Defnydd iaith: y darlun bach a’r darlun mawr

Mae dewis iaith bersonol i lawer o bethau mewn bywyd. Ers tro dw i wedi newid y rhan fwyaf o fy ngweithgareddau ar-lein i fod yn Gymraeg. Os oes dewis gyda fi dw i eisiau cymryd rhan yn y prosiect o adeiladu gwe Gymraeg. Taswn i’n creu unrhyw waith creadigol yn y dyfodol fel fideo, podlediad, erthygl neu beth bynnag byddwn i’n ystyried y Gymraeg yn gyntaf.

Mae rhesymau eraill hefyd: mae’r Gymraeg yn hwyl i mi ar ôl degawdau o Saesneg ac mae cyfle i ymarfer fy iaith ysgrifenedig. Mae rhesymau unigryw dros ddewis iaith gyda phob unigolyn.

Felly mae’r Gymraeg yn gyntaf i mi. Ond nid dyna’r safon dylwn i ddefnyddio i asesu pethau gan unrhyw berson eraill.

Mae’n glir i mi fod gwahaniaeth rhwng dewis iaith unrhyw unigolyn a beth sy’n digwydd yn y Gymraeg yn gyffredinol, y darlun mawr.

Mae sawl categori i’r egwyddor yma. Ces i syrpreis bach yn ddiweddar. Clywais i gân Saesneg gan fand o’n i’n ystyried fel un uniaith Gymraeg cyn hynny. Mae lle i ofyn pa mor gryf ydy’r Gymraeg yn y maes canu poblogaidd ond ar lefel cyffredinol, nid ar lefel unrhyw fand unigol.

Dyma’r egwyddor yn y gân (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd I Achub Yr Iaith gan Super Furry Animals.

Mae pobl Cymraeg yn canu yn Saesneg am lot o resymau. Ta waeth, mae lot ohonom ni yn gweithio yn y Saesneg. Os ydych chi’n pryderu am fandiau sy’n troi at y Saesneg efallai dylech chi helpu Eos i godi statws yr iaith i rywbeth sy’n werth mwy na hobi. Yn bendant mae darlledu caneuon Cymraeg ar y BBC yn werth mwy na £100,000. Rydym ni yn y sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn lleiafrifedig. Mae’r achos Eos yn ailadrodd beth sy’n digwydd mewn meysydd eraill.

Mae’r un peth yn wir am bobl sy’n dewis Saesneg ar Twitter. Peidiwch ‘gywiro’ unigolyn am ei defnydd o Saesneg ar Twitter. Dw i wedi gweld enghreifftiau (ac mae rhai yn cynnwys pobl sydd ddim yn hyderus gydag ysgrifennu yn Gymraeg). Yn hytrach, cadwch ar y pwnc ac atebwch bob trydariad yn Gymraeg. Os ydych chi eisiau gweld mwy o Gymraeg ar y we mae sawl peth rydych chi’n gallu gwneud fel unigolyn.

Dyw unigolion cyffredin ddim yn rhan o’r Mesur Iaith am resymau amlwg. Ond mae lle i gwyno i sefydliadau a chwmnïau am broblemau a statws yr iaith. Nhw sy’n dylanwadu ar bobl. Yn gyffredinol, peidiwch gael ffrae gydag unigolyn dros bethau fel hyn. Fel arfer mae rhesymau a darlun ehangach. Fel arfer mae angen cysylltu gyda sefydliad neu gwmni i ofyn neu ymgyrchu dros degwch i’r Gymraeg. Neu greuwch gwmni neu fenter neu brosiect.

Hefyd dyma’r problem gyda phryderon am ‘gywirdeb iaith’ yr unigolyn neu ‘burdeb iaith’ yr unigolyn. Mae unrhyw ffocws ar unigolyn yn gamgymeriad. Rwyt ti’n fwy tebygol o achosi diffyg hyder a thanseilio’ch bwriad gwreiddiol. Dylen ni pryderu am ‘ansawdd iaith’ y boblogaeth yn gyffredinol fel canlyniad o addysg ddiffygol a’r prinder o gyfleoedd i weld Cymraeg safonol. Ond nid cywiro unigolion sydd ddim wedi gofyn am eich help yw’r ffordd i wella’r sefyllfa. Eto, mae llawer o bethau rydych chi’n gallu gwneud i greu mwy o bethau Cymraeg i blant ac oedolion. Ac mae dyletswydd ar sefydliadau i fuddsoddi yn y Gymraeg.

