Meddyliau am diwylliant DIY arlein

Now form a band

Dyma dudalen enwog o Sideburns fanzine, mis Rhagfyr 1976. Wnaeth pobol ddim yn gallu ffeindio cyfryngau gyda diddordebau eu hun. Felly dechreuon nhw gylchgronau eu hun gyda llungopiwyr. Ti’n gallu galw fe DIY, punk, ayyb. Mae bandiau DIY yn annog cyfryngau DIY yn hybu bandiau DIY…

Dyn ni ddim yn byw yn y 70au, dyn ni’n gallu cael ysbrydoliaeth. Fel Orange Juice pan gopïon nhw solo/riff o Buzzcocks.

Beth yw’r cywerthydd nawr arlein? Ti’n gallu dechrau cyfryngau dy hun gyda meddalwedd rydd, e.e. WordPress. Y band? Beth bynnag ti eisiau yn y byd. Neu dy byd. Weithiau mae’r fanzine yn dathlu ei hun, ti’n mwynhau’r fanzine ei hun.

Dw i dal yn meddwl am ffordd i hybu arlein fel teclyn defnyddiol, ar ôl Hacio’r Iaith yn enwedig. Dw i’n teimlo aflonydd.

“Dydy arlein ddim yn ddefnyddiol am bopeth” meddit ti. Ti’n gallu esbonio yn dy flog dy hun achos dw i wedi cau’r sylwadau tro yma.

Pam ydw i’n wneud Hacio’r Iaith?

Dw i’n cyd-trefnu Hacio’r Iaith. Gallet ti cyfrannu hefyd.

Beth yw Hacio’r Iaith? Darllena’r cofnod gyntaf ar Metastwnsh gan Rhodri ap Dyfrig. Mae drysau yn agor iawn.

Gobeithio bydd pobol yn deall pam dyn ni’n wneud y digwyddiad. Dyn ni’n trefnu Hacio’r Iaith achos dyn ni’n caru’r iaith a dyn ni’n hoffi thechnoleg defnyddiol. Dyn ni’n bwriadu i gael hwyl a datblygu pethau da ar yr un pryd.

Mae proses yn pwysig. Baswn i annog unrhyw un i dilyn y broses. Byddan ni rhannu pob manylyn. Dyn ni’n blogio a defnyddio’r wici.

Gallet ti ymuno’r digwyddiad a dysgu rhywbeth wrth gwrs. A rwyt ti’n gallu copi’r broses i wneud digwyddiad dy hun. Hoffen ni dangos bod e’n gorau i rhannu dy syniadau.

Dw i’n ffeindio rhywbeth yn aml. Pan dw i’n rhyddhau fy syniadau, dw i’n ffeindio pobol eraill ac adeiladu nhw gyda’n gilydd. Neu dw i’n ysbrydoli pobol eraill.

Dw i’n chwilio am “cystadleuaeth”. Dyma pam ro’n i’n dechrau blogio yn y Gymraeg. Ro’n i ddim yn gallu aros am blogiau newydd. Weithiau, dw i eisiau bod fel cwmni dillad chwareon. Jyst gwnaf e. Ha ha.

Es i i WordCamp yng Nghaerdydd blwyddyn yma. Daeth llawer o bobol ledled Prydain i drafod WordPress – bron pawb am eu gwaith. Mae fy nghefndir yw busnes a dw i’n meddwl bod llawer o gyfleoedd gyda ni yma. Basai’n gret i creu cyfleoedd am busnes newydd yn y dyfodol trwy pethau fel Hacio’r Iaith. Hoffwn i annog trafodaeth yn y gyfeiriad hon. Does dim rhaid i ni bod yn difrifol, gallen ni mwynhau’r sgwrs.

Ysbrydoliaeth BarCamp:

Ysbrydoliaeth hack day:

(Gallet ti mynd i hack day a BarCamp ar Wicipedia.)

Byddan ni rhannu dolenni a manylion eraill ar Twitter. Dilyna Rhodri ap Dyfrig, Rhys Wynne, fi a phobol eraill…

Allforia dy diwylliannau

This post is written in Welsh and is about lyrics as potential “by-products” of music which musicians could share. I don’t see many people doing this in Welsh language music. As ever, if you want the gist then Google Translate is your friend.

