Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti adael sylw neu fod yn rhan o rywbeth.

Mae rhai o hackathons yn ffug. Mae pobol yn sgwennu’r cod rhywle dawel cyn iddyn nhw fynd! Hefyd mae cwmnïau yn defnyddio nhw i ffeindio talent a syniadau.

Byddwn i o blaid rhywbeth Hacio’r Iaith gyda ffocws penodol ac ymarferol.

Mae cymhareb o spectators i gyfranogwyr yn bwysig gyda rhywbeth ymarferol. Efallai bydd angen gweithdy bach ar y dechrau ac wedyn mae pobol yn gallu ymarfer y sgiliau newydd?

Efallai mae angen ‘cyfyngiadau’ hefyd sef
– casgliad o ddata
– neu API
– neu pwnc penodol
er mwyn sbarduno syniadau a chanolbwyntio ar rhywbeth.

e.e.
archif S4C
archif Radio Cymru
data Radio Cymru, e.e. playlist
archif Llyfrgell Gen
“barddoniaeth”
mynyddoedd
Y Rhestr o flogiau ar hedyn.net
Wicipedia Cymraeg
stwff yn Gymraeg dan Creative Commons
data Umap
ayyb

DIWEDDARIAD: mae’r sgwrs wedi symud i’r wefan Hacio’r Iaith

Fflachio / Hacio’r Iaith – beth ddysgais i

Dyma’r fideo o fy sesiwn Fflachio’r Iaith i’w wylio eto ac eto!

(Yn y fideo dw i’n sôn am rhedeg Android ar efelychydd Eclipse ar dy gyfrifiadur. Dylet ti chwarae gydag Eclipse oes os diddordeb gyda ti.)

Dyma beth ddysgais i:

  • Mae’n bwysig iawn i ailadrodd y Rheol Dau Droed, sef os wyt ti eisiau gadael unrhyw bryd dylet ti adael. O’n i’n gwybod oedd y pwnc yn niche felly gwnes i atgoffa pobol ar y dechrau.
  • Mae’n bosib gwneud sesiwn Hacio’r Iaith heb unrhyw baratoad. Ac mae lle i sesiynau ymarferol amlgyfrannog.  Baddiel and Skinner Unplanned yn hytrach na Christmas Lectures.
  • Mae’r fformat sgrin + cyflwynydd + cynulleidfa yn creu disgwyliadau i ryw raddau. Cawson ni lot o help a chyfranogiad ond efallai bydd e’n haws i greu awyrgylch neis gyda strwythur ‘agored’, e.e. cylch o seddau. Diolch i bawb am ddod a chyfrannu!
  • Dw i wedi bod yn rhan o Hacio’r Iaith ers y dechrau, tri cynhadledd a sesiynau mewn Chapter ayyb, dw i’n hapus i ddweud bod i erioed wedi darparu ’darlith traddodiadol’! Er bod darlith traddodiadol yn hollol iawn dw i’n gweithio mewn ffordd gwahanol.
  • Cyn i mi ddechrau tro nesaf dylwn i dreulio tri neu bedwar munud i baratoi’r stafell i annog cyfranogiad. Er enghraifft ambell waith mae’n well i fod yng nghanol y stafell gyda dwy sgrin – un mewn gliniadur ac un allanol i ddangos y sgrin i bobol gyferbyn.
  • Mae gyda phobol lot i’w gyfrannu, yn enwedig y pobol ‘technegol’. Ond ar hyn o bryd mae rhai ohonyn nhw yn eithaf distaw, efallai dydyn nhw ddim yn teimlo digon hyderus i fentro sesiwn? Neu ydyn nhw eisiau mwy o anogaeth i ffeindio pwnc diddorol? Ar y cyfan roedd y cynrychioliad o bobol yn eithaf da: dynion a benywod, pob oedran, pynciau a diddordebau gwahanol, ayyb. Tra bod Hacio’r Iaith yn ymestyn i bobol o bob arbenigaeth (ac yn croesawu tips am sut i fod yn gyfartal) mae angen cofio a chefnogi’r gîcs. Efallai bydd sesiynau niche iawn yn syniad.
  • Tra bod i’n siarad dw i’n symud fy mreichiau eithaf lot. Mae angen ail-asesu effeithiolrwydd y dull yma yn sicr.
  • O safbwynt symudol roedden ni’n methu rhedeg yr ap Helo Byd ar ffôn (yn hytrach na chyfrifiadur). Felly roedd y sesiwn yn fethiant! Paid ag ofni methiant.
  • Y term llinyn (yn y cyd-destun meddalwedd).
  • Mae dal galw am Android Cymraeg! Mae’r system yn enfawr ond dylai fe fod yn bosib gyda chyd-weithredu. Gwnaf i drio gosod system cyfieithu hawdd ar-lein (gydag XML, schemas ac ati yn y cefndir yn saff).
  • Mae galw am wybodaeth hygyrch am sgwennu cod – rhyw fath o gwrs byr am ddim ar-lein fel Codeacademy? Wrth gwrs dw i’n meddwl am rhywbeth yn Gymraeg gyda chynnwys brodorol. Mae’n bwysig, hyn yn oed, i fabwysiadu pethau yn Gymraeg er mwyn llifo trwy’r sgwrs a phobol Cymraeg a newid yr ‘agenda’.

