Diwinyddiaeth a thechnoleg gyda Kevin Kelly

Un o fy hoff feddylwyr a sgwennwyr ydy Kevin Kelly, sefydlwr cylchgrawn Wired. Mae ei wefan kk.org fel byd o flogiau a meddyliau profoclyd. Mae fe wastad yn cynnig safbwynt gwerth chweil ac unigryw fel arfer. Dw i ddim yn cytuno gyda fe bob tro, mae’i agwedd tuag at dechnoleg yn ‘Californiaidd’, sef positif iawn – sydd ddim yn briodol trwy’r amser yn fy marn i.

Beth bynnag, dyma gyfweliad gyda rhai o’i meddyliau am ddiwinyddiaeth, Iesu Grist, eglwys – a thechnoleg.

MWY 20/07/2011: Ateb gwych a doniol gan Nicholas Carr gydag ateb Kelly yn y sylwadau!

Trafod technoleg? Methiant cyfryngau prif-ffrwd

Dyma eitem newyddion teledu S4C, gan BBC, gyda sylw gennyf fi:

“A fydd yr e-lyfr yn achosi tranc y llyfr papur ac inc?”

Gwnaethon nhw defnyddio cyfanswm o 15 eiliad o’r fideo gyda fi. Wrth gwrs dwedais i lot mwy ond dw i’n deall sut mae teledu yn gweithio ac o’n i’n gwybod pwyslais yr eitem o flaen llaw. Dw i’n chwarae’r rôl syml, hyrwyddwr technoleg mewn drama BBC.

Mae’r rhai o bethau isod yn amlwg, nawr dw i’n gallu eu cwestiynu achos ces i gyfle i weld y peth o safbwynt arall a chyfrannu i eitem.

Yn aml iawn mae cyfryngau prif-ffrwd Saesneg gallu bod yn euog o drafodaeth arwynebol a Ludaidd am dechnoleg. Ond dw i’n meddwl efallai bod e’n waeth yn Gymraeg.

Un problem, mae gyda ni llai o ffynonellau newyddion a barn yn y cyfryngau prif-ffrwd. Dyma pam dw i eisiau darllen barnau o safbwyntiau gwahanol, e.e. yr erthygl Angharad Mair am Twitter. (Meddyliau am yr arbrawf.) Dw i ddim yn sicr os mae “prif-ffrwd” yn addas chwaith achos maen nhw mor fach.

Mwy na hynny, mae naratif parhaus o bygythiad technoleg yn y cyfryngau, dw i’n meddwl, yn enwedig technoleg yn erbyn ein traddodiadau ac hefyd, yn aml, yn erbyn yr iaith Gymraeg. Mae unrhyw syniad am stori yn dod trwy’r un lens. Y teimlad mwyaf priodol i unrhyw dechnoleg yw ofn. Ydy e’n rhan o’n hunaniaeth?

Yn y stori am e-lyfrau, mae’r siop yn cynrychioli’r traddodiad. Ond unrhyw siop llyfrau yw cwmni technoleg i ryw raddau – llyfrau yw technoleg gwybodaeth. Hefyd mae siopau fel unrhyw busnes yn gallu newid i gymryd mantais o gyfleoedd o bob math.

Dydyn ni ddim wedi archwilio lot o gwestiynau yma. Beth yw’r perthynas rhwng e-lyfrau a llyfrau papur? Mae’r elwa o’r dau yn mynd i’r cwmnïau cyhoeddi, ddylai fe golygu unrhyw “tranc” o gwbl? Wrth gwrs mae’r cymhareb 115:100 gan un cwmni yn eitha amherthnasol i unrhyw “tranc” neu twf yn llyfrau bapur o ran ystadegau. Mae’r ffigur Amazon yn cynrychioli’r UDA, pa mor wahanol yw Cymru neu’r DU ar hyn o bryd? Faint o bobol sy’n prynu e-lyfrau yn brynu llyfrau papur hefyd (lot dw i’n dyfalu)? Beth am fathau gwahanol o lyfrau, e.e. comics? Beth am Afal Drwg Adda a llyfrau eraill sy’n anodd neu amhosib i’w ffeindio? Sut ydyn ni’n gallu tyfu’r farchnad llyfrau, beth bynnag ydy’r fformatau? Beth yw’r problemau gydag Amazon a Kindle ayyb (mae problemau) – a’r gwahaniaeth rhwng y cysyniad a’r realiti, DRM a rheolaeth gan cwmni mawr ayyb? Beth yw’r rôl siopau? Ac ati.