Ro’n i’n darllen post am isdeitlau agor gan Fred Wilson.

The larger point I am making here is that by open sourcing subtitles, we are making it easier to watch films and other forms of video that are made in other languages. People in Israel can watch TV shows and films made in the US in hebrew subtitles. People in the US can watch TV shows and films made in India in english subtitles. The possibilities go on and on. We don’t need to wait for the producers of the films to release them in foreign languages (if they ever choose to do so). We can simply get the footage we want to watch and find a subtitle for it on the Internet.

Darllena sylw cyntaf gan Tox hefyd.

The problem here (again) is one of intellectual property, and the completely broken ideas surrounding it. Unless there is a massive change in our IP laws, subtitle sites (open or otherwise) are going to go the way of the lyrics sites, and yet again, the obvious cultural benefits will take a backseat to the heavy-handed maneuvering of Big Content.

Dw i’n gwybod bod isdeitlau yn defnyddiol pan rwyt ti eisiau allforio dy ffilm i marchnadoedd eraill. Arbennigwr ffilm dw i ddim. Efallai gallai rhywun yn esbonio y ffordd gorau i weld y Hedd Wyn nesaf neu Solomon a Gaynor nesaf.

Ond dw i’n nabod y byd cerddoriaeth. Ro’n i’n gweithio yn label recordiau am pum mlynedd. Dw i wedi gadael y busnes cerddoriaeth ond nawr dw i’n cynghori busnesau cerddoriaeth weithiau. Dw i’n meddwl lot am y strategaeth gorau ers fy sgwrs yng Nghaernarfon mis diwetha.

Mae’n braf i weld Cerys Matthews gyda dau fersiwn o’r ei albwm newydd – Don’t Look Down a Paid Edrych I Lawr. Ac wrth gwrs, gyda pob albwm rhyddhodd Kraftwerk llawer o fersiynau.

Mae geiriau yn defnyddiol pan rwyt ti eisiau allforio dy cerddoriaeth. Pe baswn i’n rhyddhau cerddoriaeth unieithog yn y Gymraeg taswn i’n gyhoeddu’r telynegion arlein. Efallai dylet ti cyhoeddi dy geiriau ac hybu dy exportability. (Beth yw’r gair Cymraeg yma?)

Does dim rhaid i ti cyfieithu dy telynegion, gallai Google Translate yn wneud e! Copïa’r enghraifft safle Nic Dafis. Gallwn i wneud e gyda fy mlog. Ar hyn o bryd, dw i’n hoffi ychydig o… ffrithiant. Ha ha.

Ro’n i’n defnyddio enghraifft ffilmiau. Wrth gwrs, mae sefyllfa yn eitha gwahanol yn y byd cerddoriaeth. Mae’n bosib i mwynhau cerddoriaeth heb dealltwriaeth. Mae digon o pobol yn mwynhau Sigur Ros. Neu metal – pan dwyt ti ddim yn gallu gwrando ar geiriau! Ond fel bron popeth yma, dwedodd Super Furry Animals cyn fi gyda The International Language Of Screaming.

Beth bynnag, dylet ti rhannu rhywbeth o gwmpas dy cerddoriaeth, dy ychwanegiadau. Efallai geiriau, efallai dy storiau da, efallai fideo, rhywbeth diddorol. Rydyn ni eisiau manylion ôl-gatalog yn sicr. Fideo yn sicr.

Mae’n dibynnu ar dy cynllun. Rhaid i ti cael cynllun. Dwedodd Rhys Mwyn wrtho i, rhaid i ti cael cerddoriaeth da. Dw i’n cytuno.

Mae pedwar label mawr yn ofni gair fel “rhannu”. Ond does dim problem Big Content gyda ni yn Gymraeg. Mae cwmniau cerddoriaeth yn annibynnol. Felly mae nhw yn gallu dewis y ffordd gorau, heb ofn – yn gyflym!

marchnadoedd