Mae hi’n braf cael gweithio ar brosiect wici i glient sef Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Maen nhw fel mudiad am gydweithio ar gyfres o erthyglau amlgyfrwng am hanes yr ardal o drafnidiaeth i chwareli i ysgolion i gapeli ac eglwysi. Fe fydd canlyniadau ein gwaith ar wici Uwchgwyrfai i’w gweld cyn hir.
O safbwynt y datblygwr mae sawl opsiwn ar gyfer meddalwedd wici. MediaWiki yw’r un sy’n cael ei defnyddio mwyaf. Dyna sy’n rhedeg Wicipedia a sawl prosiect perthnasol arall. Dyma fy nghyfrif ar y Wicipedia Cymraeg. Gweler hefyd: fy nghwaith ar gyfrif Twitter @wicipedia.
Nid yw poblogrwydd MediaWiki fel y cyfryw yn digon o reswm i’w dewis. Mae’n ddarn o feddalwedd eithaf mawr ac mae lot fawr o opsiynau. Mae anfanteision eraill hefyd, yn dibynnol ar gyd-destun y prosiect. Ond mae hi’n wych ar gyfer rhywbeth amlgyfrwng ac mae’r rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg, diolch i gyfieithwyr gwirfoddol.
Yn 2009 roeddwn i am ddechrau gwefan wici o’r enw Hedyn er mwyn rhannu adnoddau ymhlith datblygwyr a chyhoeddwyr sydd am ddefnyddio’r Rhyngrwyd a’r we yn Gymraeg. Dokuwiki oedd fy newis ar y dechrau ond fe benderfynais newid i MediaWiki wedyn oherwydd y niferoedd o bobl a oedd yn brofiadol ar y system. Mae MediaWiki yn parhau hyd heddiw fel sail y wefan.
Nid yw’r cyfle i greu wici newydd sbon yn ymddangos yn aml. Mae angen eithaf tipyn o ymdrech, amser, a chriw o bobl cefnogol er mwyn cynnal wici llwyddiannus. Does dim llawer o enghreifftiau o lwyddiant ar wicis yn y Gymraeg, efallai oherwydd yr angen i recriwtio llawer o gyfranwyr brwd ac i fuddsoddi lot fawr o amser i greu rhywbeth o werth.
Mae’r maes cryptoarian wedi datblygu eithaf tipyn ers genedigaeth Bitcoin yn 2009.
Dyma restr anghyflawn o fathau gwahanol o gryptoarian y mae pobl yn cyfnewid a defnyddio yn 2017.
0x
Aragon
Augur
Bancor
Basic Attention Token
Binance Coin
BitConnect
BitShares
Bitcoin
Bitcoin Cash
Bytecoin
Civic
Dash
Decentraland
Diamunds
Dogecoin
EOS
Ethereum
Ethereum Classic
Factom
Faircoin
Filecoin
Funfair
Gnosis
Golem
IOTA
Iconomi
Lilium
Lisk
Litecoin
MaidSafeCoin
Metal
Monero
NEM
NEO
OmiseGo
OpenANX
Populous
Qtum
Ripple
Siacoin
Status
Steem
Stellar Lumens
Stratis
TenX
Tether
Tezos
TheDAO
Veritaseum
Waves
Zcash
Allwn i ddim ymhelaethu ar nodweddion unigryw bob un. Ond dw i wedi cael gafael ar Bitcoin, Ethereum a Litecoin trwy brynu. I ddechrau o’n i am weld sut mae hi’n teimlo i ddelio gyda chryptoarian a chael y profiad o fynd trwy’r broses. Chwilfrydedd pur oedd hi.
Fe ges i fach o Dash hefyd am ddim wrth anarchydd o’r enw Ed mewn digwyddiad anffurfiol ym Mryste – cyfuniad diddorol tu hwnt o fathmategwyr sy’n ymddiddori yn y systemau, codwyr sy’n chwarae ac yn ceisio arloesi gyda’r arian ond hefyd algorithmau cadwyn bloc mewn sawl maes gwahanol (pleidleisio ayyb), anarchwyr sy’n meddwl bod cryptoarian yn cynnig ffordd o greu marchnad(oedd) amgen a datblygu cymdeithas gwell sydd ddim yn dibynnu ar fanciau a sefydliadau traddodiadol eraill, a buddsoddwyr arian cyfred sy’n masnachu a phobl eraill sydd jyst eisiau canfod ffordd o fod yn gyfoethog rhywsut!
