Twitter+Cymraeg=? neu Twitter-Cymraeg=?, dyma’r cwestiwn.
Yn hytrach na chofnod cynhwysfawr dyma bwyntiau gwahanol dro yma. Sa’ i eisiau bod yn ciwt heno trwy sgwennu nhw fel tweets.
Felly dyma casgliad o feddyliau am Twitter, Cymraeg a dwyieithrwydd.
- Dw i’n meddwl bydd rhywbeth fel Twitter gyda ni am byth o hyn ymlaen. Bydd yr iaith Gymraeg yn parhau o hyn ymlaen felly mae’n werth ystyried y perthynas rhwng y ddau. Wrth gwrs ar hyn o bryd mae Trydaru a thrydar yn golygu’r un peth (fel y mae Twittering a tweeting yn Saesneg yn golygu’r un peth). Mae’n siwr bydd mwy o blatfformau eraill yn y dyfodol neu gobeithio protocol agored yn hytrach na rhywbeth dan un cwmni. Beth bynnag, bob tro dw i’n dweud Twitter yma dw i’n cyfeirio at unrhyw gwasanaeth cyhoeddus ar-lein gyda negeseuon byrion mewn ffrwd.
- Mae brandiau fel @ytwll, @golwg360, @haciaith, @tuchwith, @fideobobdydd, @bbccymru, @llencymru ayyb i gyd yn uniaith Gymraeg. Viva la brandiau!
- Ond oes na unrhyw unigolion uniaith Gymraeg ar Twitter rhagor? Os oeddet ti’n meddwl bod rhyw fath o gadarnle mewn brên trydar Geraint Lövgreen (er enghraifft!), wel, ti’n rong. Nid yw fy mhwynt i i godi helynt gydag unrhywun, dim ond i sylwi bod defnydd personol Twitter yn hollol dwyieithog erbyn hyn. Deliwch â’r peth?
- Mae unigolion sydd yn dechrau yn uniaith Gymraeg yn troi at Saesneg bob hyn a hyn yn y pen draw. Wel, lot ohonyn nhw…
- Aildrydar yw’r gateway drug i drydariadau Saesneg.
- Dw i byth yn aildrydar Saesneg o @ytwll er enghraifft. Dw i ddim yn meddwl bod e’n addas i’r brand. Ambell waith dw i wedi cyfansoddi neges newydd yn Gymraeg yn lle aildrydar.
- Mae Twitter YN gyfrwng byd-eang. Os wyt ti’n mynd ar gyfrwng byd-eang rwyt ti’n cael dy globaleiddio gan ffans Justin Bieber. Oes ots?
- Roedd pobol yn chwerthin pan wnaeth Dr John Davies sôn am y ffôn cynnar – roedd rhai o bobol Cymraeg yn cwestiynu os oedd y dechnoleg yn gallu trosglwyddo sgyrsiau yn Gymraeg. Dw i’n siwr bydd y sefyllfa diglossia ar y we yn cael ei ystyried yn yr un modd yn y dyfodol. Ond mae problemau sydd yn atal Cymraeg, e.e. mae’n anodd i decstio yn Gymraeg neu ddim mor hawdd â Saesneg. Mae awtogywiro yn wneud cawlach o Gymraeg.
- Tu hwnt i globaleiddio (neu tu mewn) mae lot o bobol ifanc yn y dwyrain fel Caerdydd yn postio yn Saesneg achos mae gyda nhw ffrindiau neu dilynwyr di-Gymraeg. Efallai maen nhw eisiau cynyddu eu nifer o ddilynwyr. Ym mhersonol dw i’n trio peidio edrych at fy ystadegau dilynwyr, maen nhw yn hollol amherthnasol i’r sgwrs dw i eisiau cynnal NAWR.
- Dw i’n siarad wrth gwrs fel rhywun sydd yn postio yn y ddwy iaith. Dw i’n dwyieithog fel person. Os ydw i’n gofyn cwestiwn dw i’n trio yn Gymraeg cyntaf ac yn aros am ateb. Dw i’n rhoi blaenoriaeth i Gymraeg fel arfer.
- Dw i’n ateb i bobol ddi-Gymraeg yn Saesneg eithaf lot. Byddi di dim ond yn gweld y trydariadau yna yn dy ffrwd os wyt ti’n dilyn y ddau berson sydd yn cymryd rhan yn y sgwrs (yr unig ffiltro yn dy ffrwd Twitter).
- Yn fy marn i mae rhywbeth bach yn sefydliadol am bobol sydd yn drydar yr un neges dwywaith – yn y ddwy iaith. Hefyd mae Twitter mor llafar – mae’n od i weld pethau Saesneg gan bobol sydd yn hollol Cymraeg i ti. Dw i’n trio dychmygu’r llais Saesneg.
- Ond wedi dweud hynny, mae lot o resymau pam mae pobol yn trydar yn Saesneg. Maen nhw yn byw tu fas i Gymru, yn ail iaith neu yn trio cymryd rhan mewn sgwrs benodol mewn niche (e.e. dylunio) neu sgwrs dan tag. Fel arfer mae tag yn gysylltiedig gydag un iaith, e.e. sioeau yn y Trydar-Teledu Complex. (Mae tagiau dwyieithog. Dw i’n cofio pan wnaethon ni awgrymu #senedd2011 i’r Cynulliad ar gyfer etholiadau.)