Effaith hafanau treth ar bobl

Dw i wedi bod yn dysgu am sut mae cwmnïau amlwladol yn osgoi treth mewn gwledydd difreintiedig trwy ddefnydd o hafanau treth. Mae’r fideo yma yn werth 9-munud o’ch amser.

Mae’r manylion am bethau ariannol fel hyn gallu bod yn gymhleth ond mewn ffordd mae’n syml iawn. Tasai cwmnïau yn talu lefelau teg o dreth yn y gwledydd yma byddai mwy o siawns cael economïau gwell, gwasanaethau gwell a sefydlogrwydd gwleidyddol. Wrth gwrs byddai’r canlyniadau yn dibynnu hefyd ar fuddsoddiad call o’r refeniw ar ran y llywodraethau. Ond casglu treth yn y lle cyntaf yw’r her, sydd wir yn argyfyngus i filiynau o fywydau.

Hefyd mae ffilm ddogfen o’r enw The UK Gold ar yr un pwnc yn ogystal â sut mae Dinas Llundain yn cynnal hafanau treth. Er dyw’r teitl The UK Gold ddim yn arbennig o drawiadol, mae’r ffilm ei hun yn wych. Yn anffodus mae’r cyfle i’w wylio yn Chapter, Caerdydd wedi mynd ond dw i’n meddwl bod modd cael gafael arno fe ar DVD.

Denu darllenwyr i flog: arbrawf a 5 egwyddor

Sbel yn ôl dechreuodd llwyth (oce, tua 5) o flogiau Cymraeg newydd am fwyd a diod. Yn 2013 un o’r pynciau mwyaf poblogaidd ymhlith blogiau Cymraeg newydd oedd crefft dw i’n meddwl – gan gynnwys Boglyn ac eraill.

Sut ydyn ni’n sicrhau hir oes i ymdrechion fel hyn, ar draws y pynciau gwahanol?

Yn union wythnos yn ôl gwnes i arbrawf. Postiais i neges ecsgliwsif i’r bobl sydd wedi tanysgrifio i fy mlog personol yma. Dyw’r cynnwys ddim yn ymddangos ar hafan y wefan ond mae modd mynd i’r cofnod a sylwadau yma. Gofynnais i am sylwadau oddi wrth y tanysgrifwyr RSS.

Ces i sylwadau gan cyfanswm bach iawn o 10 o bobl. Mae’n ddiddorol i weld pwy sy’n darllen yn gyson. Roedd un neu ddau wedi ffeindio’r cofnodion ar Blogiadur a ffrydiau awtomatig eraill.

Yn hytrach na ’10 o bobl’, gallwn i wedi dweud ’10 o ddynion’ mewn gwirionedd. Byddai mwy o sylwadau gan menywod wedi bod yn braf, er mwyn cyrraedd fy nhargedau cydraddoldeb.

rs-thomas-nebSdim llawer o syndod yn y canlyniad yma. Dw i’n methu siarad ar ran pobl eraill ond mae lot o resymau pam dw i’n blogio (dysgu, cofnodi, sgwrsio) sydd ddim yn cynnwys unrhyw ymdrech i gystadlu gyda’r cyfryngau prif ffrwd neu i fod yn seleb. Gellid meddwl am lwyth o bynciau mwy addas tasai hynny yn wir!

Ond nawr dw i’n meddwl (eto) am y ffyrdd gorau i hybu prosiectau Cymraeg annibynnol ar y we.

Yn y cyfamser…

1. Gwnaf aildrydariad pob dydd er mwyn annog eich hoff gwefannau/fideos Cymraeg ac ati. Aildrydarwch Bob Erthygl Gymraeg O Ansawdd. (Neu efallai… Byddwch Fel Hedd Gwynfor Gyda’r Pynciau Ti’n Licio… Hmm. Dal i weithio ar y sloganau yma a dweud y gwir.)

2. Gadewch Sylwadau Ar Eich Hoff Stwff PLIS! (Pam dydy pobl ddim yn gadael sylwadau ar gofnodion, fideos ayyb? Arfer neu bryder am iaith ysgrifenedig…?)

