobol yn deall pam dyn ni’n wneud y digwyddiad. Dyn ni’n trefnu Hacio’r Iaith achos dyn ni’n caru’r iaith a dyn ni’n hoffi thechnoleg defnyddiol. Dyn ni’n bwriadu i gael hwyl a datblygu pethau da ar yr un pryd.
Mae proses yn pwysig. Baswn i annog unrhyw un i dilyn y broses. Byddan ni rhannu pob manylyn. Dyn ni’n blogio a defnyddio’r wici.
Gallet ti ymuno’r digwyddiad a dysgu rhywbeth wrth gwrs. A rwyt ti’n gallu copi’r broses i wneud digwyddiad dy hun. Hoffen ni dangos bod e’n gorau i rhannu dy syniadau.
Dw i’n ffeindio rhywbeth yn aml. Pan dw i’n rhyddhau fy syniadau, dw i’n ffeindio pobol eraill ac adeiladu nhw gyda’n gilydd. Neu dw i’n ysbrydoli pobol eraill.
Dw i’n chwilio am “cystadleuaeth”. Dyma pam ro’n i’n dechrau blogio yn y Gymraeg. Ro’n i ddim yn gallu aros am blogiau newydd. Weithiau, dw i eisiau bod fel cwmni dillad chwareon. Jyst gwnaf e. Ha ha.
Es i i WordCamp yng Nghaerdydd blwyddyn yma. Daeth llawer o bobol ledled Prydain i drafod WordPress – bron pawb am eu gwaith. Mae fy nghefndir yw busnes a dw i’n meddwl bod llawer o gyfleoedd gyda ni yma. Basai’n gret i creu cyfleoedd am busnes newydd yn y dyfodol trwy pethau fel Hacio’r Iaith. Hoffwn i annog trafodaeth yn y gyfeiriad hon. Does dim rhaid i ni bod yn difrifol, gallen ni mwynhau’r sgwrs.
Ysbrydoliaeth BarCamp:
- Cyfweliad fideo bach gyda Chris Messina
- BarCamp ar Red Hat
- Enghraifft camp wici – WordCamp content ideas
- “Adre” BarCamp ryngwladol
- Adolygiad WordCamp ar Metastwnsh
- ChurchCamp
Ysbrydoliaeth hack day:
- Adre Music Hackday
- Music Hackday ar Techcrunch
- Music Hackday – fy hoff stwnsh-lan yw Music Zeitgeist (syml ac efallai gallai rhywun yn creu rhywbeth fel hwn yn Hacio’r Iaith)
- Hack The Government
(Gallet ti mynd i hack day a BarCamp ar Wicipedia.)
Byddan ni rhannu dolenni a manylion eraill ar Twitter. Dilyna Rhodri ap Dyfrig, Rhys Wynne, fi a phobol eraill…
Ymwelais â gwefan BarCamp echdoe a gweld y gwahanol enghreifftiau a dechrau hel syniadau. Hefyd dw i wedi ymhelaethu ychydig at y wici – os ydw i wedi mynd yn rhy bell, croeso i chi newid i fel yr oedd o.