Ar hyn o bryd dw i’n eithaf siŵr taw buddsoddi yw’r prif gategori o ddefnydd o gryptoarian ac wedyn cyffuriau yn ail (neu’r ffordd arall rownd), ond mae pobl yn ei wario ar ynnyrch fel pitsa a gemau ac hefyd gwasanaethau gwe, dylunwyr, ayyb. Byddai hi’n ddiddorol cael gweld siart o’r prif gategorïau o bethau sy’n cael ei brynu gyda chryptoarian yn fyd eang ond dw i ddim yn gallu canfod un ar hyn o bryd.
Tybed pwy fydd fy nghlient cyntaf i fy nalu mewn Bitcoin? Mae sawl prosiect gwe yn cadw fi yn frysur ar hyn o bryd. Mae opsiwn talu Bitcoin ar bob anfoneb dw i’n anfon at glientiaid. Ond dw i am gadw dulliau talu traddodiadol fel BACS yna am y tro.
Dyma werth Bitcoin mewn punnoedd o Awst 2016 i Awst 2017. Yn amlwg mae sawl person yn meddwl bod hi’n werth ei brynu.
Hoffwn i ddysgu mwy am hyn i gyd achos mae’n ddiddorol. Oes ’na unrhyw alw am sgwrs am Bitcoin yn yr Hacio’r Iaith nesaf? (Ionawr neu Chwefror 2018 yng Nghaerdydd… i’w gadarnhau!)
Yn y cyfamser, dyma gynnig arbennig…
Os ydych chi eisiau prynu cyfanswm o $100 neu fwy mewn cryptoarian (Bitcoin, Ethereum a/neu Litecoin) defnyddwch y ddolen hon. Fe gewch chi $10 am ddim yn ychwanegol ac byddaf i’n cael $10 yn ogystal.
Mae Joy Buolamwini yn ‘fardd cod’ sydd wedi ymchwilio rhagfarn ac annhegwch mewn algorithmau.
Meddalwedd sydd fod adnabod gwynebau ar gamera ond yn methu adnabod gwynebau croenddu yw’r enghraifft cyntaf yn ei araith yma.
Engrheifftiau eraill mewn lluniau: fe drwsiwyd FaceApp er mwyn cael gwared â phroblem o ‘algorithm hiliol’. Roedd angen i Google ymddiheuro am fod eu system wedi tagio dau berson groenddu fel gorilas.
Dw i’n dychmygu y bydd y problemau yn cynyddu tra bod rhagor o systemau dysgu peirianyddol yn cael eu defnyddio, yn enwedig os mae’r systemau wedi cael ei hyfforddi gyda setiau cyfyngedig o ddata.
Mae’n debyg y byddan ni’n gweld achosion o bobl yn methu cael yswiriant, swyddi a chyfleoedd eraill oherwydd penderfyniadau gan beiriannau. Wrth gwrs fydd hi ddim wastad yn amlwg i’r person sydd yn dioddef. Er enghraifft byddai rhywun yn clywed bod e/hi heb lwyddo i ennill cyfweliad am swydd ond fydd hi ddim yn amlwg bod system wedi dehongi ei CV neu ddata bersonol mewn ffordd ragfarnllyd.
Mae Buolamwini wedi cael sawl profiad personol o ragfarn mewn algorithmau ers blynyddoedd ac wedi ysgrifennu eithaf tipyn o erthyglau am hyn. Yn ogystal mae hi’n cyfeirio at lyfr o’r enw Weapons of Math Destruction gan Cathy O’Neil.
Mae’r gwaith wedi arwain at fudiad o’r enw Algorithmic Justice League a sefydlwyd gan Buolamwini eleni er mwyn casglu rhagor o achosion ac ymgyrchu dros degwch mewn algorithmau.
Dw i wrthi’n ceisio deall yr union ddiffiniad o ‘ragfarn mewn algorithmau’.