- Mae pawb [wedi penderfynu bod] yn rhydd. Does dim rheolau. Mae polisi/amcanion iaith rhywun arall yn wahanol i dy un di.
- Hefyd mae Twitter yn perfformiad cyhoeddus i ryw raddau. Dyma pam mae Dafydd El yn ateb Vaughan Roderick yn Saesneg. Ond mae ffenomen dal yn od i rywun sydd yn cysylltu nhw gydag un iaith yn unig.
- Mae lot lot mwy ar y rhyngrwyd na Twitter. Ac mae angen lot mwy na Twitter Cymraeg er mwyn cynnal gwareiddiad. Blogia, recordiau fideo neu cyfieitha term neu ddau o dy hoff feddalwedd.
- Gyda llaw os ydw i’n asesu cyfryngau cymdeithasol a’r Gymraeg dw i’n ystyried ‘rhyngwyneb’, ‘cynnwys’ a ‘chymuned’. Mae rhyngwyneb yn bwysig ond dydy e ddim mor bwysig a’r ddau arall.
- Os wyt ti’n pryderu am shifft ieithyddol paid â ‘chywiro’ pobol Cymraeg sydd yn postio yn Saesneg. Paid â chyfeirio at y peth. Mae’n boring. Ond mae rhywbeth penodol rwyt ti’n gallu gwneud. Cadwch ar y pwnc a phostiwch ateb perthnasol yn Gymraeg. Atebwch bob trydariad yn Gymraeg. Rwyt ti wedi ateb y person gyda rhywbeth diddorol ac wedi newid y shifft ieithyddol tipyn bach. Hefyd mae mwy o Gymraeg yn arwain at fwy o Gymraeg.
Llawer o bwyntiau diddorol iawn!
Un rheswm dros drydar (neu ddiweddaru statws, neu flogio ac ati.) yn y Saesneg yw er mwyn peidio ynysu’r di-Gymraeg o’r sgwrs. O ran hyn mae’r dechnoleg fel ag y mae yn ein gorfodi i ddewis iaith cyn i ni wybod pwy yw’n cynulleidfa.
Ar hyn o bryd, mae sgôp meddalwedd amlieithog ond yn ymdrin â iaith y rhyngwyneb. Ond mewn gwirionedd, mae unrhyw ddefnyddiwr â llawer mwy o ddiddordeb yn y cynnwys na’r rhyngwyneb.
Hoffwn feddwl fod dyfodol technoleg amlieithog yn cynnwys caniatáu cynnwys amlieithog hefyd. H.y. postio’r neges mewn amrywiaeth o ieithoedd ar yr un pryd fel bod darllenydd ond yn gweld y neges sy’n cyfateb i’w dewis nhw o iaith (neu, os nad yw i gael, eu hail ddewis ac ati.) Hefyd y gallu i newid iaith unrhyw neges unigol dros dro heb effeithio’r lleill.
Mae fi gyn breuddwyd…!
Mae’n problem mawr i fi. Mae gen i lot o ddilynwyr di-Cymraeg dros y ddau cyfrif bersonol fi – ond byddai’n weithiau’n postio’n uniaith Cymraeg ar gyfer materion Cymreig neu fwy lleol.
Be ’swn i licio ydi client Twitter (ddim yn hoff o gyfieithu i Trydar – neb yn dweud Chi-tiwb nagoes?) sy’n ffiltro’r iaith. Hynny yw, dim ond pobl sydd wedi dewis weld twits iaith Cymraeg neith ei weld nhw. Baswn i wedyn ddim yn poeni am llenwi timeline pobl di-Cymraeg gyda iaith dydy nhw ddim yn deall. Baswn i’n postio fwy o Gymraeg.
Blogiad diddorol iawn, Carl!
“Be ‘swn i licio ydi client Twitter (ddim yn hoff o gyfieithu i Trydar – neb yn dweud Chi-tiwb nagoes?) sy’n ffiltro’r iaith. Hynny yw, dim ond pobl sydd wedi dewis weld twits iaith Cymraeg neith ei weld nhw. Baswn i wedyn ddim yn poeni am llenwi timeline pobl di-Cymraeg gyda iaith dydy nhw ddim yn deall. Baswn i’n postio fwy o Gymraeg.”
Mae hyn yn syniad da iawn Phil, a rywbeth ydw i wedi bod yn pendroni amdano. Dw i’n gweld lot o bobol yn gadael negeseuon yn Gymraeg ar Facebook a wedyn pobol uniaith saesneg yn gadael neges yn dweud rhywbeth fel, ‘what are you saying, lol?!’ Falle bod hynny’n rhoi pwysau arnyn nhw i adael negeseuon Cymraeg rhag ofn eu bod nhw ‘sbamio’ waliau eu cyfeillion di-Gymraeg!
