Denu mwy o wylwyr i S4C (Beth yw ‘USP’ yn Gymraeg?)

Dechreuais i wylio S4C yn y flwyddyn 2007. O’n i’n ymwybodol o’i fodolaeth cyn hynny ond doedd neb wedi sôn wrthaf i am unrhyw raglen benodol o ddiddordeb. Gallwn i wedi enwi Pobol Y Cwm wrth gwrs ond bron dim rhaglen arall.

Gofynodd ffrind os oeddwn i’n ymwybodol bod band yn chwarae ar raglen Bandit ar y pryd ac y dylwn i diwnio mewn. Felly dyna beth wnes i.

Yn y flwyddyn honno ac yn gynyddol iawn wedyn o’n i’n diolchgar iawn am gael sianel uniaith Gymraeg. Dw i’n cofio darllen is-deitlau ar y pryd hefyd – yn Gymraeg.

Byddai hi’n WYCH pe tasai mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau mwynhau rhaglenni S4C.

Dw i’n eithaf siŵr y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n cwyno am is-deitlau gorfodol yn Saesneg ar S4C yr wythnos hon dal eisiau gweld MWY o wylwyr i’r sianel.

Mae sawl ffordd o wynebu’r her. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru; dylai’r sianel fod yn perthyn i bawb yng Nghymru – heb dorri’r egwyddor bwysig yn y ddeddf wreiddiol o gael gofod cyfrwng Cymraeg. (Gweler hefyd: Radio Cymru, ‘Steddfod, Pantycelyn, ysgolion)

Mae’r is-deitlau gorfodol YN ymyrryd ar y profiad o wylio rhaglen teledu, teimlad a ddaeth i’r amlwg pan oedd ‘na is-deitlau Saesneg gorfodol ar raglen Super Furry Animals y llynedd.

Dyma gyfres o feddyliau a syniadau am yr her o denu mwy o wylwyr.

