Sut i greu mapiau o Gymru: cestyll, afonydd, blychau post, ffyrdd seiclo a mwy

Dyma ganllaw hwylus ac hwyl ar sut i greu mapiau o Gymru (neu unrhyw le) gyda nodweddion wedi eu pinio.

Does dim angen unrhyw brofiad o fapio na data. Nid yw creu mapiau yn weithred i arbenigwyr yn unig. Mae’n hawdd.

Mae hi’n braf cael breuddwydio am ymweld â rhai o’r llefydd hefyd hyd yn oed os nad oes modd teithio ar hyn o bryd.

Mae hi wedi bod yn wych cael gweithio fel rhan o dîm Mapio Cymru i wella mapio a data agored cyfrwng Cymraeg yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r canllaw yn rhan o’n hymdrech i ddangos OpenStreetMap fel adnodd i fwy o bobl, a chanfod elfennau o’r map sydd angen eu gwella.

Rhowch dro ar y canllaw.

Sgyrsiau am y dyfodol ar bodlediad annibynnol newydd Cymru Fydd

Podlediad newydd sbon ydy Cymru Fydd sy’n cynnig:

cyfres o sgyrsiau a seiniau eraill yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig.

Yn y bennod gyntaf dyma Rhodri ap Dyfrig a finnau fel gwestai yn sgwrsio am amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • meddalwedd rydd
  • hen recordiau
  • Mastodon
  • safon y trafodaeth ar Twitter (eithaf gwael)
  • Facebook ac ymerodraethau eraill
  • fy nheulu ym Malaysia
  • ieithoedd bychain y byd a gwaith K David Harrison

Fel arall mae modd gwrando mewn sawl app, e.e. Spotify.

Roedd y profiad o wneud hyn yng Nghaerfyrddin yn lot fawr o hwyl ac wedi profocio fy meddwl llawer.

Mae’n bwysig nodi bod hyn yn sgwrs anffurfiol, ac yn anghyflawn o ran triniaeth o roi o’r pynciau dan sylw. Yn sicr gallwn i wedi ymhelaethu (mwydro) llawer mwy, yn enwedig ar rai o’r pethau dadleuol. Dw i’n difaru peidio sôn am fudiadau gwleidyddol a’i ddylanwad nhw ar safon trafodaethau ar-lein. Hynny yw, nid mater o unigolion yn ymddwyn yn ‘gas’ yw’r unig broblem ond shifft fawr sylweddol sydd wedi digwydd yng nghymdeithas.

Ar yr un pryd dw i’n ddiolchgar iawn i Rhodri am olygu mas y darnau mwyaf ffurfiol/sych yn ein sgwrs!

Mae’r holl bennod o dan drwydded Comin Creu BY-SA.

Dyma’r ffrwd i chi danysgrifio i bennodau newydd, ac mae’r ddwy bennod nesaf eisoes ar y gweill.

Dileu Cymraeg fel pwnc: llythyr at fy hen ysgol

ysgol-uwchradd-cantonian

Roedd ymddangosiad llefarydd o fy hen ysgol ar Newyddion BBC (fideo) yn digon i fy sbarduno i ysgrifennu llythyr ati hi.

Rwy erioed wedi cwrdd â’r llefarydd, sydd yn pennaeth ieithoedd yr ysgol, o’r blaen.

Does dim rheswm i amau ei safon fel athro ond o’n i’n ceisio mynegi yn gwrtais bod Cymraeg fel pwnc ail iaith wedi methu.

7fed o Fai 2014

Annwyl Mrs Gwilliam

Rwyf newydd wylio eitem ar wefan Newyddion y BBC am addysg Gymraeg (http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/27251064). Siom fawr oedd clywed eich meddyliau, fel arweinydd yn y maes, am yr ymgyrch gyffrous i ddileu Cymraeg fel pwnc ail iaith tocenistaidd ac i addysgu pob plentyn yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn i ymateb i’ch pwyntiau yn yr eitem yn y llythyr hwn.

Mynychais i ysgolion cyfrwng Saesneg gan gynnwys gwersi Cymraeg gorfodol rhwng 1992 a 1995. Er bod athrawon Cymraeg galluog yn yr ysgol pryd hynny, roedd y diffyg statws cymharol i’r iaith yn tanseilio’r ymdrechion i drosglwyddo sgiliau sylfaenol na hyd yn oed unrhyw frwdfrydedd dros yr iaith i fyfyrwyr. Rwy’n cofio’n glir beth oedd blaenoriaethau’r ysgol: ‘The core subjects are Mathematics, Science – and English.’, geiriau sy’n adlewyrchu polisïau a oedd yn is-raddio’r Gymraeg yn gyson yn ein meddyliau ifanc ni – a gafodd effaith niweidiol ar ein barn tuag at yr iaith am flynyddoedd i ddod. Roedd agwedd y bobl ifanc yn adlewyrchu agwedd y system.

