Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol):

1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.)

Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

2. Roedd y sylw uchod gan Rhodri ap Dyfrig. Mae fe’n adrodd meddyliau ar ôl Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd.

Sut i ddechrau blog lleol

3. Fy nghyfraniad i’r sgwrs am lleol yng Nghymru: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr, tudalen newydd ar Hedyn

Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.

Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.

Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂

Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.

Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.

Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.

(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)

I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.

Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.

Mae Dave Winer, tad blogio ac RSS, yn cytuno:

Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.

Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.

Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.

Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!

Gyda llaw croeso i ti cyfrannu: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr

Skdadl, arbrawf sylwadau arlein

Sut ydyn ni’n gallu dylunio systemau arlein am drafodaeth dda yn yr iaith Gymraeg? Dw i wedi bod yn brofi’r Bydysawd, dw i’n eitha hapus gyda fe. Dw i ddim wedi gorffen gyda fe ond wythnos diwethaf o’n i eisiau trio rhywbeth gwahanol.

Gwnes i lanlwytho erthygl o gylchgrawn Golwg, Galw am drydar Cymraeg pwrpasol gan Angharad Mair, i’r we gydag ychydig o help gan sganiwr, meddalwedd OCR, WordPress ac ategyn o’r enw Commentariat. Roedd y system yn eitha gwahanol i’r system Y Bydysawd felly defnyddiais i enw gwahanol, Skdadl.

Mae’r erthygl wedi cael 29 sylw hyd yn hyn, yn gynnwys dau sylw gennyf i ac un gan Angharad Mair ei hun. Tro yma roedd y sylwadau o ansawdd hefyd. Croeso i ti gadael sylw os ti eisiau trio fe.

Pwrpas gwreiddiol Commentariat oedd dogfennau ymgynghori cyhoeddus. Ond fel WordPress ei hun, mae’r ategyn wedi cael ei rhyddhau dan GPL felly o’n i’n rhydd i fwynhau rhyddid sero. Dw i ddim yn awgrymu y triniaeth Twitter am bob cofnod ond efallai bydda i ailadrodd y peth gydag erthygl arall. Y syniad oedd arbrawf, esgus i drio Commentariat ac i newid yr erthygl Angharad Mair am defnydd Twitter i “tweets” – wel, paragraffau ar wahan. Yn hytrach na chynnyrch go iawn. (Ateb i gwestiwn Dafydd, “ydi e ar gyfer pobl thic sydd ddim yn gallu ystyried a thrafod erthygl yn ei gyfanrwydd (fel sydd angen gwneud?)”.)

Dw i’n meddwl bod 29 sylw deallus yn llwyddiant bach yn yr iaith Gymraeg achos mae rhan fwyaf o erthyglau neu gofnodion arlein yn disgwyl dim ond ychydig o sylwadau neu dim byd. Faint fasen ni wedi disgwyl gyda sylwadau ar y gwaelod, y ffordd draddodiadol? Mae’n anodd dweud.

Heblaw y system sylwadau anarferol, beth oedd y ffactoriau pwysig?

  • barn profoclyd (yn hytrach na straeon newyddion “niwtral”, y rhan fwyaf ar Y Bydysawd ar hyn o bryd)
  • cyfeiriaidau i bethau cyfoes fel Yr Aifft, Twitter, Umap, Hacio’r Iaith ac S4C yn yr un erthygl
  • mae nifer da o bobol yn nabod yr awdur trwy teledu, ymgyrchu ayyb. Efallai dylai hi blogio.
  • erthygl am Twitter, gwnes i hyrwyddo fe ar Twitter i bobol yn fy rhwydwaith ac ebost i 10 person yn unig (ateb bosib i rhai o’r broblemau o diffyg sylwadau). Mae Skdadl ar gau i Google ar hyn o bryd. Dw i’n postio’r dolen ar Facebook heno. Gyda llaw, dw i ddim yn poeni am drafodaethau “meta”. Yn amlwg roedd pobol yn siarad am y ffôn ar y ffônau cyntaf a wedyn ehangu i bynciau eraill, does dim ots.
  • o’n i’n gwybod bod yr erthygl yn brofoclyd cyn i mi brynu Golwg (ar ôl clywed amdano fe a darllen sgwrs o flaen llaw ar… Twitter). Dw i’n prynu Golwg pan dw i eisiau darllen rhywbeth penodol. Skdadl yw’r unig lle i ddarllen yr erthygl arlein. Does neb wedi cwyno am fy defnydd answyddogol.

