Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol):

1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.)

Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

2. Roedd y sylw uchod gan Rhodri ap Dyfrig. Mae fe’n adrodd meddyliau ar ôl Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd.

Sut i ddechrau blog lleol

3. Fy nghyfraniad i’r sgwrs am lleol yng Nghymru: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr, tudalen newydd ar Hedyn

Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.

Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.

Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂

Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.

Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.

Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.

(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)

I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.

Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.

Mae Dave Winer, tad blogio ac RSS, yn cytuno:

Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.

Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.

Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.

Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!

Gyda llaw croeso i ti cyfrannu: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr

Diwylliant rhydd: gofyn i’r Llyfrgell Genedlaethol am ein hetifeddiaeth

Canslwyd. Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delwedd tu ol y nodyn yma.

Diwrnod Pethau Bychain hapus!

Dw i’n postio pethau amrywiol yn safleoedd gwahanol. Ond ro’n i eisiau postio delwedd o Yn Y Lhyvyr Hwnn (y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf o 1546) yma. Basai’n ffordd briodol o ddathlu’r chwyldro cyhoeddi newydd, o’n i’n meddwl. Ond dyw Llyfrgell Genedlaethol ddim eisiau rhannu’r delweddau ar hyn o bryd. Dw i wedi postio’r llythyr isod iddyn nhw.

Annwyl Llyfrgellydd

Dw i wedi darllen darnau o’r llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf, Yn y Lhyvyr Hwnn. Dw i eisiau eu ail-cyhoeddi nhw ar fy mlog. Does dim copi o’r llyfr gyda fi yn anffodus ond ffeindiais i luniau ar eich gwefan.

Mae’r lluniau yn dweud “Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delweddau a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd”.

Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 1546 yn wreiddiol felly mae’r llyfr yn mas o hawlfraint. Baswn i awgrymu bod mai y cyhoedd sydd yn ei berchen e, yn cynnwys y pobol o Cymru.

Hoffwn i’ch ofyn i chi i newid y statws y delweddau i’r parth cyhoeddus – am Yn y Lhyvyr Hwnn a phob llyfr arall yn eich casgliad arlein. Maen nhw i gyd yn weithiau hollol deilliadol sydd yn deillio’n llwyr o’r llyfrau gwreiddol. Mae arian cyhoeddus yn cefnogi’r Llyfrgell felly dylai popeth yn y casgliad arlein fod yn y parth cyhoeddus.

Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am y delweddau o Yn y Lhyvyr Hwnn a llawer o lyfrau eraill. Ond dyw’r mynedfa i’r casgliad ar hyn o bryd ddim yn digon llydan. Ar hyn o bryd rhaid i bobol gofyn o flaen llaw ar gyfer am ail-gyhoeddi, ail-ddefnyddio neu ail-gymysgu o’r delweddau.

Dw i’n edrych ymlaen at eich ymateb.

Oddi wrth

Carl Morris

Dyn ni’n siarad am ein llyfrau yn y parth cyhoeddus yma, ein hetifeddiaeth.

Gwnaf i bostio unrhyw ateb. (Diolch Rhys Wynne am help gyda gramadeg y llythyr yma.)

Mwynha weddill y diwrnod Pethau Bychain!