Er fy mod i’n cydnabod mai dim ond ychydig eiliadau sydd ar gael i wneud pwynt mewn rhaglen newyddion, rwy’n cymryd eich bod chi am barhau gyda rhyw fersiwn o’r status quo. Dyna sy’n fy mhryderu i am eich sylwadau: yr awgrym nad yw’r Gymraeg yn ddigon pwysig i fod yn gyfrwng i bawb yn y brifddinas a’i bod hi’n iawn os ydy plant yn gadael yr ysgol gyda dim byd mwy na ‘Tourist Welsh’ yn eu gwlad eu hunain. Gallwch ddychmygu pa mor hurt fyddai safbwynt tebyg mewn ysgolion mewn gwledydd fel yr Almaen neu Sweden, llefydd lle mae pob un dinesydd ifanc yn y brif ffrwd yn gadael ysgol gyda sgiliau yn y briod iaith.

Fe fydd gweledigaeth Cantonian o ran y Gymraeg wastad o ddiddordeb i mi achos dyna oedd fy ysgol uwchradd i. Er gwaethaf datganoli a newidiadau yn y maes addysg ers 21 mlynedd does dim llawer i’w weld wedi newid ers fy amser i.

Yn amlwg, rwyf wedi bod ar daith ddiddorol yn y cyfamser ac wedi bod yn ffodus i ddarganfod yr iaith drwy gerddoriaeth, ffrindiau a gwersi i oedolion a ddechreuwyd yn 2007. Wrth glywed fy stori i mae llawer o bobl heb ruglder yn y Gymraeg yn dweud yn aml wrthaf i eu bod nhw’n awyddus i siarad yr iaith hefyd. Ond fyddan nhw ddim i gyd yn ffeindio’r amser, yr arian na’r cyfleoedd i ddysgu fel oedolion. Fe fydd llawer o fyfyrwyr Cantonian yn meddwl pethau tebyg ac mae hi’n bryd i’r ysgol ymateb heddiw i ddyheadau cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ffaith bod y Gymraeg yn tyfu yng Nghaerdydd yn galonogol ac mae dalgylch Cantonian yn cynnwys Treganna, y ward gyda’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas yn ôl Cyfrifiad 2011. Yn ôl eich sylwadau chi, nid oes digon o Gymraeg i’w glywed yn y gymuned leol. Ond dydy hynny ddim yn rhwystro’r ysgolion yn yr ardal sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae angen cymryd camau uchelgeisiol. Gall Cantonian arwain yn y maes a datgan ei bod hi’n awyddus i geisio gweithio gyda’r cyrff perthnasol i ddatblygu ffyrdd arloesol o gyflwyno’r Gymraeg i bob myfyriwr. Gallech alw ar Gyngor Caerdydd i fuddsoddi yn deg mewn Cymraeg yn yr ardal trwy weithgareddau, gwasanaethau cyhoeddus ac ati er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned. Gallech ymchwilio a gweithredu ar ffyrdd o ddatblygu sgiliau iaith ymhlith yr athrawon.

Hoffwn i fentro argymell hefyd y dylech chi ystyried manteisio ar eich cyfle nesaf i siarad yn gyhoeddus am ddyfodol addysg Gymraeg i ddweud un peth cadarnhaol o leiaf, megis cydnabod yr awydd ac ewyllys i geisio canfod trefn well na’r un ddiffygol sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Yn gywir

Carl Morris

Fe fydd e’n cymryd mwy nag un athro i newid y drefn. Ond rwy’n meddwl bydd cefnogaeth athrawon yn hollbwysig yn yr ymgyrch yma, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio eu dylanwad i ymateb i ymgynghoriadau ac ati.

Efallai dylai mwy o bobl ysgrifennu yn gwrtais at eu hysgolion. Pe taswn i’n athro byddwn i eisiau clywed wrth gyn-fyfyrwyr (dw i’n meddwl!) ac yn sicr y rhai presennol.

Mae mwy ar y blog am #AddysgGymraegIBawb a fy stori i.

