Dyma gopi o lythyr a anfonwyd heddiw. Bydd Ysgol Gynradd Abersoch yn cael ei chau ar Ragfyr 31 eleni.
At sylw:
Prif Weithredwr Carl Harris
Arweinydd Adam Price
Siom fawr yw penderfyniad anghyfrifol Cyngor Gwynedd Plaid Cymru i gau Ysgol Abersoch, canolfan gymunedol sydd mor hanfodol i fywyd Cymraeg y pentref.
Ni allaf gyfiawnhau parhau i fod yn aelod o blaid sydd yn defnyddio grym etholedig i gefnu ar gymuned Cymraeg. Mae’r penderfyniad yn gosod cynsail peryglus wrth ystyried dyfodol cymunedau Cymraeg gwahanol ar draws Cymru, yn enwedig yr ardaloedd lle mae’r Blaid yn llywodraethu.
Nid dyma’r unig enghraifft o bentref yn colli ei chalon oherwydd penderfyniad gan gyngor Plaid Cymru dros flynyddoedd wrth gwrs. Mewn achos Abersoch, fel rhai eraill, mae hyn yn groes i bolisïau y cyngor ei hun.
Fe ddylai plaid genedlaetholgar go iawn baratoi tuag at adfywiad cymunedau Cymraeg yn eu holl amrywiaeth a chymryd pob un cyfle i wrthdroi dirywiad. Yn hytrach rwy’n nodi bod Cyngor Gwynedd heb roi ystyriaeth ddigonol i syniadau addawol ac ymarferol mae ymgyrchwyr megis Cymdeithas yr Iaith wedi cynnig, heb sôn am weithredu’n gadarnhaol mewn meysydd eraill megis cynllunio cynaliadwy i warchod ac adfywio pentrefi’r sir fel Abersoch.
Tynnwch fy aelodaeth Plaid Cymru ar unwaith os gwelwch yn dda. Rwy eisoes wedi canslo fy nhaliadau misol.
Yn gywir
Carl Morris
Llun gan Alan Fryer (CC BY-SA)
Beth yw Rheswm/esgus y Gyngor?
Helo Gruff, mae ychydig o straeon wedi bod yn y wasg gan gynnwys Golwg360 a BBC Cymru Fyw yn ystod yr wythnos. Fel arall bydd rhaid i chi ofyn i’r cyngor.