Holi am gynnwys niche yn Gymraeg

Diolch i Ifan am ei sylw ar fy nghofnod diwethaf. Dw i wedi copi’r sylw. Rydyn ni’n siarad am rywbeth cyffredinol a phwysig ar y we Gymraeg, haeddu cofnod ar wahan. Darn o’r sylw:

Mae hynny’n bwysig wrth gwrs ond mae yna berygl gyda gwefan Cymraeg eich bod chi’n mynd i niche o fewn niche.

Er engraifft, fe allen i dreulio adnoddau ac amser ar greu a chynnal gwefan bysgota neu wyddbwyll yn Gymraeg. Fe fyddai yna lond dwrn o bobol wrth eu bodd ac yn ei ddefnyddio’n selog. Ond fe fyddet ti’n darparu gwasanaeth ar gyfer cynulleidfa bach o fewn cynulleidfa sydd eisoes yn fach. Os nad ydi gwefan chwaraeon Cymraeg y BBC yn gallu denu digon o ddefnyddwyr i gyfiawnhau ei fodolaeth, ti’n gweld y broblem sydd gyda ni.

Dw i’n gallu gweld y broblem yn sicr, dw i wedi bod yn profi mathau gwahanol o gynnwys niche yn Gymraeg ar y we am flwyddyn a hanner. Heblaw am eithriadau bach, mae’r rhan fwyaf wedi bod yn uniaith Gymraeg, e.e. ar ytwll.com, ar haciaith.com.

Eisiau dysgu mwy felly hoffwn i ofyn y cwestiynau yma:

  1. Ydy’r enghraifft BBC Chwaraeon yn ddigonol yma? Dw i ddim yn gyfarwydd iawn arno fe ond ydy’r cynnwys yn ddigon unigryw gyda digon o “hyrwyddo” priodol? Faint yw “cynnwys unieithog”?
  2. Mae’r enghreifftiau pysgota a gwyddbwyll yn dda a pherthnasol yma. Bydd gwyddbwyll yn wych! (Gyda llaw newydd ffeindio gwyddbwyll.com). I unrhyw un sy’n meddwl am bostio pethau ar y we: pam ydyn ni’n siarad am gwefannau llawn? Beth am ddechrau gyda chofnod neu fideo neu awdio neu rhywbeth fel arbrawf, efallai ar dy wefan neu efallai ar y we unrhyw le? (Mae lot o gwmniau yn trio arbrofion arloesol ar hyn o bryd, e.e. mae Guardian Local yn arbrawf yn gynnwys Caerdydd, Leeds a Chaeredin. Efallai rydyn ni eisiau trio rhywbeth bach yn hytrach na tri blog llawn gyda staff llawn amser ond mae’r cysyniad yn debyg. Profi am brofiad.)
  3. Sut allen ni cynnig rhywbeth yn Gymraeg sy’n well nag unrhyw beth arall arlein – yn unrhyw iaith? Cwestiwn anodd ond efallai rydyn ni’n cystadlu gyda Saesneg mwy a mwy nawr. Gawn ni trio technoleg newydd, e.e. beth am ail-chwarae gem gwyddbwyll Kasparov neu pwy bynnag cam-wrth-gam gyda sylwebaeth Cymraeg yn HTML5? Efallai ail-ddefnyddio meddalwedd cod agored.
  4. Beth yw llwyddiant? Beth yw llwyddiant yn dy ddiffiniad a chyd-destun? Nifer o ymwelwyr yn ystod yr un diwrnod? Neu yr un mis neu yr un flwyddyn? Neu presennoldeb yr iaith Gymraeg ar y we, dylanwad a chodi disgwyliadau?

Dw i ddim yn siŵr am unrhyw ateb fan hyn ond croeso i ti gadael sylw.

Hacio’r Iaith 2011 – trwsio technoleg gyda’n gilydd

Yn ôl y dyfeisiwr ac awdur Americanaidd Danny Hillis, technoleg yw “popeth sy ddim yn gweithio eto”. Mae hyn yn fewnwelediad defnyddiol – roedd dyfeisiau fel y car, y teledu, y gadair a’r pâr o esgidiau yn newydd yn y gorffennol. Gwnaethon nhw lwyddo pan roedden nhw yn rhan o gefndir ein bywydau.