Holi am y Drwydded Llywodraeth Agored yn y DU

Swyddfa Tramor a thrwyddedu

Un enghraifft o ddatganiad gan adran Llywodraeth dan y drwydded agored newydd gan Lywodraeth DU. Newyddion da am lawer o resymau.

Pam greodd Llywodraeth DU trwydded newydd? Dw i’n methu ffeindio rheswm digon da i osgoi Comins Creadigol am ddata a dogfennau.

O’r tudalen am meddalwedd:

  • Software which is the original work of public sector employees should use a default licence. The default licence recommended is the Open Government Licence.
  • Software developed by public sector employees from open source software may be released under a licence consistent with the open source software.

Meddalwedd, dogfennau, beth yw’r gwahaniaeth? LLAWER! Dw i ddim yn deall pam dyn nhw ddim yn defnyddio GPL neu BSD am feddalwedd newydd.

Mae’r trwyddedau BSD yn fwy rhydd na GPL ond maen nhw dal yn gweithio gyda’i gilydd. (Dyna pam mae Apple yn gallu defnyddio systemau Unix fel sylfaen a dosbarthu – heb ddosbarthu cod ffynhonnell.)

Fy mhwynt. Dylet ti ddarllen pa mor dda a chynhwysfawr ydy’r GPL: termau ac amodau am ailddefnydd, cod ffynhonnell, cod crynodol, ategion ayyb.

Dyn ni’n gallu cyd-ddefnyddio’r dogfennau dan y Drwydded a dogfennau dan Gomins Creadigol. Ond ble mae’r addewid gyda meddalwedd?

Mae meddalwedd yn edrych fel ôl-ystyriaeth yma.

Sa’ i eisiau cwyno am y syniad, mae’n wych. Bydd e’n gyffrous i weld y projectau, busnesau newydd, straeon sy’n dadansoddi’r data yn y wasg, atebolrwydd gwell ayyb.

Sa’ i eisiau fersiwn Cymraeg o’r drwydded, dw i’n chwilio am resymau pam mae trwydded newydd yn bodoli o gwbl. Gobeithio mae gyda nhw rhesymau da nid jyst trwydded ego.

Joi Ito a thrwyddedau gwahanol:

Companies and governments are beginning to create vanity licenses either for purely branding and egotistical reasons or because there are certain features that they would like to “tweak”. What many of these communities don’t understand is that tweaking a free content license is a lot like tweaking character codes or the Internet protocol. While you may have some satisfaction of a minor feature or a feeling of ownership, you will introduce the friction of yet another license that we all have to understand and in many cases, fundamental incompatibility and lack of interoperability.

Cwestiwn olaf: pryd fydd Llywodraeth Cymru yn wneud rhywbeth tebyg?

YCHWANEGOL 05/10/2010:

Dw i wedi derbyn atebion i rai o fy nghwestiynau am destun/data a meddalwedd. Dw i wedi dysgu rhywbeth am ddata a thestun, mae’n edrych yn dda iawn.

Anghofiais i bwynt dilys ar yr ochr meddalwedd, ti’n methu ail-trwyddedu cod sydd dan GPL dan unrhyw drwydded arall. Mae ailddefnydd o feddalwedd yn gyffredin iawn – mewn rhai o gyd-destunau mae GPL yn de facto yn ymarferol.

Mae pobol yn trafod OGL yn y cyd-destun meddalwedd ar y gofrestr UK Government Data Developers fan hyn. Mae National Archives dal ar agor am adborth.

YCHWANEGOL 14/10/2010:

Newydd sylwi ateb am copyleft, GPL a meddalwedd.