Tŷ’r Cwmnïau – dim llawer o Gymraeg yn y weledigaeth newydd

Newidodd Tŷ’r Cwmnïau rhai o’i gwasanaethau a phrisiau mis yma ar y 6ed. Dyma un o’r datganiadau:

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau weledigaeth i fod yn gofrestrfa hollol electronig.

Fel cam ar y daith tuag at gyflawni’r weledigaeth hon, rydyn ni’n cyhoeddi heddiw ein bod ni’n disgwyl y bydd ein gwasanaethau ar gyfer cyflwyno ceisiadau corffori, ffurflenni blynyddol, cyfrifon a’r prif newidiadau i gwmnïau yn llwyr ddigidol (electronig) erbyn Mawrth 2013. Bydd hyn yn cwmpasu’r holl fathau safonol o gwmnïau, sef dros 98% o’r cwmnïau ar y gofrestr a 92% o’r holl drafodion yn ôl nifer. O ran y nifer fechan o fathau o gwmnïau a thrafodion sy’n weddill, byddwn ni’n parhau i ddatblygu gwasanaethau electronig ond yn cadw’r dewis ‘papur’ ar gyfer y rhain am y tro. Mae’r newid hwn yn amodol ar ymgynghoriad â’r budd-ddeiliaid, a chymeradwyaeth y Senedd i’r rheoliadau. Bydd dyddiad am y process ynghyngoriad yn cael ei gyhoeddi ar y tudalen hwn cyn gynted y bydd ar gael.

Mae trafodion digidol yn cynnig nifer o fanteision i’n cwsmeriaid – ffioedd is, hwylustod, canran uwch o geisiadau sy’n gywir y tro cyntaf (mae’r cyfraddau ail-wneud ar gyfer trafodion electronig yn llai nag un chweched o’r gyfradd ar gyfer trafodion papur), gwell diogelwch a llai o dwyll, sicrwydd y byddant yn cyrraedd a’r fantais o gael eu prosesu’n gynt. Bydd y gorchymyn i gyflwyno cyfrifon digidol yn agor y drws ar gyfer cynhyrchion newydd posibl a fydd yn helpu’r farchnad gwybodaeth am gwmnïau ac yn ei gwneud yn haws defnyddio data am gyfrifon at ddibenion dadansoddi, cymharu a meincnodi.

Swnio fel dyfodol cyffrous o ddatrysiadau technolegol. Ond maen nhw wedi gadael un “mantais” mas o’r datganiad – trafodion digidol yn Gymraeg.

Mae pobol sydd eisiau wneud pethau yn Gymraeg yn dod dan y categori “corfforiadau eraill”.

Ar hyn o bryd, er enghraifft, os ti eisiau dechrau cwmni Cyf gyda dogfennau yn Gymraeg, rhaid i ti wneud y gais ar papur – does dim dewis arall. Rydyn ni’n gallu sôn am bobol gyffredinnol yma, fel plymwyr, trydanwyr, gwarchodwyr plant, entrepreneuriaid lan i dy gaffi lleol newydd, cwmni teledu neu dylunyddion. Mae rhai o bobol yn y sector preifat eisiau wneud eu busnes yn Gymraeg.

Mwy:

Mae gwasanaethau digidol yn cynnig arbedion sylweddol o ran costau dros y fersiynau papur. Caiff yr arbedion hynny eu trosglwyddo’n llwyr i’n cwsmeriaid ar ffurf ffioedd is – mae’r ffioedd statudol ar gyfer ein gwasanaethau yn cael eu pennu ar sail adfer costau. O gymharu â thrafodion papur, mae ein cwsmeriaid yn arbed 25% wrth gorffori’n electronig a 50% wrth gyflwyno ffurflenni blynyddol yn electronig. Ar sail y patrymau ffeilio cyfredol, disgwylir y bydd y ffioedd is yn arbed dros £2 miliwn i’n cwsmeriaid.

O ran yr enghraifft o’n Cyf gyda dogfennau yn Gymraeg, bydd y gais yn costio £20.

Ond os ti eisiau dechrau Ltd yn Saesneg, mae gen ti ddewis o feddalwedd (£14), ar-lein (£18) neu bapur (£40).

Gweler Cofrestru cwmni neu PAC â dogfennau cyfansoddiadol yng Nghymraeg (sic?) a Thŷ’r Cwmnïau Cynllun Iaith Gymraeg o 2010.

  1. Pryd ydyn ni’n gallu disgwyl y ddarpariaeth lawn yn Gymraeg – ac yr un prisiau?
  2. Os mae gyda nhw targed o Fawrth 2012 am y defydd o ddarpariaethau yn Saesneg, pryd fydd yr un targed am Gymraeg?

DIWEDDARIAD: neges gan @companieshouse ar Twitter isod.

