Pa blatfform? Pa brotocol? Rhai nodiadau am drafodaeth ar y we

Mae’r nodiadau isod yn perthnasol i newyddion dibynadwy, trafodaethau, gwrando ar arbenigwyr, dysgu, datblygu dealltwriaeth, a dwyn awdurdodau i gyfrif. Mae hyn i gyd yn bethau sydd yn bosibl i’w gwneud drwy ddefnydd o’r we, ar ei gorau.

Ar hyn o bryd mae hi’n teimlo i mi fod nifer o bobl yn ‘coroni’ gwahanol blatfformau penodol megis Bluesky fel Y Lle i gynnal sgyrsiau ar y we am bob pwnc dan haul, ac mae hynny’n codi llawer o gwestiynau i mi.

Ym mha ffordd a fyddai’r platfform o’ch dewis yn well na Twitter/X nawr ac yn dyfodol?

Beth yw’r risg?

Pa wersi ydyn ni’n dysgu o brofiad[au] Twitter/X? Beth am Myspace? A Facebook, ac ati?

Ydyn ni’n fodlon treulio llawer o amser i ymgartrefu ar blatfform am ychydig blynyddoedd, i ddechrau eto ar blatfform arall pan fydd y chwarae’n troi’n chwerw? (Dw i ddim eisiau gwneud hyn.)

Beth am y Gymraeg?

Yn ystod yr etholiad yn yr UDA roedd nifer o bobl a sefydliadau yn datgan bod nhw am adael Twitter/X. Un enghraifft oedd ysgol a gyhoeddodd “nad yw X yn alinio gydag ein gwerthoedd”… a bwriad yr ysgol i ymuno ag Instagram yn lle. Mae hyn eto yn codi cwestiynau.

Efallai bod Instagram yn teimlo fel lle neisach i dreulio amser yn 2024, ond mae hynny’n dibynnu yn llwyr ar bwy wyt ti.

Am wn i does dim llawer iawn o wahaniaeth pwysig rhwng Twitter/X ac Instagram: y pwrpas, y model masnachol, y model llywodraethiant, pwy sy’n rheoli, beth all digwydd ar ei waethaf (Meta yw perchennog Instagram a Facebook), felly ie, gwerthoedd eithaf tebyg hefyd.

Dw i’n llwyr ymwybodol o bwy yw Elon Musk ac dw i wedi bod yn dilyn yr hanes.

Rhaid nodi bod hefyd rhai ystyriaethau a phroblemau strwythurol gyda’r “we gorfforaethol” sy’n trosgynnu unigolyn.

Yn wir mae Bluesky mewn meddiant corfforiaeth buddiant cyhoeddus (PBC yn yr UDA). Mae hynny’n swnio’n addawol. A dweud y gwir does dim llawer iawn o ddealltwriaeth gyda fi eto o arwyddocâd hynny o ran llywodraethiant, risg a/neu “gost” hir dymor i ddefnyddwyr (dw i ddim yn cyfeirio at bris ariannol yn unig).

Ar hyn o bryd mae Tŵt Cymru yn cynnig cyfuniad apelgar i mi o ryngwyneb Cymraeg, rhyddid i symud i blatfform arall â fy holl ddilynwyr, y gallu i ddilyn defnyddwyr Saesneg gan gynnwys rhai ar weinyddwyr eraill, ac wrth gwrs dilyn nifer sylweddol – os nad anferth ar hyn o bryd – o ddefnyddwyr Cymraeg heb algorithm i’w boddi, polisïau sy’n edrych yn gall i mi, a llywodraethiant iachus hyd y gwelaf i.

Hynny yw dw i wedi cwrdd â’r person sy’n rhedeg Tŵt Cymru ac wedi cael peint yn y Blue Bell yng Nghaerdydd, ac mae modd gohebu’n uniongyrchol gyda fe gyda chwestiynau, problemau, syniadau, ayyb. Mae tîm cymedroli sydd hefyd yn ddefnyddwyr.

Mae’r blog hwn yn le da i mi rannu meddyliau hefyd (ac i’r rhai sydd â diddordeb mae modd cael ffrwd ActivityPub a/neu RSS). Mae’r blog yn rhedeg yn annibynol o unrhyw gwmni neu gorff heblaw am y perthnasau gyda chofrestrydd enw parth a chwmni lletya.

Gyda llaw… mae blogio’n lot haws pan dw i’n cynnwys ‘meddyliau’ neu ‘nodiadau’ yn y teitl yn hytrach na cheisio ysgrifennu darn feddylgar, craff, campus. 😂

Byddai hi’n braf tasai hi’n bosibl i ddilyn defnyddwyr Bluesky drwy weinydd Mastodon fel Tŵt Cymru, a’r ffordd arall, ac ymateb ayyb. Byddai hynny’n dibynnu ar ryw fath o ffederaleiddio yn y dyfodol. Efallai bod hynny yn gwbl amhosibl ac yn ddatganiad hollol nonsens, bydd rhaid i mi ymchwilio.

I’w barhau.

Yn y cyfamser diolch i Richard, Nwdls, ac eraill am ysgogi’r sgwrs.

Un Ateb i “Pa blatfform? Pa brotocol? Rhai nodiadau am drafodaeth ar y we”

  1. Diolch Carl. Yr wythnos yma dwi wedi dod i ddeall bod Bluesky yn tyfu’n gyflymach ac X yn colli defnyddwyr amlwg. Fy ymateb cyntaf i oedd siom nad oedd pawb yn dewis Mastodon. Ond mae sawl peth wedi fy nharo i:

    1. Dwi’n methu rheoli beth mae pobl eraill yn wneud
    2. Mae ’na diffygion yn Mastodon neu ffactorau rhesymol am ddewis platfform arall – dydy hi ddim yn siwtio pawb.
    3. Nid X mo Bluesky ac mae na ochr bositif i hyn.
    4. Nid anelu at gymryd lle X ddylai fod y nod a’r mesur ar gyfer dyfodol Mastodon. Creu rhywbeth gwahanol ydy e.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *