Lefi Gruffudd, Amazon a’r dewis amgen

Mae Lefi Gruffudd yn ddefnyddio ei golofn Western Fail heddiw i gwyno am Amazon – eto!

Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r Lolfa a chyfryngau Cymraeg wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r un darparwr e-lyfrau sawl gwaith. Gweler: sawl stori Golwg 360 ers 2011 a chofnod mis yma ar blog newydd Y Lolfa. Roedd erthygl yn gylchgrawn Lol eleni hefyd am Dafydd El a’i Kindle am ddim.

Mae’r dyfodol dosbarthiad e-lyfrau yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru, gan gynnwys busnesau Cymraeg, addysg Cymraeg, diwylliant, democratiaeth a mwy. Mae’r rhyddid i ddosbarthu meddyliau yn y fantol hyd yn oed. Dyma pam dw i’n cytuno gyda lot o bwyntiau Lefi ar y cyfan. Rydyn ni wedi trafod pynciau tebyg wyneb i wyneb unwaith neu dwywaith. Ein casgliad, yn fras, oedd: mae Amazon yn mynd i ennill lot o’r farchnad e-lyfrau. Ond does dim eisiau helpu nhw.

Mae’r rhan fwyaf o’r erthygl heddiw yn siarad am Amazon gyda sôn bach ar y diwedd am opsiynau eraill, y Nook a’r Kobo. Byddai rhyw fath o ymgyrchu yn syniad da, gan gynnwys ymgyrchu yn erbyn Amazon. Ond Y Lolfa ydy cwmni – yn bennaf dw i eisiau gweld rhyw fath o ymgyrch marchnata i awgrymu beth ddylen ni wneud fel darllenwyr Cymraeg y Nadolig yma. Dyma beth sydd ar goll.

Does dim e-ddarllenydd gyda fi ar hyn o bryd. Dw i ddim yn erbyn y cysyniad o ddarllen e-lyfrau yn eu hanfod. Ond pob tro dw i’n ystyried y systemau tu ôl i e-lyfrau dw i’n dod yn ôl i brint. Mae’r sôn am gynnydd technolegol yn amherthnasol os fydda i’n colli’r rhyddid dw i’n cymryd yn ganiataol ar brint. Mae mwy o ryddid gyda llyfrau printiedig.
Pob tro mae rhywun yn prynu catalog, sori dyfais, Amazon maen nhw yn rhan o system Amazon. Darllena’r dudalen fer The Danger of E-books gan Richard Stallman – dadl glir iawn.

Yn ogystal â fy nghasgliad o lyfrau printiedig, dw i’n bwriadu prynu dyfais e-ddarllenydd rhywbryd. Mae pobl eraill yn yr un sefyllfa. Does dim clem gyda fi eto pa un i’w ddewis heblaw dw i’n sicr dw i ddim eisiau unrhyw beth Amazon.

Wel, pwy sydd yn mynd i werthu dyfais i fi? Tasai’r Lolfa neu unrhyw gyhoeddwr yng Nghymru, er enghraifft, yn argymell dyfais ‘Cyfeillgar i’r Gymraeg’ neu hyd yn oed cynnig dyfais ar werth byddwn i’n cymryd y cynnig o ddifrif. Dw i’n gallu dychmygu’r logo ar y sticeri nawr: Cyfeillgar i’r Gymraeg, y dewis amgen sydd angen. (Dw i wedi trafod cyfleoedd eraill i gyhoeddwyr.)

Mae’r cyhoeddwyr yng Nghymru, gyda help newyddion, blogiau a sefydliadau Cymraeg, mewn lle da i ddangos ‘ecosystem’ amgen i ni. Nook neu Kobo neu Sony? Neu rhywbeth arall?

Dyddiau cynnar yn y stori e-lyfrau

Des i ar draws erthygl Guardian o Awst 2011 gan William Skidelsky am brisiau llyfrau ac e-lyfrau, dyma’r diweddglo:

[…] It’s still early days in the ebook story, and no doubt there’ll be many disputes and disruptions along these lines in the future. But here’s a final thought for now. Was it wise to allow a situation in which a single company – Amazon – became market leader in terms of both a digital product (the ebook) and the hardware through which it’s delivered? (pwyslais fi)

Na, ddim yn doeth. Ond dyw’r integreiddiad fertigoleg Amazon ddim wedi digwydd yn llwyr eto.

Beth sy’n wylltio fi yw’r agwedd ‘bydd monopoli Amazon yn anochel yng Nghymru felly be’ ydy’r pwynt hyd yn oed meddwl am unrhyw marchnad amgen?’. Mae’n debyg i’r stori Siôn Jobbins yn y llyfr Phenomenon of Welshness lle mae fe’n sôn am agweddau amheugar tuag at y siop llyfrau newydd yn Llanrwst (menter rhieni Myrddin ap Dafydd oedd y siop, y cyntaf i arbenigo mewn llyfrau Cymraeg?).

Yn diweddar rydyn ni wedi cael manylion cynnar o gynllun bosib Gwales i werthu e-lyfrau. Gwych ond bydd marchnad go iawn yn y sector preifat yn neis hefyd. Byddan ni’n methu arloesi yng Nghymru heb cystadleuaeth iachus. Dw i ddim yn licio’r argymhelliad DRM yn yr adroddiad wrth gwrs, na’r rhesymeg. Mae Y Lolfa wedi bod yn hapus i werthu llyfrau heb DRM ers blynyddoedd, yn uniongyrchol, er dyw’r siop e-lyfrau ddim yn gyflawn.

Mae dealltwriaeth y marchnad llyfrau Cymraeg yn well yn Aberystwyth, Talybont, Caernarfon, Caerdydd nag unrhyw swyddfa Amazon. Dw i’n meddwl bod e’n werth ystyried y cyfleoedd tra bod y galw yn tyfu.

E-lyfrau 2011, recordiadau 2004

Fel ateb i’r cofnod diwethaf mae Ifan wedi cyhoeddi cofnod ac yn dweud:

[…] Yn ddelfrydol, wrth gwrs, fe fyddai pawb yn defnyddio cynnyrch open source, ond fel y mae pethau mae’r rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau’r cwmnïau mawr, gan gynnwys Kindle ac iTunes. Er mwyaf sicrhau bod cynnyrch Cymraeg yn cyrraedd ei gynulleidfa, onid yw’n gwneud synnwyr cyhoeddi drwy’r cyfrwng sy’n debygol o gyrraedd y mwyafrif? [..] (pwyslais fi)

Wel, na. Ble mae’r data? Does dim data gyda fi chwaith ond dw i’n anghytuno. Dw i’n teimlo fod perchnogaeth Kindle yn isel iawn ymhlith darllenwyr Cymraeg. Efallai mae’n rhy isel i atynnu Amazon i’r farchnad Cymraeg ar hyn o bryd.

Mae cyfle bob hyn a hyn i fanteisio ar y gwagle ac i ffeindio rhywbeth sy’n dda i’n cwmniau ‘cynnwys’ (cyhoeddwyr tro yma). Mae cyfle i dyfu busnes tu allan i’r dosbarthwr/storfa mwyaf yn ieithoedd/llefydd eraill. Oherwydd mae’r marchnad e-lyfrau Cymraeg yn agored iawn ym mis Tachwedd 2011.

Roedd cyfle debyg 7 neu 8 flynedd yn ôl yn y marchnad recordiadau. Dw i’n cofio achos o’n i’n rheoli cwmni recordiadau ar y pryd. Ar y pryd Bleep.com oedd y lle i brynu electronica, nid iTunes Store. Roedd electronica yn sin ar wahan i roc braidd gyda’i gigs, cyfryngau ei hun ayyb.

Roedd Bleep.com yn rhan o Warp Records ac roedden nhw yn werthu i ffans yn uniongyrchol – o gatalog nhw yn unig ar y dechrau. Roedd disgrifiadau yn manwl ac roedd y profiad yn dda ac roedd y ffeiliau yn MP3 (cyfleus), sydd ddim yn fformat hollol ‘agored’ yn union ond doedd na ddim DRM. Bleep oedd yr unig opsiwn i brynu rhai o’r artistiaid ar y dechrau. Hwyrach wnaethon nhw cadw’r cwsmeriaid dw i’n siwr. Ar y pryd roedd y catalog iTunes Store gyda chatalog anghyflawn, mewn AAC caeëdig yn hytrach na MP3 (rhydd, ish).

Hwyrach roedd stwff Warp ar iTunes hefyd wrth gwrs wrth gwrs wrth gwrs. Ac ar eMusic, Rhapsody, 7Digital, We7, Spotify a phob gwasanaeth arall yn y pen draw. Ond cafodd Bleep.com ‘first mover advantage’ yn y marchnad electronica.

Beth dw i’n trio dweud yw, y Gymraeg ydy’r electronica o lyfrau mewn ffordd. (Ifan Morgan Jones yw Autechre, Ned Thomas yw’r Aphex Twin.) Mae angen ‘Bleep.com o lyfrau Cymraeg’. Mae gyda ni ffans penodol, ‘sianeli’ ein hun sydd yn fodlon cefnogi’r opsiwn lleol. Does dim rheswm nawr pam mae rhaid i ni ystyried Amazon fel the only game in town. Mae opsiynau eraill NAWR. Ond bydd siop Cymreig yn neis iawn i bawb.

Roedd defnydd Apple o 100% DRM i adeiladu monopoli/ecosystem yn sinigaidd iawn. Y neges i’r labeli oedd scaremongering am gopïo ayyb. Roedd Apple yn sinigaidd ond o leaif roedd yr iPod yn cefnogi MP3 o’r dechrau! Mae Amazon wedi bod yn ddrwg iawn gyda Kindle sydd ddim yn derbyn ePub o gwbl ar hyn o bryd. Mwy na cheeky. Mae busnesau yn wahanol – prif busnes Apple yw’r dyfeisiau, prif busnes Amazon yw’r cynnwys. Fel y dwedais mae Amazon yn colli arian ar bob Kindle Fire. Maen nhw eisiau rheoli’r farchnad llyfrau BYD-EANG!

O ran siop annibynnol mae’r issues hawliau yn haws gyda llyfrau. Ac mae’r maint yn llai na MP3s felly mae’r costau yn llai.

Efallai bydd 3 mis neu 6 mis, efallai 12 mis o gyfle i ddechrau rhywbeth a gwerthu llyfrau yn uniongyrchol a chadw mwy o’r arian yng Nghymru.