Ar draws y byd, mae pobol yn trwsio technoleg ar gyfer eu hanghenion. Oni bai ein bod yn darganfod ffyrdd o addasu technoleg i’n cynorthwyo ni, gall barhau i fod yn ddiffygiol. Mewn rhai achosion, gall hyd yn oed weithio yn ein herbyn.

Yn Nghymru, dw i’n credu gallwn ddylanwadu’r defydd technoleg ar gyfer amcanion adeiladol, ar gyfer creadigrwydd, ar gyfer busnes, ar gyfer addysg, ar gyfer democratiaeth a llawer o ddefnyddiau eraill. Dyw hyn ddim yn digwydd ar ei ben ei hun, dyw’r cyfleoedd yma ddim yn codi os rydyn ni’n gadael y gwaith i bobol eraill.

Dw i’n cyd-drefnydd o Hacio’r Iaith, cymuned o bobol sy’n brwdfrydedd am yr iaith Gymraeg a’i ddefnydd o fewn technoleg ac ar y we. Rydyn ni’n cynnwys cyfryngis, rhaglenwyr meddalwedd, pobol creadigol, academyddion, blogwyr, ymgyrchwyr, gwneuthurwyr polisi a dylunwyr.

Rydyn ni’n grwp amrywiol o bob oedran a chefndir. Dydyn ni ddim yn rhannu’r un safbwynt, personaliaeth neu bwyslais ond yn aml dw i’n ffeindio fy nghydweithwyr Hacio’r Iaith i fod yn arbrofol, chwareus, chwilfrydig, di-ofn – ac agored.

Rydyn ni’n dathlu’r nodweddion yma drwy fabwysiadu’r fformat BarCamp ar gyfer ein “anghynhadledd”. Rydyn ni’n trefnu’r anghynhadledd Hacio’r Iaith nesaf – bydd e’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth mis yma.

Bydd y gynhadledd yn wahanol i gynadleddau traddodiadol oherwydd y diffyg areithiau gan sêr drud. Mae’r rhaglen i gyd yn cael ei chreu a datblygu gan y bobol, casgliad unigryw o bobol mewn amser a gofod. Yn yr wythnosau sy’n arwain at y digwyddiad, mae pobol yn cael eu annog i gofrestru’u enwau, awgrymu sesiynau a mesur cefnogaeth. Mae hyn yn digwydd ar y we, ar ein wici. Ar fore’r digwyddiad, mae’r rhaglennu yn parhau ar siart gyda nodiadau gludiog.

Bydd trafodaethau, cyflwyniadau, areithiau a sesiynau ymarferol. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae pobol yn cynllunio trafodaeth am deledu amlblatfform, sesiwn ymarferol i ddatblygu rhyngwyneb Cymraeg i ffonau Android ac efallai trafodaeth am theatr a thechnoleg. Bydd sesiynau ychwanegol yn digymell ac yn cael ei cynllunio yn ystod coffi neu ginio.

Mae unrhyw sesiwn angen dau o bobol fel isafrif – mae sesiwn fach yn iawn os yw’n ddefnyddiol a diddorol i’r bobol sy’n dod. Maen nhw’n gallu penderfynu’r polisi ar gyfer rhannu, ond fel arfer mae mor agored â phosib, gydag enwau’n cael eu rhoi i bod dyfyniad. Mae’r wybodaeth a thrafodaethau’n cael eu dogfennu a’u rhannu drwy fideo, lluniau, cofnodion blog a nodiadau ar y wici.

Dechreuodd y fformat BarCamp yn y maes technoleg, ond does dim yn rhwystro pobl rhag cynnal; mathau eraill o BarCamp. O gwmpas y byd mae’r fformat wedi mynd o dechnoleg i addysg, meddygaeth, celfyddydau, gwleidyddiaeth a grwpiau ffydd hefyd. Fel arfer mae mynediad yn rhad neu am ddim.

Fel fformat, mae’n ddelfrydol os wyt ti eisiau cael criw o bobol amrywiol at ei gilydd heb unrhyw uchelgais i ddechrau “busnes cynadleddau”. Does neb yn berchen ar y digwyddiad – felly mewn ffordd, mae pawb yn perchen arno fe.

Dw i’n credu bod rhannu yn llawer mwy buddiol na gwybodaeth berchnogol. Edrycha at y we: mae gwybodaeth yn doreithiog. Dolenni, sgwrs agored, meddalwedd cod agored, trwyddedu agored fel Comins Creadigol, maen nhw i gyd yn tyfu. Bydd cwmnïau yn ennill trwy gymhwysiad ac enw da yn hytrach na thrwy ddulliau o gyfrinachedd masnachol.

