Mae’n bosib. Roedd rhaid i mi edrych at y cod a thynnu darn mas.
Ond dyw e ddim yn hawdd iawn fel ag y mae ar YouTube/Vimeo ac ati – sdim angen hacio yna.
Bydd mwy o help gyda mewnosod yn codi y nifer o gyfranogwyr, y nifer o wylwyr a’r sgwrs o gwmpas y sioeau ac yn gyrru pobol i wefan Y Sioe, cariad@iaith ac yn y blaen.
Yn fy marn i, mae’n rhan bwysig o’r ystyr ‘amlblatfform’/S4C newydd. Bwyda ni gyda chodau fideos o.g.y.dd!
Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).
Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.
Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.
Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂
Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.
Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.
Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.
(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)
I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.
Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.
Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.
Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.
Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.
Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!
Mae’r gwylio fideo arlein yn tyfu bob blwyddyn. Yn yr UDA y cyfartaledd yw 187 fideo bob mis yn ôl comScore. Beth yw’r ffigur yng Nghymru? Dw i ddim yn sicr ond dw i eisiau gwybod bod y cynnwys Cymraeg yn bodoli yna am siaradwyr, dysgwyr, plant sy’n chwilio.
Dw i wedi bod yn profi termau gwahanol ar YouTube chwilio: pynciau, enwau, termau cyffredinol.
Dyma siart o dermau a nifer o ganlyniadau heddiw.
term ar YouTube chwilio
nifer o ganlyniadau
wyddoniaeth
1
“Gerallt Gymro”
4
bydysawd
7
Cynghanedd
9
gwyddoniaeth
12
“dafydd ap gwilym”
25
Tyddewi
25
Llanystumdwy
26
gwleidyddiaeth
33
chwaraeon
38
addysg
68
Casnewydd
71
barddoniaeth
79
Dw i’n eitha siomedig gyda’r niferoedd yma. Mae pob nifer yn bras yn ôl YouTube chwilio, e.e. “about 12 results”. Ond baswn i wedi disgwyl mwy dan categoriau fel “gwyddoniaeth” yn enwedig. Mewn gwirionedd o’n i’n methu ffeindio cynnwys Cymraeg dan rhai o’r chwiliadau, e.e. bydysawd: un canlyniad go iawn, mae’r llall yn Saesneg/amherthnasol.
Problemau yma?
Diffyg cynnwys Cymraeg weithiau – dyw’r cynnwys perthnasol ddim yn bodoli ar YouTube o gwbl. Er enghraifft o’n i’n methu ffeindio lot o fideos o gerddi llawn gan Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg, yr iaith gwreiddiol.
Tagiau / metadata annigonol – weithiau mae fideos yn bodoli, ond mae chwilio yn gallu defnyddio dim ond y metadata (teitl, disgrifiad, tagiau, efallai sylwadau) i’w ffeindio. Mae hwn yn wir am chwaraeon wrth gwrs. Diffyg defnydd y tag er bod fideos chwaraeon yn bodoli yna. O leiaf mae’n ddweud rhywbeth am defnydd tagiau a’r aelodau o YouTube – efallai y diffyg sefydliadau?
Peth yw, mae tagiau a metadata yn “gofod enw” fel enwau parth. Rwyt ti’n gallu perchen ar tua 20% o ganlyniadau “gwyddoniaeth” gyda dy fideo nesaf sy’n berthnasol i’r categori gwyddoniaeth. Tagiau am ddim. Dw i ddim yn sôn am chwilio yn unig chwaith achos mae YouTube yn defnyddio’r metadata am ei system awgrymiadau.
Meddyliau?
(Newyddion da: mae YouTube yn cynnig cyfrifon fideo am ddim. Dechreua cyfrif YouTube am ddim am dy hun, dy dosbarth, dy gwmni neu dy sefyliad. Efallai pryna camera Flip hefyd – rhad. Plis defnyddia’r tagiau. Maen nhw am ddim hefyd.)
Plant, pobol di-Gymraeg, dysgwyr (unrhyw iaith), pobol tramor, byddar, karaoke, cerddoriaeth, darlithoedd, rhaglenni teledu, hwyl. Llawer o rhesymau.
Sut?
1. Lanlwythwch dy fideo di.
2. Creuwch ffeiliau gyda dy hoff golygydd testun, e.e. Gedit ar Linux Ubuntu, Notepad neu TextPad ar Windows, TextMate ar Apple Mac. (Neu ti’n gallu defnyddio meddalwedd proffesiynol.)