  1. Ar ba ymchwil marchnad mae’r penderfyniad o orfodi is-deitlau ar bob gwyliwr yn seiliedig? Ble mae’r ddata? Ydy’r syniad yn dod yn syth o’r hafaliadau di-sail “Cymraeg = caeëdig/mewnblyg” ac “is-deitlau gorfodol yn Saesneg = croesawgar”? Y newyddion yw, mae modd bod yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn Gymraeg ar yr un pryd. O safbwynt marchnata mae’r Seisnigo graddol yn tanseilio ‘USP’ y sianel, dyna’r pryder yn yr hir dymor. Mae eisiau seilio penderfyniadau o’r fath ar DDATA: ymchwil marchnad cynhwysfawr.
  2. Nid data oedd fy stori uchod ond profiad unigolyn ac mae pob profiad yn wahanol. Ond mae ‘na rhywbeth yn y syniad o hyrwyddo rhaglen benodol i grŵp/cymuned yn hytrach na jyst hyrwyddo’r sianel. Un rhaglen yw’r ‘gateway drug’ i’r sianel. Yn fy achos i, Bandit oedd y rhaglen gyntaf.
  3. Enghraifft: faint o aelodau o grwpiau ymgyrchu, hanes ac ati yn ymwybodol bod ‘na rhaglen hynod ddiddorol am Philip Jones Griffiths a’r rhyfel Americanaidd yn Fietnam ar Clic, iPlayer, ac ati? Mae eisiau cysylltu gyda phob un ohonyn nhw, â’r grwpiau sy’n licio ffotograffiaeth.
  4. O’n i’n bwriadu dweud YouTube yna ond does DIM BYD O GWBL yna pan dw i’n chwilio am ‘philip jones griffiths s4c’. Mae modd gweld Michael Palin yn Fietnam yn Saesneg ond dim Philip Jones Griffiths yn Gymraeg. Dim ond un enghraifft ydy hynny. Dosbarthiad yw’r peth. Ac mae eisiau cynnwys a chlipiau go iawn nid treilars plîs.
  5. Yn ôl Ian Jones,
    ‘Y prif reswm pam nad yw pobl yn gwylio S4C yw oherwydd diffyg “hyder yn eu hiaith neu am nad ydyn nhw’n gallu deall Cymraeg o gwbl”‘.
    Dw i’n credu bod camddealltwriaeth wedi bod o ran pam nad yw pobl yn tiwnio mewn neu’n glicio. Sa i’n dychmygu unrhyw un yn dweud ‘wel hoffwn i wylio Ochr 1 achos mae’r bandie yn wych ac mae Griff Lynch mor olygus, mae Newyddion 9 yn mynd i’r afael â materion cyfoes, roedd fy ffrind yn siarad am ei waith ar Heno neithiwr hefyd. Ond ti’n gwybod beth? Dw i jyst ddim yn hyderus yn Gymraeg felly wnai wylio rhyw raglen arall mewn iaith arall’. O safbwynt marchnata RHAGLENNI yw’r cyffur i’w gwerthu, nid sianel. Dwedwch wrth bobl am y RHAGLENNI penodol. Gosodwch y darged o roi tri theitl ym mhob brên yng Nghymru. A brên Ed Vaizey. Yn ogystal â Phobol y Cwm.
  6. Beth am drefnu taith o ymddangosiadau ar draws Cymru, cynnig cyfleoedd i wylio pethau sy’n berthnasol neu o ddiddordeb arbennig i’r ardal? Dw i’n sôn am bentrefi yn ogystal â llefydd fel Chapter a Galeri. Wrth gwrs mae cost i’r math yma o waith. Gall leihau’r cost trwy anfon ffeil neu ddisc draw at rywun ym mhob cymuned; datganolwch y daith. Peidiwch ag anghofio nwyddau hefyd.
  7. Mae pobl ail iaith yn hanfodol yn y sgwrs yma. Mae eisiau ystyried y categori yna fel pobl gweithredol sy’n wneud prosiectau, ymgyrchoedd ac ati. Mae eisiau deall yn well sut mae’r sianel yn gallu arfogi nhw i ledaenu’r gair ymhlith ffrindiau ac ati. Dechreuwch gyda’r ‘dysgwyr y flwyddyn’ (er nad yw i’n hoff iawn o’r categorïau ‘dysgwyr’ a ‘di-Gymraeg’).
  8. Mae lle i apiau sy’n debyg i Sibrwd a’r ail sgrin yma. Mae lot fawr o bethau cwl sy’n bosib gyda’r cyfryngau cymdeithasol, symudol ac ati.
  9. Mae angen meddwl am y ‘rhwydwaith cynnes’. Mae Elan Grug yn dweud:
    “Ac S4C- be am y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd byth yn troi at y sianel? A digon o rheini yn aelwydydd uniaith? Pa ddathliad pum niwrnod sy’n cael ei baratoi ar eu cyfer nhw?” Dw i’n cytuno. Hefyd beth am y rhai sy’n gwylio un rhaglen yn unig? Am wn i does dim targedu ar sail diddordebau ar Clic. ‘Rydych chi wedi gwylio X, beth am wylio Y?’ Hefyd mae’r hen gerdyn hynafol statig yma yn ystod yr hysbysebion yn WASTRAFF o amser gwerthfawr tra bod treilars yn bodoli. Hefyd beth ddigwyddodd i’r cyfrif S4C Clic ar Twitter gyda dolenni i bob un rhaglen? Mae eisiau ail-ddechrau pethau fel hwnna.
  10. Mae marchnata yn costio. Dw i’n pryderu am yr is-deitlau gorfodol oherwydd beth maen nhw yn awgrymu o ran costau. Ai nhw yw’r unig ymdrech sydd yn fforddiadwy erbyn hyn? Dyna pam mae angen i’r sianel ac Awdurdod fod yn gall ac yn gryf wrth ddelio gyda’r awdurdodau a llywodraethau er mwyn sicrhau’r cyllid digonol i redeg sianel deledu go iawn yn yr hir dymor.

Problem dosbarthu cynnwys Cymraeg

Dyna sy’n wneud i mi feddwl am broblem dosbarthu cynnwys Cymraeg.

Dyma RS Thomas ar raglen Beti a’i Phobol:

Dim ond 74 o wrandawiadau wedi bod ers iddyn nhw lanlwytho’r hen raglen i Soundcloud ar 13 Tachwedd 2013.

Chwarae teg i’r tîm am eu rhoi nhw ar y we yn barhaol tu hwnt i gyfnod cyfyngedig iPlayer.

Ond mae nifer o wrandawyr yma yn siom i mi. Mae’r niferoedd yn debyg ar y rhaglenni Beti a’i Phobol eraill.

Efallai bod hi’n dangos pwysigrwydd hyrwyddo?

Efallai diffyg chwiliadau am y pwnc?

Diffyg disgwyliadau ar ran y cynulleidfa botensial?

Neu ddiffyg statws i’r Gymraeg ar ganlyniadau chwilio Google ac ati?