Mae hi wedi bod yn dipyn o brofiad i ymweld â gwefan yr ysgol. Gyda llaw mae’r defnydd o Google Translate i ddarparu’r fersiwn Cymraeg yn cyfrif fel ‘trosedd’. Ond un brwydr ar y tro eh? 🙂

Llun o’r ysgol gan John Carter (CC BY-SA)

Adroddiant gwrth-Gymraeg y BBC: tri ffactor

Pam mae eitemau gyda phwyslais gwrth-Gymraeg ar y BBC? Rwyt ti’n aros am rywbeth am Gymru ac mae mwy nag un eitem annifyr yn llifo mewn ar yr un pryd, e.e. Radio WalesRadio 4. Pam nawr?

Dw i’n credu bod mwy o eitemau gwrth-Gymraeg ar y ffordd oherwydd tri ffactor damcaniaethol.

1. Mae mwy o gystadleuaeth ymhlith cyfryngau gwahanol nag unrhyw bryd erioed ac mae eitemau dadleuol yn sbarduno niferoedd o wrandawyr. Yn bennaf, siaradwyr Cymraeg a chyfeillion o’r iaith sy’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o’r eitemau trwy Twitter, Facebook ac ati. Mae’r ffenomen yn debyg i drolio yn y papurau newydd ar-lein.

2. Mae BBC yn gyfrifol am ariannu S4C bellach sy’n achosi drwgdeimlad yn yr adrannau eraill, yn enwedig y rhai sy’n bryderu am doriadau. Beth bynnag rydych chi’n meddwl am Thatcher, roedd hi’n digon call i osod trefn arbennig ar gyfer S4C (yn y pen draw). Fel endid fe oedd y sianel yn annibynnol yn ei chyllideb. Mae’r sianel wedi colli’r mantais yna o ran y rhan fwyaf o’i chyllideb sydd bellach yn dod o’r BBC. Felly mae’r adrannau eraill fel Radio Wales yn troi at ymosod ar darged hawdd er mwyn ceisio amddiffyn eu bodolaeth nhw. Dyna’r effaith ‘cathod mewn sach’ a wnaeth pobl ein rhybuddio ni amdani hi yn 2010 yn ystod ymgyrch ‘Na i doriadau S4C’.

3. Fel mae unrhyw un sy’n darllen y wasg yn gwybod, y gwasanaethau iechyd ac addysg yng Nghymru ydy hoff dargedau Cameron, Hunt, Fabricant et al ar hyn o bryd tra bod nhw yn ceisio ennill etholiad mewn ychydig dros 12 mis. Mae’r BBC yn cael ei dynnu i’r un cyfeiriad: ‘ai datganoli/polisïau Llafur Cymru/y Gymraeg (does dim gymaint o wahaniaethu rhyngddynt ar lefel Prydeinig) sy’n gyfrifol am fethiannau ysgolion yng Nghymru?!’ ayyb. Mae agweddau sy’n debyg i Lingen a’r Llyfrau Gleision yn ymddangos eto. Yr iaith sy’n derbyn y flak yn y brwydr dros San Steffan. Afraid dweud fod diffyg trafodaeth synhwyrol ar y materion hyn ar Radio 4 a diffyg diddordeb mewn beth yw’r problemau go iawn a beth sydd o les i Gymru. Nid ’darlledwr gwladwriaeth’ fel y cyfryw ydy’r BBC ond gall dweud bod y Gorfforaeth yn cael ei demptio i roi platfform a ffafr i Lywodraeth San Steffan a chryfhau ei achos ar gyfer adnewyddu’r siarter yn 2016-17 hyd yn oed.

Os ydw i wedi cydnabod y ffactorau yma yn iawn ni fydd y sefyllfa yn newid yn fuan iawn. Gall disgwyl mwy o eitemau o’r fath.

 

Radio Cymru: diwylliant Cymraeg a diwylliannau yn Gymraeg

y-gorfforaeth-ddarlledu-brydeinig

Mae pwyslais gwahanol yn yr erthygl Saesneg am sylwadau Rhodri Talfan.

[…] Mr Davies said it suggested the “language is in the midst of a fundamental shift” and, therefore, broadcasters like BBC Wales which produces English and Welsh language content across TV, radio and online faced challenges to appeal to a broad audience.

He said it was once a language learned at home by those using it all the time whereas now it more often taught in the classroom.

“The so-called homogenous Welsh language audience is becoming more diverse than ever before,” he said.

“At a functional level, their ability to use the language level (sic) varies more than ever before.

“And at a more emotional level their confidence in using the language is also becoming more varied.

“But perhaps most profound of all, the cultural and social reference points of Welsh speakers – both those fluent and those less so – are more varied than ever before.