Ond beth mae hwn yn golygu? Mae’r dolen yn mynd i’r prif tudalen ar tyrcwmniau.gov.uk – eh?


Mae sefydlu cyfnewid gwybodaeth cwmni yn y D.U. yn helpu busnesau http://bit.ly/hOstmQ

This post is about Companies House and the total lack of Welsh provision in some of their online services.

Rhannu llyfrau: môr-ladrad vs. dinodedd

Yn ystod dacluso disg caled wnes i ail-wrando ar yr araith hon o fis Hydref 2008 gan yr awdur Neil Gaiman am: hawlfraint, copïo, llyfrau, rhannu.

Mae fe’n siarad am y gwerth “pass-along” sydd wedi bodoli gyda llyfrau am oesoedd (e.e. sut wyt ti’n ffeindio dy hoff awduron? Trwy ffrindiau, awgrymiadau, benthyciadau, llyfrgelloedd ond weithiau yn unig trwy siopau llyfrau). Arlein mae’n lot hawsa. Dw i’n hoffi ei agwedd.

Hefyd mae fe’n sôn am awduron eraill fel Cory Doctorow a Paulo Coelho sy’n rhannu eu llyfrau arlein am ddim.

Dw i ddim yn gyfarwydd iawn ar ei lyfrau. Dylwn i drio un o’i llyfrau – cyn prynu. Dw i’n trio dychmygu’r safbwynt nofelydd fel Neil Gaiman. Dechreuodd y llyfr Sleeveface fel cynnwys arlein a rhannu arlein beth bynnag. Mae’r llyfr yn gynnwys lluniau. Sgwennais i ddau dudalen o destun, dyna ni. Dw i’n blogio hefyd wrth gwrs ond dw i ddim yn wneud e fel ffynhonnell uniongyrchol o arian – mae’n sgîl-gynnyrch.

Er mae’r galw am lyfrau yn llau nag ieithoedd mwyafrifol, dinodedd yw bygwth mawr gydag ieithoedd lleiafrifol.  Sa’ i di weld digon o sgwrs yn Gymraeg am rannu llyfrau neu enghreifftiau chwaith. Yn ystod yr haf cwrddais i Maria Yáñez yn Aberystwyth trafodon ni’r rhyddhad llyfr Galiseg mewn print ac arlein am ddim dan Creative Commons (O Home Inédito gan Carlos G. Meixide). Enghreifftiau ar y wefan Creative Commons. Beth am ieithoedd lleiafrifol, unrhyw enghreifftiau eraill? Pam ddylai ieithoedd eraill cael yr hwyl? Dylai rhywun (rhywun fel Y Lolfa?) trio fe jyst i ddod yn gyntaf!

Rhwydwaith hysbysebu cyntaf i wneud llwyddiant go iawn o Gymraeg? Facebook

Facebook hysbysebu ieithoedd Cymraeg

Dylen ni meddwl am Facebook fel ffurlen gais am hysbysebu.

Mae’r platfform wedi bod yn llwyddiannus iawn o hyd gyda gwybodaeth am dy ffrindiau, diddordebau, teulu, crefydd, gwleidyddiaeth, dewisiadau rhywiol, ayyb.

Ond maen nhw wedi bod yn colli un darn pwysig o wybodaeth: ieithoedd.

Mae’r targedu wedi bod yn anodd am dy ieithoedd heblaw dy ddewisiad iaith am y rhyngwyneb.

Nawr maen nhw yn gofyn.

Fel ymchwil dw i wedi dewis pob math o Gymraeg i weld yr hysbysebion: “Welsh”, “Old Welsh”, “Middle Welsh”, “Welsh-Romani”. Dw i’n newid fy niddordebau o bryd i’w gilydd, fel ymchwil hefyd.

Facebook fydd y rhwydwaith hysbysebu cyntaf i wneud llwyddiant go iawn o Gymraeg?

Faint ydy Google AdWords yn cymryd o hysbysebion Cymraeg ar hyn o bryd? Dim llawer. Er bod gyda nhw mwy o gynnwys Cymraeg nag unrhyw un arall trwy’r we agored. Mae Facebook yn dod yn ail gyda’u platfform caeedig.

Wrth gwrs baswn i licio sefyllfa lle mae’r arian hysbysebu yn aros yng Nghymru. Bydd mwy o siawns gyda’r we agored. Roedd Tim Berners-Lee yn hollol gywir.

Yr unig obaith am unrhyw rwydwaith hysbysebu yng Nghymru? Mae’r we agored yn trosgynnu ffasiwn. Dyw Facebook ddim.

YCHWANEGOL 6/12/10: Mae un neu dau person yn cwyno am “Welsh” ayyb eisioes. Ond o leia maen nhw yn atgoffa ni o’r sefyllfa – cwmni yn California sy’n cyfrannu i’r brain drain ar y we agored Cymraeg. Efallai well i ni peidio cwyno amdano fe.