Ta waeth rwy newydd rannu’r rhaglen uchod ac wedi rhoi cwpl o ddolenni ar Wicipedia hefyd.

Gwleidyddiaeth ar Y Twll

Dyma ddwy erthygl ar Y Twll:

Rhannwch ac aildrydarwch yr erthyglau os ydych chi’n hoffi nhw. Gadewch sylw hyn yn oed, fel yn yr hen ddyddiau. Diolch o galon.

Roedd hi’n teimlo fel hen bryd i mi ddechrau comisiynu pethau gwleidyddol ar Y Twll. Mae hi’n amserol.

Mae hi hefyd yn teimlo fel bod pobl yn barod am flogiau sy’n cymysgu diwylliannau gyda gwleidyddiaeth; mae’n gweithio ar bethau fel BuzzFeed a Vice er enghraifft.

Dw i’n ystyried newid y thema WordPress i rywbeth fel cylchgrawn yn hytrach na blog er mwyn datgysylltu’r cofnodion a gwella’r cynrychiolaeth o’r hyn sydd ar gael o dan categoriau megis cerddoriaeth, ffilm, theatr, llyfrau, lleoliadau ayyb.

Yr unig beth technegol dw i wedi newid yn ddiweddar ydy cardiau Twitter. Hynny yw, os ydych chi’n rhannu dolen mae rhagolwg yn y trydariad gan gynnwys delwedd a chrynodeb o’r erthygl. Dyma enghraifft.

Bydd rhagor o bethau gwleidyddol gan fenywod a dynion dw i’n gobeithio. Gadewch i mi wybod os oes syniad ‘da chi.

Ymgyrch dros ie yn Ewrop

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffolineb llwyr.

Dw i’n penderfynol o ymgyrchu yn galed dros ie er mwyn cadw’r Deyrnas Gyfunol fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cnocio drysau, dosbarthu taflenni, lledaenu’r gair ar rwydweithiau digidol a beth bynnag arall sydd angen.

Dw i ddim yn cyffroi gymaint am ymdrechu i aros yn yr un lle. Ond weithiau dyna sydd angen.

Welai i chi ar y strydoedd?

Cwestiynu’r brif newyddion yn ôl BBC Cymru Fyw heddiw

Pennaeth canolfan Gymraeg yn ymddiswyddo.

Dyna’r brif stori ar wasanaeth newyddion Cymraeg y BBC ers chwe awr heddiw.

Dw i ddim yn dweud bod hi ddim yn addas fel stori fach o ddiddordeb i rai o bobl.

Ond ai dyna yw’r brif stori go iawn heddiw?

Mae ymwelwyr Cymraeg angen gwybod am yr economi, gwleidyddiaeth, trafnidiaeth, iechyd, addysg ac yn y blaen. Hefyd, ble mae’r newyddion rhyngwladol?

Dw i wedi sôn am hynny o’r blaen. Dw i’n hoff o BBC Cymru Fyw a dw i ddim yn rhoi bai ar y tîm newyddiadurol yng Nghymru o gwbl. Mae potensial i wneud rhywbeth gwell. Ai dyma yw’r peth gorau sy’n bosib yn y Gymraeg?

Mae’r sefyllfa yma yn adlewyrchu problemau sylfaenol gyda’r ffordd mae’r BBC fel corfforaeth yn ystyried y Gymraeg, iaith isradd ar gyfer materion plwyfol yn unig, iaith sydd ddim yn haeddu cael delio gydag unrhyw beth o bwys.

Ond mae dyletswydd ar y BBC i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus. ‘Hysbysu, addysgu a diddanu’ yw slogan y gorfforaeth. Yn y Gymraeg ar-lein dw i ddim yn gweld sut mae’r gorfforaeth yn llwyddo i gyrraedd y nod hynny.

John Bwlchllan a Merêd

Mae hi’n teimlo fel bod cenhedlaeth o gewri yn ein gadael ni.

‘Gerallt, John Davies a Merêd o fewn saith mis i’w gilydd. Mae’r sêr yn syrthio.’ meddai Gruff Antur.

‘Wir-yr, mae ‘na hen do o Gymry arbennig tu hwnt ym machlud eu dyddiau ac yn araf ddiflannu. Ac ma’n rhyfeddol drist #merêd’ meddai Jason Morgan.

Dw i wedi cyhoeddi erthyglau am Dr John Davies a Dr Meredydd Evans yr wythnos hon er mwyn ceisio dysgu a cael bach o ysbrydoliaeth.

Diolch i Osian Gruffydd am help gyda gramadeg.