“For an increasing number of Welsh speakers, Welsh language culture is only one part of a patchwork of influences that straddle, Welsh, British and international cultures.” […]

Yn ôl beth dw i’n ddeall mae ffasiwn beth a ’diwylliant iaith Gymraeg’ a phethau sydd yn unigryw i’r iaith. Ond mae modd mynegi unrhyw ddiwylliant (i raddau) trwy unrhyw iaith. Ac mae Radio Cymru yn mynegi’r diwylliannau yma eisoes, yn enwedig diwylliant Lloegr ac Anglo-Americanaidd. Sawl tro ydy’r sioeau yn cyfeirio at Lundain, Hollywood, timau pêl droed yn Lloegr ayyb? Sawl tro ydy pobl yn siarad Cymraeg am neu o wledydd gwahanol ar draws y byd? Pob bore maent yn adolygu’r papurau o Lundain ar drael cyfryngau Cymreig hyd yn oed. Mae cynrychiolaeth o ddiwylliannau gwahanol yn gryf.

Hoffwn i glywed mwy o bethau Cymreig a dweud a gwir. Er enghraifft oes modd cyfnewid adolygiad ffilm Hollywood bob hyn a hyn am ffilm neu rhaglen teledu yn Gymraeg? Mae’n hawdd iawn i ffeindio safbwyntiau am Hollywood ar unrhyw cyfrwng unrhyw le. Mae stwff Cymraeg yn dioddef o ddiffyg cariad a sylw.

Mae sylwadau uchod yn adlewyrchu’r ystrydeb o Radio Cymru ar ran pobl sydd ddim yn wrando yn hytrach nag allbwn go iawn yr orsaf dw i’n meddwl.

Gyda llaw, prif gwendidau Radio Cymru yw’r diffyg cryfder signal ar DAB (yn fy ardal o Gaerdydd). Hefyd mae wir angen amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg yn ystod y dydd yn fy marn i. Mae llwyth o bop Cymraeg da o ddegawdau a fu.

DIWEDDARIAD: Cai Larsen yn siarad am ‘USP’ Radio Cymru yn erbyn gorsafoedd eraill, sef y Gymraeg. Pwynt da iawn. Dw i heb weld/darllen yr araith lawn chwaith – methu cael gafael arno fe ar hyn o bryd.

DIWEDDARIAD: Dw i newydd darllen yr araith. Hmm.

Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr

ogwr-aled-2-mawrth-2013

Mae gymaint o lefydd tu hwnt i’r A470! Ac mae’r bryniau o gwmpas y cymoedd Rhondda ac Ogwr yn hyfryd iawn yn yr haul, ymhlith y gorau ar ddaear Duw. Diolch i Glwb Mynydda Cymru am drefnu’r anturiaeth dydd Sadwrn.

Bydd rhaid i mi ail-ymweld. Oes unrhyw argymelliadau o lwybrau tra fy mod i’n aros am Fwrdd Twristiaeth y Cymoedd i ddychwelyd fy negeseuon (neu ddod i fodolaeth)?

Dyna ni, efallai rydyn ni wedi newid i’r fath o flog sydd yn rhannu data di-ri am amserau ymarfer corff. (Dad-danysgrifiwch nawr!) Wedi dweud hynny, dyw’r ddata ddim yn hollol dibynadwy. O’n i’n defnyddio ap symudol My Tracks fel arbrawf ac roedd GPS yn methu ambell waith am ryw reswm felly mae bylchau. Roedd cyfanswm go iawn y daith ychydig yn llai na 14 milltir. Y daith hiraf dw i wedi gwneud ers tro a dweud y gwir.

Gwleidyddion, plant a’r iaith

Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi ar bethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau.

Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n ddigon soffistigedig i weld sut oedd oedolion yn ystyried pynciau. Mae’r geiriau yn wahanol ym mhob ysgol ond mae themâu yn debyg. Dw i’n cofio’r geiriau’r athrawon yn fy ysgol i: ‘the core subjects are English, Maths and Science…’.

Dw i’n sgwennu’r cofnod blog yma i unrhyw oedolyn sydd eisiau meddwl am y pwnc, o unrhyw le ac unrhyw sefydliad.

Os wyt ti’n rhiant mae dy blant yn ddigon soffistigedig i weld sut wyt ti’n ystyried y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau tu hwnt i barthau fel y dosbarth a’r cartref. Maen nhw yn sylwi.

Os wyt ti’n athro neu wleidydd ac yn rhiant sydd ddim yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod dy waith, pa fath o neges wyt ti’n anfon i dy blant? Dylen ni fel oedolion cymryd yr iaith o ddifri cyn i ni ddisgwyl ein plant ni feddwl yr un peth.