BBC + S4C + Ti == PYC

Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw?

Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i’r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o’r prosiect.

Mae’n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng ‘PYC’. Bydd ‘PYC’ yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

[…]

Darllena’r datganiad llawn.

Meddyliau cynnar:

  • Pobol y Cwm yw’r cyfres mwyaf poblogaidd ar S4C felly mae modd profi pethau gyda chyunlleidfa chymuned mawr (mewn termau Cymraeg). Dw i ddim yn ymwybodol iawn o’r oedrannau/demograffig/ayyb ond dw i’n cymryd bod y sioe yn apelio at bob math o berson. Hefyd mae’n haws i hyrwyddo pethau digidol sydd yn gysylltiedig â chyfres mor amlwg ac eiconig, ‘addasiad digidol/arloesol o hen ffefryn’ ayyb
  • Braf i weld ‘meithrin dull newydd o ddweud stori’ yn enwedig – maen nhw yn ystyried cyfleoedd digidol fel rhywbeth tu hwnt i farchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Mae lot o bobl yn pryderu am annibynniaeth golygyddol S4C ar y teledu (y shotgun marriage gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ayyb). Ond mae cwestiynau tebyg ynglŷn ag annibyniaeth S4C yn y tymor hir ar bethau digidol. Wrth gwrs mae S4C wedi cyd-weithredu gyda’r BBC fel partner ers y ddechrau. Ond ydy’r ffaith bod y peth cyntaf o’r gronfa ddigidol yn rhywbeth BBC yn arwyddocaol? Gobeithio fydd S4C gyda’r hyder yn y dyfodol i gynhyrchu pethau digidol ac aml-blatfform sydd yn annibynnol o’r BBC?
  • Pa fath o gemau sydd yn addas? Gawn ni Zombies Cwmderi?

Lubuntu – system gweithredu fwyaf cyflym?

Dw i wedi gosod Lubuntu ar fy ngliniadur newydd ac mae popeth yn GYFLYM.

Beth yw Lubuntu? Lubuntu ydy system gweithredu, fersiwn amgen o Linux/Ubuntu gyda’r amgylchedd bwrdd gwaith LXDE yn hytrach na GNOME neu Unity.

Yr egwyddor tu ôl LXDM fel amgylchedd bwrdd gwaith ydy system syml heb y nonsens arferol. Does ’na ddim animeiddio neu graffigau ffansi. Beth sydd yn anhygoel ydy’r rwtsh sydd yn dod gyda systemau gweithredu cyfoes dyddiau yma. Ac un bonws arall yw’r bywyd batri. Fel arfer mae 60% mwy o fywyd ar Lubuntu na Windows hyd yn oed os ydw i’n defnyddio’r diwifr ayyb. Taswn i’n rhedeg hen gyfrifiadur neu helpu aelod teulu gyda’i gyfrifiadur baswn i’n gosod Lubuntu arno fe yn bendant.

Ond dw i ddim wedi dweud hwyl fawr wrth Windows 7 ar fy mheiriant i. Mae nodwedd cychwyn ddeuol gyda fi – dw i’n gallu dewis naill ai Lubuntu neu Microsoft Windows 7 tra bod y system yn dechrau. Dw i’n gallu cael mynediad i’r ffeiliau ar Windows hefyd – cerddoriaeth, dogfennau ayyb. Dw i ddim yn erbyn Windows 7 ond dw i’n hoff iawn o egwyddorion meddalwedd rydd. A hefyd o’n i eisiau rhedeg meddalwedd fel Apache, MySQL, git yn eu cartref naturiol.