3. Os wyt ti eisiau tanysgrifio i dy hoff blogiau dylet ti ystyried Feedly neu CommaFeed. Paid ag ofni’r term RSS, mae’n golygu bod y pethau mwyaf diddorol ar gael i ti. Does dim angen derbyn llwyth o e-byst chwaith. Tanysgrifiwch I Bethau.

4. I’r rhai sydd yn rhoi erthyglau, fideos ayyb ar y we, does dim ffasiwn beth â ‘theyrngarwch’ i flog/gyfrif penodol. Mae eisiau hyrwyddo pob cofnod ar rhwydweithiau cymdeithasol. Gwthiwch Stwff Da A Phaid  Bod Yn Swil.

5… (Byddwn i’n croesawu mwy o syniadau.)

O ran 4, hoffwn i feddwl bod modd gosod system sydd yn rhyddhau pobl i flogio heb boeni am gyhoeddusrwydd… Er fy mod i’n rheoli Blogiadur bellach, dw i ddim 100% yn hapus gydag e.

Helo bobl arbennig ar RSS!

(Diweddariad: mae’r arbrawf ar ben felly dw i wedi troi’r cofnod isod ymlaen yn y ffordd arferol.)

rs-thomas-nebWyddoch chi be’? Mae’r cofnod yma dim ond ar gael i bobl sy’n dilyn fy ffrwd RSS. Dw i ddim yn meddwl bod lot o bobl yn dilyn trwy RSS, yn enwedig ers machlud haul Google Reader.

Gawn ni wneud prawf bach? Allech chi adael sylw ar y cofnod i ddweud ‘helo’ (neu ba bynnag neges chi eisiau) plis? Diolch o galon.

Addysg Gymraeg i bawb: fy stori i

Bron yn union pum mlynedd yn ôl yn 2008, blogiais i yn Saesneg am fy mhrofiadau o Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol. ‘Sut ddylen ni addysgu ieithoedd yn yr ysgol?’ oedd fy nhwestiwn ar y diwedd, heb ymateb. Gwnes i gadw’r posibiliad o ailymwelediad i’r un pwnc hwyrach ymlaen. Wel, dyna ni:

Wrth gwrs mae llwyth o bethau sydd angen er mwyn gwireddu’r addewid o roi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys addysg o’r radd flaenaf.

Mae un pwynt arall hoffwn i wneud i ddilyn y pwynt olaf yn y fideo. Beth sy’n ddiddorol i mi ydy’r ffaith bod llawer iawn o oedolion yng Nghymru eisiau’r gallu i siarad Cymraeg. Does dim tystiolaeth gyda fi (does dim cwestiwn yn y cyfrifiad…) ond mae pobl yn dweud pethau yn aml iawn wrtha i fel ‘oh I wish I could speak Welsh but…’. Efallai dydyn nhw ddim yn gallu ffeindio’r amser, efallai dydyn nhw ddim hyd yn oed eisiau mynd trwy’r broses o ddysgu fel oedolion. Ond mae lot fawr yn mynegi’r awydd. Dyna rywbeth i’w ystyried.

Fideo trwy Sianel 62. Diolch i Euros am waith camera.

#AddysgGymraegIBawb

Aran Jones: rhesymau eraill i flogio yn Gymraeg

Aran Jones yn dweud:

[…] a’r gwir ydi, wrth gwrs, mae’r Saesneg yn fam iaith i mi ac yn iaith dw i’n medru ei thrin yn gyflym ac yn gyfforddus.

Nid felly mae’r Gymraeg.  Hi ydi iaith fy nghalon, ac iaith fy aelwyd; iaith fy nghariad tuag at fy mlant a’m gwraig; iaith newidiodd fy myd.

Ond nid yw hi o dan fy meistrolaeth, o bell ffwrdd – ac mae sgwennu heb reolaeth llwyr, yn ymwybodol y daw camgymeriadau, yn gweithio o fewn ffiniau cymaint yn fwy gyfyngedig na iaith gogoneddus […] yn teimlo fel gollwng ddeugain o flynyddoedd ac eistedd eto ar lawr y dosbarth heb syniad yn y byd sut byddai modd i mi fod o werth fy hun.