Roedd y sgwrs yn Bedwen Lyfrau yn bositif iawn mewn gwirionedd. O leiaf cawson ni hanner awr i drafod y peth. (Gyda llaw, dyma syniad i BBC: beth am rhannu mwy o’r cyfweliadau ar-lein yn hytrach na gwastraffu’r fideo? O’n i eisiau clywed mwy o safbwynt Siop y Felin a Siôn T. Jobbins, er enghraifft. Dw i’n deall os oes gyda chi dwy funud yn unig ar y teledu ond does dim terfyn ar-lein. Beth am lanlwytho’r stwff i YouTube heb unrhyw golygu taclus? O ddifri.)

Y prif problem yw’r agwedd cyfryngau yn Gymraeg i dechnoleg. Nes i weld yr un peth llynedd gyda BBC Radio Cymru a’r dadl am ddefnydd yr iaith gan y plebs.

Mae’r agwedd yn atal ymdrechion i brofi a datblygu defnydd da o dechnoleg. Rydyn ni’n angen gweld y cyfleoedd gyda’r bygythiadau. Mae dealltwriaeth o dechnoleg yn bwysig pan mae gwleidyddion yn trio gwerthu syniadau i ni fel hud amlblatfform a’r Cofnod gwan.

Weithiau dw i’n teimlo bod ni’n gwastraffu un o’n hadnoddau gwerthfawr – y cyfryngau prif-ffrwd – dosbarthu ofn yn hytrach na dealltwriaeth dda.

DIWEDDARIAD 25/05/2011: siomedig gyda thoriadau enfawr yn BBC Cymru.

Hacio’r Iaith 2011 – trwsio technoleg gyda’n gilydd

Yn ôl y dyfeisiwr ac awdur Americanaidd Danny Hillis, technoleg yw “popeth sy ddim yn gweithio eto”. Mae hyn yn fewnwelediad defnyddiol – roedd dyfeisiau fel y car, y teledu, y gadair a’r pâr o esgidiau yn newydd yn y gorffennol. Gwnaethon nhw lwyddo pan roedden nhw yn rhan o gefndir ein bywydau.

Ar draws y byd, mae pobol yn trwsio technoleg ar gyfer eu hanghenion. Oni bai ein bod yn darganfod ffyrdd o addasu technoleg i’n cynorthwyo ni, gall barhau i fod yn ddiffygiol. Mewn rhai achosion, gall hyd yn oed weithio yn ein herbyn.

Yn Nghymru, dw i’n credu gallwn ddylanwadu’r defydd technoleg ar gyfer amcanion adeiladol, ar gyfer creadigrwydd, ar gyfer busnes, ar gyfer addysg, ar gyfer democratiaeth a llawer o ddefnyddiau eraill. Dyw hyn ddim yn digwydd ar ei ben ei hun, dyw’r cyfleoedd yma ddim yn codi os rydyn ni’n gadael y gwaith i bobol eraill.

Dw i’n cyd-drefnydd o Hacio’r Iaith, cymuned o bobol sy’n brwdfrydedd am yr iaith Gymraeg a’i ddefnydd o fewn technoleg ac ar y we. Rydyn ni’n cynnwys cyfryngis, rhaglenwyr meddalwedd, pobol creadigol, academyddion, blogwyr, ymgyrchwyr, gwneuthurwyr polisi a dylunwyr.