Wedi dweud hynny roedd fy ffrind, sydd ddim yn arbennig o dechnegol, yn defnyddio’r porwr we Chromium ar fy ngliniadur neithiwr (sydd yn debyg iawn i Google Chrome). Wnaeth e ddim sylwi’r system wahanol. Dw i’n rhedeg Chromium tra bod i’n teipio’r cofnod blog yma fel mae’n digwydd. Mae’r cwmni tu ôl Ubuntu wedi mabwysiadu Lubuntu fel prosiect swyddogol ac mae meddalwedd arferol fel Firefox, LibreOffice, Audacity i gyd ar gael wrth gwrs. O’r rhestr yna maen nhw i gyd ar gael yn Gymraeg hefyd. Dw i’n ymwybodol o’r prosiectau Ubuntu Cymraeg a GNOME Cymraeg. Ond dw i’n methu ffeindio LXDE Cymraeg felly mae’n debyg does neb wedi dechrau prosiect cyfieithu LXDE Cymraeg (ar hyn o bryd…).

 

Trydar dwyieithog, oes ots?

Twitter+Cymraeg=? neu Twitter-Cymraeg=?, dyma’r cwestiwn.

Yn hytrach na chofnod cynhwysfawr dyma bwyntiau gwahanol dro yma. Sa’ i eisiau bod yn ciwt heno trwy sgwennu nhw fel tweets.

Felly dyma casgliad o feddyliau am Twitter, Cymraeg a dwyieithrwydd.

  • Dw i’n meddwl bydd rhywbeth fel Twitter gyda ni am byth o hyn ymlaen. Bydd yr iaith Gymraeg yn parhau o hyn ymlaen felly mae’n werth ystyried y perthynas rhwng y ddau. Wrth gwrs ar hyn o bryd mae Trydaru a thrydar yn golygu’r un peth (fel y mae Twittering a tweeting yn Saesneg yn golygu’r un peth). Mae’n siwr bydd mwy o blatfformau eraill yn y dyfodol neu gobeithio protocol agored yn hytrach na rhywbeth dan un cwmni. Beth bynnag, bob tro dw i’n dweud Twitter yma dw i’n cyfeirio at unrhyw gwasanaeth cyhoeddus ar-lein gyda negeseuon byrion mewn ffrwd.
  • Mae brandiau fel @ytwll, @golwg360, @haciaith, @tuchwith, @fideobobdydd, @bbccymru, @llencymru ayyb i gyd yn uniaith Gymraeg. Viva la brandiau!
  • Ond oes na unrhyw unigolion uniaith Gymraeg ar Twitter rhagor? Os oeddet ti’n meddwl bod rhyw fath o gadarnle mewn brên trydar Geraint Lövgreen (er enghraifft!), wel, ti’n rong. Nid yw fy mhwynt i i godi helynt gydag unrhywun, dim ond i sylwi bod defnydd personol Twitter yn hollol dwyieithog erbyn hyn. Deliwch â’r peth?
  • Mae unigolion sydd yn dechrau yn uniaith Gymraeg yn troi at Saesneg bob hyn a hyn yn y pen draw. Wel, lot ohonyn nhw…
  • Aildrydar yw’r gateway drug i drydariadau Saesneg.
  • Dw i byth yn aildrydar Saesneg o @ytwll er enghraifft. Dw i ddim yn meddwl bod e’n addas i’r brand. Ambell waith dw i wedi cyfansoddi neges newydd yn Gymraeg yn lle aildrydar.
  • Mae Twitter YN gyfrwng byd-eang. Os wyt ti’n mynd ar gyfrwng byd-eang rwyt ti’n cael dy globaleiddio gan ffans Justin Bieber. Oes ots?
  • Roedd pobol yn chwerthin pan wnaeth Dr John Davies sôn am y ffôn cynnar – roedd rhai o bobol Cymraeg yn cwestiynu os oedd y dechnoleg yn gallu trosglwyddo sgyrsiau yn Gymraeg. Dw i’n siwr bydd y sefyllfa diglossia ar y we yn cael ei ystyried yn yr un modd yn y dyfodol. Ond mae problemau sydd yn atal Cymraeg, e.e. mae’n anodd i decstio yn Gymraeg neu ddim mor hawdd â Saesneg. Mae awtogywiro yn wneud cawlach o Gymraeg.
  • Tu hwnt i globaleiddio (neu tu mewn) mae lot o bobol ifanc yn y dwyrain fel Caerdydd yn postio yn Saesneg achos mae gyda nhw ffrindiau neu dilynwyr di-Gymraeg. Efallai maen nhw eisiau cynyddu eu nifer o ddilynwyr. Ym mhersonol dw i’n trio peidio edrych at fy ystadegau dilynwyr, maen nhw yn hollol amherthnasol i’r sgwrs dw i eisiau cynnal NAWR.
  • Dw i’n siarad wrth gwrs fel rhywun sydd yn postio yn y ddwy iaith. Dw i’n dwyieithog fel person. Os ydw i’n gofyn cwestiwn dw i’n trio yn Gymraeg cyntaf ac yn aros am ateb. Dw i’n rhoi blaenoriaeth i Gymraeg fel arfer.
  • Dw i’n ateb i bobol ddi-Gymraeg yn Saesneg eithaf lot. Byddi di dim ond yn gweld y trydariadau yna yn dy ffrwd os wyt ti’n dilyn y ddau berson sydd yn cymryd rhan yn y sgwrs (yr unig ffiltro yn dy ffrwd Twitter).
  • Yn fy marn i mae rhywbeth bach yn sefydliadol am bobol sydd yn drydar yr un neges dwywaith – yn y ddwy iaith. Hefyd mae Twitter mor llafar – mae’n od i weld pethau Saesneg gan bobol sydd yn hollol Cymraeg i ti. Dw i’n trio dychmygu’r llais Saesneg.
  • Ond wedi dweud hynny, mae lot o resymau pam mae pobol yn trydar yn Saesneg. Maen nhw yn byw tu fas i Gymru, yn ail iaith neu yn trio cymryd rhan mewn sgwrs benodol mewn niche (e.e. dylunio) neu sgwrs dan tag. Fel arfer mae tag yn gysylltiedig gydag un iaith, e.e. sioeau yn y Trydar-Teledu Complex. (Mae tagiau dwyieithog. Dw i’n cofio pan wnaethon ni awgrymu i’r Cynulliad ar gyfer etholiadau.)
  • Mae pawb [wedi penderfynu bod] yn rhydd. Does dim rheolau. Mae polisi/amcanion iaith rhywun arall yn wahanol i dy un di.
  • Hefyd mae Twitter yn perfformiad cyhoeddus i ryw raddau. Dyma pam mae Dafydd El yn ateb Vaughan Roderick yn Saesneg. Ond mae ffenomen dal yn od i rywun sydd yn cysylltu nhw gydag un iaith yn unig.
  • Mae lot lot mwy ar y rhyngrwyd na Twitter. Ac mae angen lot mwy na Twitter Cymraeg er mwyn cynnal gwareiddiad. Blogia, recordiau fideo neu cyfieitha term neu ddau o dy hoff feddalwedd.
  • Gyda llaw os ydw i’n asesu cyfryngau cymdeithasol a’r Gymraeg dw i’n ystyried ‘rhyngwyneb’, ‘cynnwys’ a ‘chymuned’. Mae rhyngwyneb yn bwysig ond dydy e ddim mor bwysig a’r ddau arall.
  • Os wyt ti’n pryderu am shifft ieithyddol paid â ‘chywiro’ pobol Cymraeg sydd yn postio yn Saesneg. Paid â chyfeirio at y peth. Mae’n boring. Ond mae rhywbeth penodol rwyt ti’n gallu gwneud. Cadwch ar y pwnc a phostiwch ateb perthnasol yn Gymraeg. Atebwch bob trydariad yn Gymraeg. Rwyt ti wedi ateb y person gyda rhywbeth diddorol ac wedi newid y shifft ieithyddol tipyn bach. Hefyd mae mwy o Gymraeg yn arwain at fwy o Gymraeg.

Diffiniad cwmni cychwynnol

Dyma ddiffiniad cwmni cychwynnol yn ôl fy nealltwriaeth i.