Fe ges i gyfarfod gyda swyddogion Google yn Llundain sbêl yn ôl i drafod eu polisïau nhw o ran y Gymraeg, nid yn unig mewn rhyngwynebau ond diffygion sy’n gallu cael eu hystyried fel rhai algorithmig megis statws y Gymraeg ar ganlyniadau chwilio ac o bosib y broses o adeiladu’r mynegai.
Yn y bôn ‘dydy cefnogi’r Gymraeg yn iawn ddim yn werth chweil yn fasnachol i ni’ oedd ymateb Google. Mae hi’n bwysig nad ydyn ni’n ildio i’r syniad bod angen i ni greu rhagor o gynnwys Cymraeg er mwyn cyrraedd radar Google a chwmnïau eraill. Er enghraifft mae creu rhagor o erthyglau Wicipedia ac ati yn Gymraeg yn beth da yn ei hun. Mae Google wedi gwneud digon o arian yng Nghymru eisoes ac wedi mwynhau ffafr llywodraeth San Steffan ac awdurdodau eraill mewn sawl ffordd. Dylen ni hefyd cydnabod bod unrhyw ‘feini prawf’ o’r fath megis nifer o erthyglau Wicipedia neu beth bynnag yn hollol, hollol fympwyol.
Beth am feddalwedd yr iPhone (a systemau eraill) sy’n mynnu ‘cywiro’ eich geiriau oherwydd diffyg geiriaduron Cymraeg? Mae sôn hefyd am yr ‘exclusion overhead’, yr ymdrech mae’n rhaid i ddefnyddwyr wneud er mwyn cael meddalwedd i weithio’n iawn tra bod ’na diffygion dal yn y system.
Pa wers y mae plant yn dysgu bob tro mae bysellfwrdd neu brosesydd geiriau yn newid y gair ‘i’ ac yn mewnosod ‘I’ yn lle yn awtomatig, er enghraifft?
Beth am fformiwla ffrwd Facebook? Pa mor effeithiol ydy systemau fel hyn gyda chynnwys Cymraeg, geiriau Cymraeg, treigladau? Mae hi’n anodd dadansoddi hyn.
Efallai bod yr Echo ac Alexa yn berthnasol yma er bod cwmni Amazon wedi dweud yn blwmp ac yn blaen bod y peiriant ond yn deall dwy iaith, Almaeneg a Saesneg!
Fyddwn i ddim yn synnu pa tasai pobl yn canfod sawl achos o ragfarn ieithyddol mewn algorithmau o fewn sawl gwasanaeth, ‘rhagfarn’ sy’n gweithio yn erbyn ieithoedd lleiafrifedig o gwmpas y byd.
Gadewch wybod yn y sylwadau os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rai.
Dw i wedi bod yn chwarae gyda Jekyll yn ddiweddar, system sy’n cynhyrchu gwefan statig.
Fel system rheoli cynnwys mae WordPress dal yn ffefryn i mi ond mae hi’n bwysig ceisio a phrofi ffyrdd eraill o weithio. Dwy fantais o greu gwefan statig trwy Jekyll ydy’r cyflymder ac y ffordd mae’n symleiddio gwarchodaeth achos does ’na ddim o reidrwydd sgript sy’n rhedeg ar y gweinydd tra bod pobl yn ymweld â’ch gwefan.
Un peth a oedd yn fy nrysu ar y dechrau oedd y ffaith bod thema yn fforc o’r system craidd. Hynny yw, roedd rhaid i mi glonio’r system a thema yn eu cyfanrwydd yn hytrach na rhoi thema mewn cyfeiriadur/ffolder yn y hen ffordd WordPressaidd o fyw. Dw i’n cymryd bod angen rheoli fersiynau trwy Git er mwyn diweddaru’r system craidd wedyn. Tybed beth yw’r manteision o weithio fel hyn?
