Fel datblygydd gwe llawrydd mae hi wastad yn ddifyr cael gweithio ar Mapio Cymru, a chyfle i gyfuno rhai o fy niddordebau: meddalwedd rydd, data agored, mapiau, a’r Gymraeg.
Mae’r prosiect wedi tyfu o’i fan cychwyn fel map arbrofol gydag enwau Cymraeg. Rydyn ni bellach yn helpu cwpl o sefydliadau i gynnig gwasanaethau mapio Cymraeg.
Trafnidiaeth Cymru yw un o’r sefydliadau.
Dyma Ben Proctor o’r prosiect yn ymhelaethu ar ein gwaith ymgynghorol i TrC.
Gofynnodd Trafnidiaeth Cymru inni wneud darn o waith ymchwil ar eu cyfer. Roeddent am wybod sut y gallent adeiladu apiau mapio ar-lein a oedd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Rydym wedi bod yn meddwl am y themau yma am sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn cynnal map iaith Gymraeg o Gymru: openstreetmap.cymru. Fodd bynnag, buodd y prosiect hwn ar gyfer sefydliad sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gyfle gwirioneddol i feddwl am oblygiadau’r materion yma. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Trafnidiaeth Cymru sy’n llawn manylion ac sy’n canolbwyntio ar eu hamgylchiadau penodol.