Mae’r cysyniad o gwmni start-up yn drysu lot o bobol, hyd yn oed gwleidyddion, ac yn cael ei defnyddio ambell waith i ddisgrifio unrhyw gwmni newydd. Ond mae’r term cwmni cychwynnol, start-up, yn cyfeirio at fath arbennig o gwmni sef rhywbeth arbrofol sydd yn trio technoleg newydd, syniad busnes neu/a phroses arloesol er mwyn profi potensial y peth. Mae’r cwmni cychwynnol yn prototeip.

Mae’r potensial o dwf yn bwysig, dyma pam mae lot o ddadansoddiadau yn asesu scalability y cwmni: allai’r cwmni ailadrodd y broses ac yn tyfu?

Er enghraifft roedd Google yn cwmni cychwynnol ar y dechrau. Gwnaethon nhw chwilio am ffyrdd i wneud elw mas o chwilio. Yn y pen draw gwnaethon nhw ffeindio model busnes, sef hysbysebion Google Adwords ac Adsense (y brif ffynhonnell incwm), sydd wedi tynnu elw da ac wedi tyfu’r cwmni. Cwmni cychwynnol dydyn nhw ddim rhagor felly. Fyddan ni byth yn disgrifio siop trin gwallt fel cwmni cychwynnol, hyd yn oed os maen nhw yn newydd neu yn llwyddiannus iawn.

Fel arfer mae’r rheolaeth yn newid elfennau sylfaenol yn aml er mwyn ffeindio fformiwla dda.

Mewn theori os mae’r cwmni cychwynnol yn methiant mae’r tîm yn gallu symud i bethau eraill ac mae pawb yn yr un diwydiant a thu hwnt yn gallu dysgu trwy eu profiadau.

Cyntaf yn y gyfres: parth menter rhith

Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti adael sylw neu fod yn rhan o rywbeth.

Mae rhai o hackathons yn ffug. Mae pobol yn sgwennu’r cod rhywle dawel cyn iddyn nhw fynd! Hefyd mae cwmnïau yn defnyddio nhw i ffeindio talent a syniadau.

Byddwn i o blaid rhywbeth Hacio’r Iaith gyda ffocws penodol ac ymarferol.

Mae cymhareb o spectators i gyfranogwyr yn bwysig gyda rhywbeth ymarferol. Efallai bydd angen gweithdy bach ar y dechrau ac wedyn mae pobol yn gallu ymarfer y sgiliau newydd?

Efallai mae angen ‘cyfyngiadau’ hefyd sef
– casgliad o ddata
– neu API
– neu pwnc penodol
er mwyn sbarduno syniadau a chanolbwyntio ar rhywbeth.

e.e.
archif S4C
archif Radio Cymru
data Radio Cymru, e.e. playlist
archif Llyfrgell Gen
“barddoniaeth”
mynyddoedd
Y Rhestr o flogiau ar hedyn.net
Wicipedia Cymraeg
stwff yn Gymraeg dan Creative Commons
data Umap
ayyb

DIWEDDARIAD: mae’r sgwrs wedi symud i’r wefan Hacio’r Iaith

Fflachio / Hacio’r Iaith – beth ddysgais i

Dyma’r fideo o fy sesiwn Fflachio’r Iaith i’w wylio eto ac eto!

(Yn y fideo dw i’n sôn am rhedeg Android ar efelychydd Eclipse ar dy gyfrifiadur. Dylet ti chwarae gydag Eclipse oes os diddordeb gyda ti.)

Dyma beth ddysgais i:

  • Mae’n bwysig iawn i ailadrodd y Rheol Dau Droed, sef os wyt ti eisiau gadael unrhyw bryd dylet ti adael. O’n i’n gwybod oedd y pwnc yn niche felly gwnes i atgoffa pobol ar y dechrau.
  • Mae’n bosib gwneud sesiwn Hacio’r Iaith heb unrhyw baratoad. Ac mae lle i sesiynau ymarferol amlgyfrannog.  Baddiel and Skinner Unplanned yn hytrach na Christmas Lectures.
  • Mae’r fformat sgrin + cyflwynydd + cynulleidfa yn creu disgwyliadau i ryw raddau. Cawson ni lot o help a chyfranogiad ond efallai bydd e’n haws i greu awyrgylch neis gyda strwythur ‘agored’, e.e. cylch o seddau. Diolch i bawb am ddod a chyfrannu!
  • Dw i wedi bod yn rhan o Hacio’r Iaith ers y dechrau, tri cynhadledd a sesiynau mewn Chapter ayyb, dw i’n hapus i ddweud bod i erioed wedi darparu ’darlith traddodiadol’! Er bod darlith traddodiadol yn hollol iawn dw i’n gweithio mewn ffordd gwahanol.
  • Cyn i mi ddechrau tro nesaf dylwn i dreulio tri neu bedwar munud i baratoi’r stafell i annog cyfranogiad. Er enghraifft ambell waith mae’n well i fod yng nghanol y stafell gyda dwy sgrin – un mewn gliniadur ac un allanol i ddangos y sgrin i bobol gyferbyn.
  • Mae gyda phobol lot i’w gyfrannu, yn enwedig y pobol ‘technegol’. Ond ar hyn o bryd mae rhai ohonyn nhw yn eithaf distaw, efallai dydyn nhw ddim yn teimlo digon hyderus i fentro sesiwn? Neu ydyn nhw eisiau mwy o anogaeth i ffeindio pwnc diddorol? Ar y cyfan roedd y cynrychioliad o bobol yn eithaf da: dynion a benywod, pob oedran, pynciau a diddordebau gwahanol, ayyb. Tra bod Hacio’r Iaith yn ymestyn i bobol o bob arbenigaeth (ac yn croesawu tips am sut i fod yn gyfartal) mae angen cofio a chefnogi’r gîcs. Efallai bydd sesiynau niche iawn yn syniad.
  • Tra bod i’n siarad dw i’n symud fy mreichiau eithaf lot. Mae angen ail-asesu effeithiolrwydd y dull yma yn sicr.
  • O safbwynt symudol roedden ni’n methu rhedeg yr ap Helo Byd ar ffôn (yn hytrach na chyfrifiadur). Felly roedd y sesiwn yn fethiant! Paid ag ofni methiant.
  • Y term llinyn (yn y cyd-destun meddalwedd).
  • Mae dal galw am Android Cymraeg! Mae’r system yn enfawr ond dylai fe fod yn bosib gyda chyd-weithredu. Gwnaf i drio gosod system cyfieithu hawdd ar-lein (gydag XML, schemas ac ati yn y cefndir yn saff).
  • Mae galw am wybodaeth hygyrch am sgwennu cod – rhyw fath o gwrs byr am ddim ar-lein fel Codeacademy? Wrth gwrs dw i’n meddwl am rhywbeth yn Gymraeg gyda chynnwys brodorol. Mae’n bwysig, hyn yn oed, i fabwysiadu pethau yn Gymraeg er mwyn llifo trwy’r sgwrs a phobol Cymraeg a newid yr ‘agenda’.

Cymynrodd y Samsung S5600 Cymraeg

Cofia’r Samsung S5600? Ffôn Cymraeg cyntaf y byd (ac olaf, ar hyn o bryd), naeth cael ei lansio dwy Eisteddfod yn ôl.

Gwnes i ofyn Bwrdd yr Iaith am sefyllfa y cyfieithiad er mwyn copio rhai o’r termau i’n cyfieithiad Android. Orange sy’n biau’r cyfieithiad o’r system. Gwnaeth y Bwrdd ateb gyda dolenni handi i dermau.

Dw i eisiau meddwl bydd cyfieithiad Android yn cyfrannu at fersiynau newydd a phrosiectau eraill yn y dyfodol. Er doedd e ddim yn rhedeg Android bydd rhyw fath o ddilyniant o’r Samsung yn neis – ac yn y maes technoleg Cymraeg yn gyffredinol. Hoffwn i feddwl bod ni’n symud o nerth i nerth. Ac mae’r diffyg argaeledd stwff a fu yn atal arloesi.

Yn y cyd-destun hanes sa’ i’n gweld pwynt yr ymdrech Orange, mae’n lot o drafferth am dipyn bach o gyhoeddusrwydd ym mis Awst.