Mae’r sylwadau ar fy nghofnod am Library of Congress wedi bod yn dda iawn.
I fod yn deg mae cannoedd o luniau o’r archifau Llyfrgell Genedlaethol yn y parth cyhoeddus.
Mae’r saith llun yma gan Geoff Charles. Mae lluniau gan ffotograffwyr eraill hefyd.
Maen nhw i gyd yn dweud ‘No known copyright restrictions’ ar Flickr, sy’n dda iawn.
Nawr allem ni rhyddhau’r llyfrau fel Yn y Lhyvyr Hwnn hefyd?
🙂
Dw i’n cymr7yd est ti i’r Lle Celf yn Wrecsam – dyna oedd yr uwchafbwynt i mi. Ches i ddim amser i edrych ar y ffilm a greuwyd gan ddisgyblion Ysgol Friars.
O wefan yr Eisteddfod:
Mae i’r arddangosfa dair elfen wahanol – papur newydd o ddelweddau Geoff Charles, ffotograffau du a gwyn wedi’u fframio, a thafluniadau o ddelweddau llonydd a ffilm.
Cynhyrchwyd ‘Stori Tryweryn’ gan fechgyn Ysgol Friars Bangor yn nechrau’r 1960au. Wedi ei ffilmio mewn lliw llachar, mae’n portreadu’r troi allan o bentref Capel Gelyn ger y Bala, a’r ffermydd cyfagos i godi cronfa ddŵr newydd yn bennaf ar gyfer trigolion a busnesau Lerpwl. Gweithiodd mab Geoff Charles, oedd yn ddisgybl yn yr ysgol, fel dyn camera ar y ffilm. Ers 1956 roedd Geoff Charles ei hun wedi cofnodi digwyddiadau a chanlyniadau boddi Cwm Tryweryn yn fanwl. Mae ei ffotograffau llonydd wedi eu hymgorffori i mewn i’r ffilm.
“Mae cyfuno’r ffotograffau gyda’r ffilm yn cynhyrchu rhai gwahaniaethau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol diddorol. Mae gwrthdrawiad y ddelwedd lonydd â’r ffilm, lliw Kodachrome llym â monocrom, sinemaffotograffiaeth amatur ac adrodd ar ddigwyddiadau i bapur newydd, yn cyfleu tensiynau dwfn y cyfnod.”
Mae’n swnio fel rhwy fath o ‘stwnsh’ o ffilm gyda delweddau Geoff Charles – dyma’r math o waith creadigol a ellir ei gyflawni.
Dw i’n dwlu ar luniau Geoff Charles, a chytuno â ti, Rhys, bod yr arddangosfa yna yn un o uchafbwyntiau’r Steddfod.
Wedi bod yn ffan ers i mi sylw iddo dynnu llun fy nhaid yn y 50au.