Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg

Mae gymaint o flogiau Cymraeg am fwyd. Ond does dim llawer o fideos coginio.

Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio braidd ers fy fideo difrifol iawn am sut i greu bara garlleg. Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg. Bara brith falle?

Dw i eisiau dychmygu bod pobl eraill yn meddwl ‘byddwn i’n gallu creu rhywbeth lot gwell na hyn…’. Dyma fy strategaeth yn aml iawn – ysbrydoliaeth negyddol. Sa’ i’n meddwl bod e’n gweithio bob tro.

Wrth gwrs dw i’n ystyried ymdrechion gwirfoddol yn bennaf.

Riwbobmania

Pwy sy’n dweud does na ddim stwff niche ar y we Gymraeg? Ar ddechrau’r wythnos dwedodd y blog Hadau:

[…] Pigais i 3kg o riwbob dros y penwythnos, felly gan ei bod hi’n Ŵyl y Banc es i ati ddydd Llun i baratoi danteithion. Ryseitiau i ddilyn…

Ac mae digon o ryseitiau am bryd o fwyd riwbob-gyda-phopeth: jam riwbob, fodca riwbob a hufen ia riwbob.

Dw i ddim yn siŵr os ydy riwbobmania yn cyfrif fel trend go iawn eto. Ond gawn ni weld.