Cefais i sgwrs da heddiw gyda Nwdls am bob math o beth gan gynnwys pethau sydd yn symud o flogiau i lyfrau fel Stuff White People Like (a Sleeveface…).
Y cwestiwn oedd, beth yw’r pethau diwylliannol Cymraeg sydd wedi dechrau ar y we ar blogiau, YouTube, Flickr ayyb ac wedi symud i deledu, llyfrau ac ati i fod ar gyfryngau ‘traddodiadol’?
Enghreifftiau Cymraeg:
- Sgymraeg gan ffotograffwyr amrywiol (hanes Scymraeg/Sgymraeg – taith o’r byd corfforol i’r we i llyfr corfforol trwy’r Lolfa)
- Paned a Chacen – Y Llyfr gan Elliw Gwawr, trwy’r Lolfa
- Mae blog Lowri Haf Cooke yn ffynnu ac yn sail i lyfr gerllaw yn Gymraeg am Gaerdydd trwy Gomer (er bod y blog yn rhan o gynllun Lowri o’r dechrau fel teclyn ymchwilio/datblygu)
- Oes llyfrau Cymraeg eraill sydd yn seiliedig ar bethau gwe?
Fel mae’n digwydd, heno dw i wedi bod yn pori S4C Clic a newydd gweld pobol o YouTube! Sef:
- Llŷr Mental a sêr eraill y we ar Gwefreiddiol. Sori os dw i wedi spoilio’r syndod ond Llŷr Mental ar y teledu. Lej. (9:10)
- Wales Shark ar Hwb (33:00) gyda’r cerdyn rhad gwreiddiol
Yn y dau enghraifft uchod mae’r cwmniau cynhyrchu wedi ychwanegu graffeg i ddweud ’mae’r clip yn lo-fi, peidiwch ffonio i gwyno am ansawdd y lluniau’: graffeg y sioe yn achos Llŷr a graffeg lens camera digidol yn achos Wales Shark.
Hefyd:
- Ydy Dan Rhys yn cyfrif?! Mae fe wedi bod ar S4C a BBC ond dyw e ddim wedi bob ar Pobol y Cwm eto…
Wrth gwrs mae’r we yn digon, does dim rhaid i ddiwylliant y we Gymraeg derbyn sel bendith oddi wrth cyfryngau eraill i fod yn dilys. Mae’r pwynt yn gweithio dwy ffordd – dw i ddim yn meddwl bod pobol creadigol sydd yn joio eu crefft eisoes yn desperet i fod ar y teledu. Ddylai pobol yn Y Diwydiant ddim tanseilio gwerth neu ddim bod yn nawddoglyd tuag at y we fel cyfrwng. Dylen nhw neidio mewn hefyd.
Ond mae manteision i ddiwylliant y we Gymraeg. Mae pobol chwilfrydig yn gallu dilyn y llwybrau o deledu/llyfrau yn ôl i’r we ac yn gallu cymryd rhan mewn sawl ffordd. Mae siwrnai dwyffordd posibl.
Ambell waith mae’r cyfranogiad teledu/cwmniau yn rhoi arian i’r bobol tu ôl y syniadau. Dw i ddim yn gallu siarad ar ran Wales Shark neu unrhyw un ond mae’n wych eisoes os ydy pobol yn gallu profi a joio syniadau ar y we gyda chost isel. Ac mae’n dwbl gwych os ydy cwmniau gydag adnoddau ac arian yn gallu cynnig pethau. Doedd dim rhaid i Wales Shark derbyn y cynnig i fod yn y ‘prif ffrwd Cymraeg’ (gyda 10X mwy o wylwyr!) ond mae fe wedi penderfynu i ymestyn ei ‘brand’ i deledu. A pham lai.
Es i i ROFLCon 2010, roedd y sgyrsiau diddorol y cynnwys prif ffwrd a’r we.
Wrth gwrs os ydy’r we yn ffynhonnell o greadigrwydd, ysbrydoliaeth a syniadau – a dyma beth dw i’n credu wrth gwrs – mae hi’n gallu sbarduno diwylliannau Cymraeg yn gyffredinnol. (Gyda llaw bwrdd delwedd yw un o’r pethau dw i eisiau ychwanegu i Maes E v2012 yn bendant.)
Roedd Dave Datblygu yn awgrymu syniad o sioe newydd ar S4C. Os ydy e wir eisiau rhaglen dylai fe rhoi fideo ar YouTube ac aros am ganiad.