Rydyn ni’n grwp amrywiol o bob oedran a chefndir. Dydyn ni ddim yn rhannu’r un safbwynt, personaliaeth neu bwyslais ond yn aml dw i’n ffeindio fy nghydweithwyr Hacio’r Iaith i fod yn arbrofol, chwareus, chwilfrydig, di-ofn – ac agored.

Rydyn ni’n dathlu’r nodweddion yma drwy fabwysiadu’r fformat BarCamp ar gyfer ein “anghynhadledd”. Rydyn ni’n trefnu’r anghynhadledd Hacio’r Iaith nesaf – bydd e’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth mis yma.

Bydd y gynhadledd yn wahanol i gynadleddau traddodiadol oherwydd y diffyg areithiau gan sêr drud. Mae’r rhaglen i gyd yn cael ei chreu a datblygu gan y bobol, casgliad unigryw o bobol mewn amser a gofod. Yn yr wythnosau sy’n arwain at y digwyddiad, mae pobol yn cael eu annog i gofrestru’u enwau, awgrymu sesiynau a mesur cefnogaeth. Mae hyn yn digwydd ar y we, ar ein wici. Ar fore’r digwyddiad, mae’r rhaglennu yn parhau ar siart gyda nodiadau gludiog.

Bydd trafodaethau, cyflwyniadau, areithiau a sesiynau ymarferol. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae pobol yn cynllunio trafodaeth am deledu amlblatfform, sesiwn ymarferol i ddatblygu rhyngwyneb Cymraeg i ffonau Android ac efallai trafodaeth am theatr a thechnoleg. Bydd sesiynau ychwanegol yn digymell ac yn cael ei cynllunio yn ystod coffi neu ginio.

Mae unrhyw sesiwn angen dau o bobol fel isafrif – mae sesiwn fach yn iawn os yw’n ddefnyddiol a diddorol i’r bobol sy’n dod. Maen nhw’n gallu penderfynu’r polisi ar gyfer rhannu, ond fel arfer mae mor agored â phosib, gydag enwau’n cael eu rhoi i bod dyfyniad. Mae’r wybodaeth a thrafodaethau’n cael eu dogfennu a’u rhannu drwy fideo, lluniau, cofnodion blog a nodiadau ar y wici.

Dechreuodd y fformat BarCamp yn y maes technoleg, ond does dim yn rhwystro pobl rhag cynnal; mathau eraill o BarCamp. O gwmpas y byd mae’r fformat wedi mynd o dechnoleg i addysg, meddygaeth, celfyddydau, gwleidyddiaeth a grwpiau ffydd hefyd. Fel arfer mae mynediad yn rhad neu am ddim.

Fel fformat, mae’n ddelfrydol os wyt ti eisiau cael criw o bobol amrywiol at ei gilydd heb unrhyw uchelgais i ddechrau “busnes cynadleddau”. Does neb yn berchen ar y digwyddiad – felly mewn ffordd, mae pawb yn perchen arno fe.

Dw i’n credu bod rhannu yn llawer mwy buddiol na gwybodaeth berchnogol. Edrycha at y we: mae gwybodaeth yn doreithiog. Dolenni, sgwrs agored, meddalwedd cod agored, trwyddedu agored fel Comins Creadigol, maen nhw i gyd yn tyfu. Bydd cwmnïau yn ennill trwy gymhwysiad ac enw da yn hytrach na thrwy ddulliau o gyfrinachedd masnachol.

Os rydyn ni’n gallu cymhwyso fe, bydd rhannu teclynnau a gwybodaeth yn newyddion da i’r Gymraeg fel iaith fechan – a strategaeth iachus am y dyfodol.

Mae Hacio’r Iaith yn digwydd ar 29ain o fis Ionawr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mynediad am ddim ond cofrestrwch gan arwyddo eich enw ar y wici. Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar ôl ar hyn o bryd.

Diolch: Rhys Wynne am help gyda’r cofnod hwn.