Os rydyn ni’n gallu cymhwyso fe, bydd rhannu teclynnau a gwybodaeth yn newyddion da i’r Gymraeg fel iaith fechan – a strategaeth iachus am y dyfodol.

Mae Hacio’r Iaith yn digwydd ar 29ain o fis Ionawr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mynediad am ddim ond cofrestrwch gan arwyddo eich enw ar y wici. Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar ôl ar hyn o bryd.

Diolch: Rhys Wynne am help gyda’r cofnod hwn.

This blog post is about the Hacio’r Iaith unconference in Aberystwyth on Saturday. Click on Wales published an English language version of this post today.

Meddyliau am diwylliant DIY arlein

Now form a band

Dyma dudalen enwog o Sideburns fanzine, mis Rhagfyr 1976. Wnaeth pobol ddim yn gallu ffeindio cyfryngau gyda diddordebau eu hun. Felly dechreuon nhw gylchgronau eu hun gyda llungopiwyr. Ti’n gallu galw fe DIY, punk, ayyb. Mae bandiau DIY yn annog cyfryngau DIY yn hybu bandiau DIY…

Dyn ni ddim yn byw yn y 70au, dyn ni’n gallu cael ysbrydoliaeth. Fel Orange Juice pan gopïon nhw solo/riff o Buzzcocks.

Beth yw’r cywerthydd nawr arlein? Ti’n gallu dechrau cyfryngau dy hun gyda meddalwedd rydd, e.e. WordPress. Y band? Beth bynnag ti eisiau yn y byd. Neu dy byd. Weithiau mae’r fanzine yn dathlu ei hun, ti’n mwynhau’r fanzine ei hun.

Dw i dal yn meddwl am ffordd i hybu arlein fel teclyn defnyddiol, ar ôl Hacio’r Iaith yn enwedig. Dw i’n teimlo aflonydd.

“Dydy arlein ddim yn ddefnyddiol am bopeth” meddit ti. Ti’n gallu esbonio yn dy flog dy hun achos dw i wedi cau’r sylwadau tro yma.

Pam ydw i’n wneud Hacio’r Iaith?

Dw i’n cyd-trefnu Hacio’r Iaith. Gallet ti cyfrannu hefyd.

Beth yw Hacio’r Iaith? Darllena’r cofnod gyntaf ar Metastwnsh gan Rhodri ap Dyfrig. Mae drysau yn agor iawn.

Gobeithio bydd pobol yn deall pam dyn ni’n wneud y digwyddiad. Dyn ni’n trefnu Hacio’r Iaith achos dyn ni’n caru’r iaith a dyn ni’n hoffi thechnoleg defnyddiol. Dyn ni’n bwriadu i gael hwyl a datblygu pethau da ar yr un pryd.

Mae proses yn pwysig. Baswn i annog unrhyw un i dilyn y broses. Byddan ni rhannu pob manylyn. Dyn ni’n blogio a defnyddio’r wici.

Gallet ti ymuno’r digwyddiad a dysgu rhywbeth wrth gwrs. A rwyt ti’n gallu copi’r broses i wneud digwyddiad dy hun. Hoffen ni dangos bod e’n gorau i rhannu dy syniadau.

Dw i’n ffeindio rhywbeth yn aml. Pan dw i’n rhyddhau fy syniadau, dw i’n ffeindio pobol eraill ac adeiladu nhw gyda’n gilydd. Neu dw i’n ysbrydoli pobol eraill.

Dw i’n chwilio am “cystadleuaeth”. Dyma pam ro’n i’n dechrau blogio yn y Gymraeg. Ro’n i ddim yn gallu aros am blogiau newydd. Weithiau, dw i eisiau bod fel cwmni dillad chwareon. Jyst gwnaf e. Ha ha.

Es i i WordCamp yng Nghaerdydd blwyddyn yma. Daeth llawer o bobol ledled Prydain i drafod WordPress – bron pawb am eu gwaith. Mae fy nghefndir yw busnes a dw i’n meddwl bod llawer o gyfleoedd gyda ni yma. Basai’n gret i creu cyfleoedd am busnes newydd yn y dyfodol trwy pethau fel Hacio’r Iaith. Hoffwn i annog trafodaeth yn y gyfeiriad hon. Does dim rhaid i ni bod yn difrifol, gallen ni mwynhau’r sgwrs.

Ysbrydoliaeth BarCamp:

Ysbrydoliaeth hack day:

(Gallet ti mynd i hack day a BarCamp ar Wicipedia.)

Byddan ni rhannu dolenni a manylion eraill ar Twitter. Dilyna Rhodri ap Dyfrig, Rhys Wynne, fi a phobol eraill…