Oes gwefannau Cymraeg sydd wedi eu creu ar Jekyll, ac os oes unrhyw themâu Cymraeg ar gael? Does dim byd perthnasol i weld ar Github. Efallai dylwn i gyfieithu un syml er mwyn ehangu byd Jekyll ychydig. 🙂
Wyddoch chi fod rhywun o’r enw Dafyddt newydd greu erthygl am Eirwyn Pontshân o’r diwedd y mis hwn? Dyma uchafbwyntiau o erthyglau Wicipedia Cymraeg newydd sbon a grëwyd gan wirfoddolwyr, arwyr y we Gymraeg!
Mae prosiect ar y Wicipedia Saesneg o’r enw Women In Red i sbarduno pobl i greu rhagor o erthyglau am fenywod.
Fel arfer mae llai o erthyglau am fenywod adnabyddus ar brosiectau Wicipedia mewn ieithoedd gwahanol. Ar yr un pryd mae llwythi o ddolenni coch – sef cyfeiriadau at erthyglau sydd ddim yn bodoli eto- at enwau menywod.
Dyma fy ffordd i o ddechrau prosiect tebyg yn y Gymraeg o’r enw MenywodMewnCoch a gwella cynrychiolaeth menywod.
Os ydych chi’n gweld trydariad fel yr isod, ewch amdani i greu erthygl.
Tybed os fydd pobl Cymru yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i ni am hen adeiladau a phobl yn y delweddau sydd ddim wedi cael eu henwi eto. Gawn ni weld yn fuan!
Dw i wedi gosod bots mewn PHP i bostio’r cyfan yn awtomatig bob dydd. Byddan nhw yn ddiddorol i bobl gobeithio ac wedyn yn sbarduno rhagor o ymweliadau i Wicipedia, rhagor o ddysgu, a rhagor o gyfraniadau i’r wefan mwyaf brysur yn y Gymraeg.
Gadewch i mi wybod os ydych chi eisiau trafod prosiectau eraill fel apiau gwe, bots, prosesu data, ac ati.
Diolch i Robin Owain am rai o’r syniadau ac am eu cefnogaeth brwd a diolch iddo fe a WikimediaUK am gomisiynu’r prosiect hwn.
Dylech chi ystyried dilyn @haciaith ar Twitter am ddiweddariadau. (Dw i newydd ailosod ffrydiau awtomatig o’r blogiadau a sylwadau i’r cyfrif Twitter drwy dlvr.it – oherwydd diwedd y gwasanaeth Twitterfeed.)
Prin yw’r siaradwraig neu siaradwr Cymraeg sydd ddim yn ymddiddori mewn ieithoedd gwahanol dw i’n credu.
DIWEDDARIAD 9 Rhagfyr: newydd ychwanegu rheol sy’n atal erthyglau llai na 1000 nod er mwyn ceisio canfod mwy o’r ‘gorau’ o bob iaith. Fe oedd ’na ambell i erthygl rhy fach. Gawn ni weld pa gynnwys a ddaw. Fel o’n i’n dweud yn y blogiad mae ’na rheolau eraill hoffwn i ychwanegu.
Mae anturiaethau Wicipedia yn parhau gyda chyfrif arbrofol newydd @Wikidelta.
Dilynwch y cyfrif am ddolenni achlysurol at erthyglau Wicipedia unigryw mewn sawl iaith. Mae ‘unigryw’ yn golygu erthyglau sydd heb gael eu cysylltu/cyfieithu/addasu o/i unrhyw erthygl Wicipedia mewn unrhyw iaith eraill.
Mae’r cyfrif wrthi’n mynd drwy gyfanswm o 284 iaith wahanol! Heddiw roedd e’n rhannu dolenni at erthyglau mewn Gaeleg yr Alban.
Os ydych chi wedi gweld @UnigrywUnigryw mae’n weddol debyg heblaw am y ffaith bod Wikidelta yn dewis iaith wahanol bob hyn a hyn.
Gawn ni weld faint o erthyglau ar Wikidelta sydd wir yn unigryw a faint sydd angen eu cysylltu (er enghraifft roedd rhaid i mi ymweld â Wicipedia er mwyn cysylltu erthygl i ieithoedd eraill heddiw).
Dw i am flogio ar Medium cyn hir er mwyn rhannu’r cyfrif gyda phobl sy’n siarad ieithoedd eraill.