Dyna, wrth gwrs, yr her seicolegol mae unrhyw ddysgwr yn ei wynebu – colli hyder a gallu yr oedolyn er mwyn baglu ac is-raddio eu hunain mewn iaith arall – mae iaith mor ganolog i’n hunaniaeth a’n hunan-werth, mae mynd heb dy iaith rugl fel gorfod cau dy lygaid am ddiwrnod, neu glymu dy ddwylo tu ôl i dy gefn. […]

Mae lot i’w ystyried yma. Dw i wedi dweud o’r blaen pam dw i ddim yn hoff o’r term dysgwr ond dw i’n adnabod yr union deimladau a heriau yn yr hyn mae Aran yn eu dweud.

Mae’r cyfan yn werth eich sylw ar Trafodaeth, blog newydd sbon.

Cyngor gyrfaoedd oddi wrth actor Hollywood enwog

Pan o’n i’n mynd i ysgol doedd dim prinder o negeseuon fel ‘dyma dy fywyd di nawr’, ‘carpe diem’, ’mae un siawns gyda chi’ ayyb.

Dw i newydd wylio’r hysbyseb Prifysgol De Cymru gydag Ioan Gruffudd sydd yn adlewyrchu agweddau tebyg. Mae Lloegr fel dewis lleoliad ac efallai’r diffyg darpariaeth Gymraeg yn materion dan sylw ar hyn o bryd.

Ond yr elfen arall sydd yn haeddu cwestiwn (o leiaf yn y fideo ac yn fy mhrofiad i) ydy unrhyw awgrym o’r posibilrwydd o newid meddwl yn ystod dy ‘yrfa’. Mae’r gair ‘gyrfa’ yn codi ofn ar lot o bobl ifanc. Doedd neb ar gael i esbonio i mi bod ‘gyrfa’ – neu beth bynnag yw’r gair – yn rhywbeth sydd yn gallu datblygu yn ara deg neu gam-wrth-gam neu fel igam-ogam hollol fler yn hytrach na rhywbeth rwyt ti’n penderfynu unwaith fel person 14-oed. Mae bywyd yn llawn posibiliadau a dewisiadau yn ogystal ac o dan sofraniaeth yr Hollalluog. Peidiwch gofyn i mi sut mae hynny yn gweithio.

Beth yw’r ots os wyt ti’n methu rhywbeth neu gorfod newid dy feddwl neu’n datblygu diddordeb mewn rhywbeth hwyrach ymlaen? Un o’r gwersi pwysicaf yw’r potensial o drawsnewid ambell i goc-yp i fendith. Dylai rhywun dweud wrth bobl mewn addysg bod ’na sawl cyfle a siawns mewn bywyd. Bydd cyfleoedd yn y dyfodol agos sydd ddim hyd yn oed yn bodoli eto.

Wedi dweud hyn i gyd pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n yn weddol breintiedig o ran cyfleoedd i drio pethau, cwrdd â phobl diddorol ac ati.

Dw i’n gobeithio bod hyn i gyd dal yn wir yn ystod y cawlach economaidd presennol ta waeth. Byddai buddsoddiad gwell mewn addysg a chyfleoedd i bobl yn lot fwy teilwng na phethau fel Trident, WMDs a mentrau i gyfiawnhau gweithredoedd y bancwyr. Ond y prif pwynt heddiw yw, does dim angen gymaint o bwysedd ar bobl mewn addysg. Gad iddynt cael ychydig o amser.

Mwydro am Steddfod a chyfryngau yng nghylchgrawn Tu Chwith

tu-chwith-cyfrol-39-520

Ie, mwydro. Dyma beth mae Rhodri ap Dyfrig a finnau yn wneud yn ein sgwrs am Steddfod, cyfryngau digidol a’r Gymraeg, sef yr un sgwrs yr ydym ni’n cynnal pob tro sydd yn wahanol pob tro. Tro yma, am ryw reswm mae’r golygydd gwadd Llŷr Gwyn Lewis wedi derbyn ein testun ar negeseua sydyn fel erthygl i Tu Chwith 39.

Mae’r lleill wedi gwneud cyfraniadau ‘go iawn’ dw i’n credu. Felly os dwyt ti ddim yn hoffi ein peth ni (sydd yn hollol, hollol bosib ac mae modd anfon cwynion at @llyrgwyn a @tuchwith) mae llwyth o ddifyrrwch, llenyddiaeth a phethau eraill.

Pryna Tu Chwith rhifyn Eisteddfod.

Dere i’r digwyddiad ar y maes eleni am 12:30YH ar ddydd Sadwrn y 10fed o Awst yng Nghaffi Maes B yn 2013! Mae digwyddiad Facebook.