Falle bod hi ddigon hawdd fi ddeud hyn (fel siaradwr Cymraeg), ond ydy ‘sbamio’ waliau pobl* gyda negesuon mewn ieithoedd nad ydynt yn ddeall yn waeth trosedd na sbamio ei ffrindiau/dilynwyr gyda negeseuon am sothach?
Er enghraifft, petai pobl yn trydar am The Apprentice/Teulu Brenhinol Lloegr/sawl paned o goffi maen nhw wedi yfed heddiw, baswn i’n ddiolchgar iawn petai mewn iaith na allaf ddeall.
Wedi dweud hynny o’r 250 dwi’n ddilyn ar Twitter, mond rhyw 3-4 sy’n trydar mewn ieithoedd eraill oni bai Cymraeg/Saesneg a hynny’n bur anaml.
Bydda i ond yn Trydar yn Saesneg os yn defnyddio hashtag neu’n cyfieiro at gyfrif di-Gymraeg. Er bod pobl di-Gymraeg ymysg y 300 sy’n fy nilyn, dw i’n cymryd mai rhyw ‘sympathy follow’ (jyst am mod i wedi dilyn nhw) neu pobl yn trio hela dilynwyr ydynt.
*Y pobl hyn ydy eich ffrindiau neu pobl sy wedi penderfynu eich dilyn gan bod ganddynt ddidordeb (ar ryw adeg) yn yr hyn sy ganddoch i’w ddweud fel arfer. Os ydy’ch gweld yn cyfathrebu’n Gymraeg yn wrthun iddyn, wel twll eu tinnau ddweda i.
Mae gen i ffrindiau Facebook a lawer o wahanol wledydd. Pan dwi’n sgwennu’n Gymraeg (yn anaml i ddweud y gwir) mae’r rhai sydd wir eisiau deall yn edrych ar Google translate i weld beth dwi wedi ei ddweud. Fuaswn i ddim eisiau i’r sylw ymddangos yn awtomatig yn eu hiaith eu hunain achos dwi eisiau iddyn nhw weld, nid yn unig y sylw ond y ffaith ei fod yn Gymraeg. Fuaswn i ddim eisiau i’r Gymraeg fynd yn anweledig ar y we.
@Phil trydar fel berf a Twitter am y gwasanaeth/cwmni
@Phil @Ifan Does gyda fi ddim data ond dw i’n ystyried y diffyg Cymraeg yn y ffrwd fel mwy o broblem na phresennoldeb Cymraeg mewn ffrydiau pobol di-Gymraeg. Ond wrth gwrs mae’r ddau yn gysylltiedig! Mae’r technoleg tu ôl Umap yn gallu gwneud y ffiltro (er bod y gwasanaeth wedi dod i ben yn anffodus).
@Welbru Yn union mae problemau sylfaenol gyda chyfieithu awtomatig di-ofyn (à la Google Chrome). Peryglus? Mae gymaint o fy ffrindiau yn canmol Google Translate yn fy mhrofiad i ond does neb ohonyn nhw yn deall digon o’r dwy iaith i gadarnhau!
@Carl @Welbru rwy’n cytuno mai brasamcan a geir drwy gyfieithu awtomatig diofyn ar hyn o bryd, ond beth oeddwn i’n dychmygu oedd caniatáu’r defnyddiwr i fewnbynnu nifer o fersiynau o’r un neges â llaw – un fersiwn i bob iaith sy’n cael ei dargedu. Byddai hyn yn caniatáu cyfieithiad llai amwys ac yn caniatáu targedu un iaith yn unig petai angen.
@Welbru tra ’mod i’n cytuno â’r nod o atal y Gymraeg rhag mynd yn anweledig ar y we, dwi ddim yn siŵr mai ei defnyddio fel rhwystr i faglu’r di-Gymraeg yw’r ffordd orau o godi ymwybyddiaeth! 😉
Helo.
Chwilio am gyngor.
Wrthi’n cynllunio strategaeth twitter ar gyfer corff newydd.
Mae rhai o’r farn y dyle ni ddilyn cyngor swyddfa’r commisiynydd, a cael un cyfrif ddwyieithog.
Daellaf y rhesymeg tu ol cael un cyfrif, ond rydym yn aml yn cael cwynion gan ddilynwyr yn gofyn pam ein bod yn trydar yr un gwybodaeth ddwywaith a dyle un cyfrif fod yn haws i’n dilyn.
Dwi’ o’r farn y byddau dau gyfrif yn well i’n dilynwyr Cymraeg a di-Gymraeg.
Bysa ni’n trydaru diweddaradau ar y ddau gyfrif yr un pryd.
Byswn hefyd yn annog unrhyw un i ddilyn y ddau cyfrif os y dymunant.
Bydd y cyfrif yn debyygol o fod yn rhoi nifer o dwits allan pob dydd – 10 neu fwy ar adegau.
Be fyddai’ch cyngor chi?
Un cyfrif Cymraeg/Saesneg neu dau gyfrif ar wahan?
helivans, mae’r ateb yn dibynnu ar eich amcanion a’ch sefyllfa. Dylech chi ystyried rhyngweithiad/trafodaeth gyda phobl yn ogystal â diweddariadau. Gwnaf i dy ebostio di i’w drafod.