Rhestrau Twitter, amlieithrwydd a fy ymgyrch anweledig

Hwn yw ateb i Sion Jobbins, dw i wedi ei bostio yn agored yn hytrach nag ebost preifat.

Postiodd Sion:

Cer i’r wefan Blog Golwg360 i weld e (ar enw parth gwahanol i’r prif wefan Golwg360 am ryw reswm). Wnes i ddarganfod fod nhw yn defnyddio fy rhestr Twitter o’r enw Cymraeg.

Cer i’r cod HTML a ti’n gallu gweld fy enw yna… Dw i’n rheoli’r rhestr. Mewn theori dw i’n gallu hysbysebu ar Golwg360 am ddim os dw i eisiau(!) Efallai dylen nhw greu rhestr eu hun. Neu (gwell) ffeindio ffordd wahanol, e.e. defnyddio ffrwd o ffefrynnau i reoli’r cynnwys.

Problem yw, mae fy mwriadau yn wahanol i fwriadau Golwg360.

Y newyddion da yw, roedd rhaid i mi greu ail restr o’r enw Cymraeg2 ac mae hon wedi bwrw’r terfyn o 500 aelod. Felly y cyfanswm siaradwyr Cymraeg ar Twitter (gyda chyfrifon agored) wedi pasio 1000 yn ddiweddar.

Beth yw’r diffiniad “siaradwyr Cymraeg”? Cwestiwn anghywir. Beth yw FY niffiniad gan greu rhestrau? Gan greu’r rhestr o’n i eisiau “hyrwyddo” defydd o Gymraeg ar Twitter. Felly dw i wedi bod yn ychwanegu defnyddwyr dwyieithog, dysgwyr, mabwysiadwyr, pobol sy’n uniaith Saesneg ar Twitter ond yn gallu siarad Cymraeg. Sef, y spectrum llawn achos medr != defnydd. Yn aml iawn, Cymraeg neu Cymraeg2 yw’r rhestr gyntaf i “groesawi” defnyddwyr Twitter hollol newydd sbon. (Dw i’n defnyddio chwilio a dw i’n ffeindio tweets gyda chyfeiriadau i bobol newydd, e.e. “croeso fy ffrind @gwalchmai!” neu beth bynnag.)

Y negeseuon i aelodau newydd yw: ti’n rhan o’r clwb, croeso i ti defnyddio Cymraeg ar Twitter, gyda llaw dyma bobol eraill. Mae gen ti ddewis!

Casglu oedd fy thema pan wnes i ddechrau’r rhestr Cymraeg. Weithiau does dim digon o gyfleoedd, hyder, neu cysylltiadau gyda’r “cymuned” gyda phobol. Dw i’n methu siarad o ran pobol tu ôl rhestrau eraill o siaradwyr Cymraeg.

Dyw’r rhestrau ddim yn ddigon unieithog am unrhywbeth fel y defydd cyhoeddus gan Golwg360.

Bydd platfformau cynnwys yn adlewyrchi dwyieithogrwydd o unigolion, e.e. fy nefnydd ar fy nghyfrif personol.

Ond ar yr un pryd dw i’n meddwl bod cyfrifon uniaith Cymraeg yn bwysig. Enghreifftiau: @haciaith, @ytwll, @shwmae. Mae’n golygu ymdrech, gofal gyda retweets ayyb.

Hoffwn i archwilio’r shifft ieithyddol, diglossia ac effeithiau ieithyddol eraill ar gyfryngau cymdeithasol mwy. Paid ag anghofio gwasanaethau fel Quora gyda pholisïau yn erbyn amlieithrwydd hefyd.

Pam dylet ti agor dy broffil Twitter

Twitter

Dw i wastad yn siomedig pan mae siaradwyr Cymraeg yn cau proffiliau nhw.

Dw i’n dal i gasglu cofrestr o proffiliau Cymraeg. Ewch i’r gofrestr a darllena pobol eraill sy’n rhannu pethau. Diolch iddyn nhw. Dyn ni’n adeiladu’r rhwydwaith Cymraeg person wrth berson.

Mae Twitter yn gweithio yn dda pan ti’n agor dy broffil i bobol eraill a chwilio. Ti’n gallu gofyn cwestiynau, addysgu pobol eraill, dylanwadu pobol eraill, helpu dysgwr efallai. Mae pobol yn gallu nabod dy ddiddordebau a chynnig gwaith, swyddi a phethau diddorol.

Mae’r ymgyrch yn dechrau yma! Agora dy broffil. Pam lai?

Bydd yn dipyn gofalus gyda phethau ti’n postio. Mae pawb yn gallu darllen nhw. Dyna’r pwynt. Ond fydd pawb ddim yn darllen nhw rili. Dylet ti ddeall geotagging os ti’n defnyddio ffôn.

Agora dy broffil! (Ewch i Settings, cliria “protect my tweets”. Bocs gwag. Diolch.)

Neu os ti eisiau cael proffil preifat, dechrau proffil arall agored.

Wrth gwrs, ti’n gallu penderfynu pa fath o gyfrif ti eisiau rhedeg. Dw i wedi trio opsiwn preifat yn y llun yma. Ond dw i wedi troi’r opsiwn yn ôl yn sydyn. Dw i eisiau cyfrannu i’r we agor.

Dw i’n sôn am yr iaith hefyd wrth gwrs.

Os ti’n cau dy gyfrif, byddi di’n anweledig! A bydd dy iaith Gymraeg yn anweledig hefyd.