Pan o’n i’n mynd i ysgol doedd dim prinder o negeseuon fel ‘dyma dy fywyd di nawr’, ‘carpe diem’, ’mae un siawns gyda chi’ ayyb.
Dw i newydd wylio’r hysbyseb Prifysgol De Cymru gydag Ioan Gruffudd sydd yn adlewyrchu agweddau tebyg. Mae Lloegr fel dewis lleoliad ac efallai’r diffyg darpariaeth Gymraeg yn materion dan sylw ar hyn o bryd.
Ond yr elfen arall sydd yn haeddu cwestiwn (o leiaf yn y fideo ac yn fy mhrofiad i) ydy unrhyw awgrym o’r posibilrwydd o newid meddwl yn ystod dy ‘yrfa’. Mae’r gair ‘gyrfa’ yn codi ofn ar lot o bobl ifanc. Doedd neb ar gael i esbonio i mi bod ‘gyrfa’ – neu beth bynnag yw’r gair – yn rhywbeth sydd yn gallu datblygu yn ara deg neu gam-wrth-gam neu fel igam-ogam hollol fler yn hytrach na rhywbeth rwyt ti’n penderfynu unwaith fel person 14-oed. Mae bywyd yn llawn posibiliadau a dewisiadau yn ogystal ac o dan sofraniaeth yr Hollalluog. Peidiwch gofyn i mi sut mae hynny yn gweithio.
Beth yw’r ots os wyt ti’n methu rhywbeth neu gorfod newid dy feddwl neu’n datblygu diddordeb mewn rhywbeth hwyrach ymlaen? Un o’r gwersi pwysicaf yw’r potensial o drawsnewid ambell i goc-yp i fendith. Dylai rhywun dweud wrth bobl mewn addysg bod ’na sawl cyfle a siawns mewn bywyd. Bydd cyfleoedd yn y dyfodol agos sydd ddim hyd yn oed yn bodoli eto.
Wedi dweud hyn i gyd pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n yn weddol breintiedig o ran cyfleoedd i drio pethau, cwrdd â phobl diddorol ac ati.
Dw i’n gobeithio bod hyn i gyd dal yn wir yn ystod y cawlach economaidd presennol ta waeth. Byddai buddsoddiad gwell mewn addysg a chyfleoedd i bobl yn lot fwy teilwng na phethau fel Trident, WMDs a mentrau i gyfiawnhau gweithredoedd y bancwyr. Ond y prif pwynt heddiw yw, does dim angen gymaint o bwysedd ar bobl mewn addysg. Gad iddynt cael ychydig o amser.