Mae’r maes cryptoarian wedi datblygu eithaf tipyn ers genedigaeth Bitcoin yn 2009.
Dyma restr anghyflawn o fathau gwahanol o gryptoarian y mae pobl yn cyfnewid a defnyddio yn 2017.
- 0x
- Aragon
- Augur
- Bancor
- Basic Attention Token
- Binance Coin
- BitConnect
- BitShares
- Bitcoin
- Bitcoin Cash
- Bytecoin
- Civic
- Dash
- Decentraland
- Diamunds
- Dogecoin
- EOS
- Ethereum
- Ethereum Classic
- Factom
- Faircoin
- Filecoin
- Funfair
- Gnosis
- Golem
- IOTA
- Iconomi
- Lilium
- Lisk
- Litecoin
- MaidSafeCoin
- Metal
- Monero
- NEM
- NEO
- OmiseGo
- OpenANX
- Populous
- Qtum
- Ripple
- Siacoin
- Status
- Steem
- Stellar Lumens
- Stratis
- TenX
- Tether
- Tezos
- TheDAO
- Veritaseum
- Waves
- Zcash
Allwn i ddim ymhelaethu ar nodweddion unigryw bob un. Ond dw i wedi cael gafael ar Bitcoin, Ethereum a Litecoin trwy brynu. I ddechrau o’n i am weld sut mae hi’n teimlo i ddelio gyda chryptoarian a chael y profiad o fynd trwy’r broses. Chwilfrydedd pur oedd hi.
Fe ges i fach o Dash hefyd am ddim wrth anarchydd o’r enw Ed mewn digwyddiad anffurfiol ym Mryste – cyfuniad diddorol tu hwnt o fathmategwyr sy’n ymddiddori yn y systemau, codwyr sy’n chwarae ac yn ceisio arloesi gyda’r arian ond hefyd algorithmau cadwyn bloc mewn sawl maes gwahanol (pleidleisio ayyb), anarchwyr sy’n meddwl bod cryptoarian yn cynnig ffordd o greu marchnad(oedd) amgen a datblygu cymdeithas gwell sydd ddim yn dibynnu ar fanciau a sefydliadau traddodiadol eraill, a buddsoddwyr arian cyfred sy’n masnachu a phobl eraill sydd jyst eisiau canfod ffordd o fod yn gyfoethog rhywsut!
Mae egwyddorion moesegol Faircoin yn swnio’n addawol iawn ond dw i heb gael unrhyw brofiad o Faircoin.
Ar hyn o bryd dw i’n eithaf siŵr taw buddsoddi yw’r prif gategori o ddefnydd o gryptoarian ac wedyn cyffuriau yn ail (neu’r ffordd arall rownd), ond mae pobl yn ei wario ar ynnyrch fel pitsa a gemau ac hefyd gwasanaethau gwe, dylunwyr, ayyb. Byddai hi’n ddiddorol cael gweld siart o’r prif gategorïau o bethau sy’n cael ei brynu gyda chryptoarian yn fyd eang ond dw i ddim yn gallu canfod un ar hyn o bryd.
Tybed pwy fydd fy nghlient cyntaf i fy nalu mewn Bitcoin? Mae sawl prosiect gwe yn cadw fi yn frysur ar hyn o bryd. Mae opsiwn talu Bitcoin ar bob anfoneb dw i’n anfon at glientiaid. Ond dw i am gadw dulliau talu traddodiadol fel BACS yna am y tro.
Dyma werth Bitcoin mewn punnoedd o Awst 2016 i Awst 2017. Yn amlwg mae sawl person yn meddwl bod hi’n werth ei brynu.
Hoffwn i ddysgu mwy am hyn i gyd achos mae’n ddiddorol. Oes ’na unrhyw alw am sgwrs am Bitcoin yn yr Hacio’r Iaith nesaf? (Ionawr neu Chwefror 2018 yng Nghaerdydd… i’w gadarnhau!)
Yn y cyfamser, dyma gynnig arbennig…
Os ydych chi eisiau prynu cyfanswm o $100 neu fwy mewn cryptoarian (Bitcoin, Ethereum a/neu Litecoin) defnyddwch y ddolen hon. Fe gewch chi $10 am ddim yn ychwanegol ac byddaf i’n cael $10 yn ogystal.
Diolch! Diddorol iawn 🙂
Y peth nesa ymlaen tua’r iwtopia anarchaidd … neu y sgam mwya fyth? Gawn ni weld ‘falla 😉
Diddorol – doedd dim clem ’daf i bod cymaint o systemau cryptoarian a hynny!
Maen nhw i gyd yn seiliedig ar feddalwedd rydd Bitcoin.
Felly gallen ni ddechrau Leiacoin heddiw. 🙂
Pwy a ŵyr pa rai fydd yn parhau ac yn llwyddo, hyd yn oed yn ôl eu hamcanion nhw.
Ti ’di gweld hyn? https://medium.com/pcmag-access/why-blockchains-fork-a-tale-of-two-cryptocurrencies-67ebf561ca9c
Oedd e’n diddorol i fi gweld pam mae rhai o’r forks wedi dechrau
Gall fynd y ddwy ffordd. Unai bydd cadwyn bloc yn gwneud hi’n haws i anarchwyr gyd-weithio – symud pres, gwneud cytundebau etc. Neu, gwneud hi’n anodd iawn diflannu, gan wneud dy adnabyddiaeth arlein yn llai rhithiol ac yn fwy real.
Rhag ofn na welais ti’r newyddion yma: https://www.google.co.uk/url?sa=t&source=web&rct=j&url=https://amp.theguardian.com/technology/2017/nov/08/cryptocurrency-300m-dollars-stolen-bug-ether&ved=0ahUKEwjayODj07TXAhWHZlAKHV3oBOQQiJQBCEQwAA&usg=AOvVaw36-tgnjTsT2OMiiIsRgKru&cf=1