This blog post is about the Hacio’r Iaith unconference in Aberystwyth on Saturday. Click on Wales published an English language version of this post today.

Pam dylai’r Cynulliad Cymru cyhoeddi’r Cofnod dwyieithog? Y cyd-destun technoleg

Mae Daniel Cunliffe yn cywir iawn i sôn am Google Translate, y cofnod Cynulliad Cymru a’r Adolygiad o Wasanaethau Dwyieithog.

Dw i wedi darllen yr adroddiad wreiddiol wythnos yma (ar gael yn Cymraeg a Saesneg. Mae ymatebion dda eraill yn bodoli ond dw i eisiau dilyn Daniel a siarad am technoleg yn enwedig. Mae gormod o bwyslais ar “technoleg dychmygus” yn yr adroddiad (heb diffiniad glir, gyda llaw) a stori BBC gyda Dafydd Elis-Thomas hefyd.

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad a chadeirydd y comisiwn, wedi dweud bod y panel wedi “ceisio barn mor eang â phosibl.”

“Un o brif amcanion y Trydydd Cynulliad yw sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru.

“Dyna pam ein bod yn falch o ddilyn argymhellion y panel, yn arbennig ei gynnig ynghylch sicrhau bod cofnodion o Drafodion y Cynulliad yn haws eu defnyddio, a hynny drwy ddefnyddio technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar.”

Yn cyffredinol, mae’n amhosib dweud beth fydd yn digwydd gyda dy ffynonellau data arlein (e.e. testun neu unrhyw cynnwys arall). Mae data yn mwy gwerthfawr pan mae pobol yn gallu ail-defnyddio fe – os maen nhw yn defnyddio data cyfanred efallai gyda ffynonellau eraill yn enwedig.
Dylet ti meddwl am:

Wyt ti erioed wedi postio unrhyw beth arlein a wedyn welaist ti rywbeth hollol newydd yn digwydd gyda fe? Mae’n digwydd trwy’r amser.

Felly mae technoleg a dychymyg yn well gyda dychymyg pobol eraill – newyddiadurwyr, ymchwilwyr, pobol, cwmnïau ayyb mewn ffyrdd diddorol iddyn nhw. Rhowch data da arlein, gwelwch beth fydd yn digwydd.

Paid rhoi ffocws ar “technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar” heb manylion penodol achos mae’n bron diystyr. Mae’n well i rhoi’r data llawn arlein gyda fformatau agored cyntaf (e.e. XML). Dyna beth dyn ni’n gwybod yn barod. Mae pobol yn gallu adeiladu teclynnau eu hun.

Dyn ni wedi colli’r gwerth llawn os dyn ni’n stopio’r cyfieithiad Cymraeg. Mae gwerth yn bodoli nawr, wythnos nesaf ac yn y dyfodol.

Paid anghofio: iaith yw technoleg.

YCHWANEGOL 1: Dw i wedi postio sylw ar cofnod Guto Dafydd am yr un pwnc hefyd.

YCHWANEGOL 2: Mae Syniadau yn sôn am y problem chwilio (Google ayyb).

Diwrnod Ada Lovelace: danah boyd

Mae hi’n Ddiwrnod Ada Lovelace heddiw, sef diwrnod i ddathlu menywod mewn technoleg a’u cyfraniadau.

Fy dewis i yw danah boyd, ymchwilydd a blogiwr. Dw i erioed wedi cwrdd â hi ond dw i wastad yn mwynhau blog hi, un o’r goreuon arlein yn y maes.

Mae hi’n trafod cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn y cyd-destun pobol, yr ifanc yn enwedig. Mae’r maes yn eitha newydd ond mae llawer o bynciau. Mae dealltwriaeth hi yn dwfn.

Er enghraifft, mae gwahaniaethau pwysig yn bodoli rhwng

Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn darllen ei feddyliau hi am preifatrwydd, Facebook a phobol ifanc.