Meddai blogwr maximus Nic Dafis yn ei cofnod am Gomins Creadigol:
Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, ond tan hynny dylai fod yn ddigon i hybu defnydd o’r Comins Creadigol mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru fel yng ngweddill y byd.
Ond mae Comins Creadigol yn “optio i mewn”. Iawn amdanat ti a fi. Iawn am artistiaid, awduron a bandiau sy’n gallu defnyddio fe yn 2010 gyda gwaith newydd. Neu hen waith.
Ond dyw e ddim yn iawn am 56 mlynedd o destun sydd yn mas o brint. Neu 56 mlynedd o bethau dyn ni’n gallu ailddefnyddio – tu allan o jyst ddelio teg.
Term hir yw problem yn ieithoedd eraill hefyd, e.e. Saesneg. Mae’n fwy o broblem yn Gymraeg. Fel arfer, dyn ni’n teimlo’r un pethau yn iaith leiafrifol ond MWY. Ble wnes i ffeindio’r nifer 56 mlynedd? Term am destunau gan gynnwys llyfrau a chylchgronau yw 70 mlynedd o’r farwolaeth yr awdur. Dw i’n dychmygu cymdeithas gyda therm 14 mlynedd o’r farwolaeth yr awdur.
(Dw i wedi bod yn geidwadol yma. Roedd y term gwreiddiol o’r ddeddf hawlfraint gyntaf yn 1709 yn 14 mlynedd ar ôl y gwaith gyda 14 mlynedd opsiynol os oedd yr awdur dal yn byw.)
Dychmyga 56 mlynedd o lyfrau, drama, barddoniaeth, lluniau, fideo ac awdio ar gael ar y we am unrhw ddefnydd.
Basai term hawlfraint fyrrach yn well i Saesneg ac yn well i Gymraeg. Mae pobol wedi esbonio’r problemau yn y cyd-destun Saesneg ac wedi dychmygu’r canlyniadau o dermau byrrach. (Gweler hefyd: Open Rights Group yn y DU.)
Nid cyfreithiwr ydwyf ond sgwennais i awgrymiadau os ti eisiau ailddefnyddio deunydd Cymraeg sydd yn fas o brint.