Pwy sy’n dweud does na ddim stwff niche ar y we Gymraeg? Ar ddechrau’r wythnos dwedodd y blog Hadau:
[…] Pigais i 3kg o riwbob dros y penwythnos, felly gan ei bod hi’n Ŵyl y Banc es i ati ddydd Llun i baratoi danteithion. Ryseitiau i ddilyn…
Ac mae digon o ryseitiau am bryd o fwyd riwbob-gyda-phopeth: jam riwbob, fodca riwbob a hufen ia riwbob.
Dw i ddim yn siŵr os ydy riwbobmania yn cyfrif fel trend go iawn eto. Ond gawn ni weld.
Ti wedi ’neud i fi gochi nawr. Am gywilydd – do’n i heb actiwli sylweddoli mod i’n gîc riwbob tan i ti dynnu’n sylw i at hynny.
Diolch, wedi colli hwn tan nawr. Un da i’w rannu gyda’r dysgwyr lleol.
Hefyd, riwbob.
Yn union: riwbob.
O’r holl niches o fewn y byd blogio Cymraeg, garddio yw’r ‘cryfaf’ ar hyn o bryd faswn i’n ddeud (mae Hadau yno). Dw i’n licio’r lluniau ar y Garddiadur.