Hefyd hoffwn i ddechrau fersiwn Cymraeg o gyfrif Wikidelta. Mae gwneud popeth yn Gymraeg yn bwysig i mi. Yr unig elfennau sydd yn Saesneg yw enw y cyfrif, bywgraffiad a’r trydariadau am newid iaith. Felly bydd angen rhestr Gymraeg o enwau’r ieithoedd i gyd. Dwedwch os ydych chi am helpu gyda job cyfieithu bach iawn.
Diolch i Ffrancon am gyfrannu at syniad Wikidelta ac i Illtud am yr enw.
Mae cymunedau ieithyddol yn cynnal sawl Wicipedia ac mae pob un yn wahanol. Mae rhywfaint o gyfieithu ac addasu ac mae rhywfaint o erthyglau sy’n unigryw i’r fersiwn Cymraeg, y fersiwn Catalaneg, y fersiwn Arabeg, ac ati.
Dechreuais i’r cyfrif Twitter awtomatig UnigrywUnigryw i rannu’r erthyglau sydd ond ar y Wicipedia Cymraeg.
Pa ganran o erthyglau unigryw sydd ar y Wicipedia Cymraeg?
Beth am BOB iaith Wicipedia?
Fel mae’n digwydd mae hi’n eithaf rhwydd addasu’r sgript feddalwedd PHP wreiddiol i edrych at ieithoedd gwahanol. Dw i wedi ymestyn y sgript tu ôl i @UnigrywUnigryw er mwyn dadansoddi POB iaith ar Wicipedia yn awtomatig.
Mae cyfanswm o 283 iaith o dan fy ystyriaeth. Mae rhai o ieithoedd yna sydd ddim yn gyfarwydd i mi o gwbl tan nawr, e.e. Wicipedia yn yr iaith অসমীয়া.
Allbwn y broses fydd fath o dabl o ieithoedd gwahanol. Ble mae’r Gymraeg ar y siart?! Ydy’r drefn ar y siart yn adlewyrchu’r nifer o erthyglau yn yr ieithoedd? Neu fuddsoddiad yn yr ieithoedd?
Beth am ieithoedd sy’n gysylltiedig drwy nifer helaeth o siaradwyr amlieithog, megis Sbaeneg-Catalaneg, Sbaeneg-Basgeg, Saesneg-Cymraeg, Wrdw-Arabeg, Iseldireg-Almaeneg, ayyb.?
Dw i’n gallu ceisio ymateb i’r cwestiynau uchod cyn hir…
Yr unig broblem gyda’r sgript feddalwedd dw i wedi ysgrifennu yw’r amser mae’n cymryd.
Mae fy sgript yn wneud ceisiadau i API Wicipedia, sydd yn cynnig pecyn o 20 erthygl ar hap i’w dadansoddi ar y tro. Mae angen cael lot fawr o becynnau er mwyn cael data dibynadwy.
Gwnes i ddechrau tua 12:40yp heddiw cyn mynd am dro i dre am ginio a dw i newydd gyfrif faint o ieithoedd mae’r peth wedi dadansoddi ers hynny. Bydd hi’n mynd trwy ieithoedd yn gyflymach yn y pen draw achos fydd ddim angen gymaint o sampl ar gyfer yr ieithoedd bychain bychain.
Ta waeth, ar y gyfradd yma bydd hi’n cymryd rhyw bedwar diwrnod i orffen!
Mae’n rhedeg ar weinydd pell dw i’n talu £5 y mis amdano fe, y math o letya mae rhywun yn rhoi gwefan fach arno fe. Mae’r un weinydd yn rhedeg UnigrywUnigryw felly mae hi’n ddefnydd da o arian.
Efallai dylwn i edrych at redeg algorithm cyfochrog ar rywbeth swish fel AWS.
Fel arall, oes ’na unrhyw un sydd am fenthyg amser ar uwchgyfrifiadur anferth i mi pls? 🙂
DIWEDDARIAD 19 Gorffennaf 2016: Mae dwy iaith uwchben y Saesneg ar y siart o ieithoedd ‘mwyaf unigryw’ ar Wicipedia – hyd yn hyn! Mae’r system wrthi’n dadansoddi Hindi.