Dilynwch gyfrif Twitter @wicipedia.
Mae pedwar math o drydariad bellach:
#ArYDyddHwn
Dyma ddigwyddiad sydd wedi digwydd ar y dydd hwn fel y mae’r enw yn awgrymu.
Mae dolen i erthygl Wicipedia Cymraeg bob tro, ac weithiau delwedd.
1564 Ganwyd y seryddwr a’r ffisegwr Eidalaidd Galileo Galilei https://t.co/eYCcDYmwAb #ArYDyddHwn pic.twitter.com/3xlXtS7QCt
— Wicipedia Cymraeg (@Wicipedia) February 15, 2017
#Crëwyd
Wyddoch chi fod rhywun o’r enw Dafyddt newydd greu erthygl am Eirwyn Pontshân o’r diwedd y mis hwn? Dyma uchafbwyntiau o erthyglau Wicipedia Cymraeg newydd sbon a grëwyd gan wirfoddolwyr, arwyr y we Gymraeg!
Gwilym Eirwyn Jones https://t.co/XMbK2rh3Ya (#Crëwyd gan Dafyddt) pic.twitter.com/UYYurcEwyu
— Wicipedia Cymraeg (@Wicipedia) February 13, 2017
#MenywodMewnCoch
Mae prosiect ar y Wicipedia Saesneg o’r enw Women In Red i sbarduno pobl i greu rhagor o erthyglau am fenywod.
Fel arfer mae llai o erthyglau am fenywod adnabyddus ar brosiectau Wicipedia mewn ieithoedd gwahanol. Ar yr un pryd mae llwythi o ddolenni coch – sef cyfeiriadau at erthyglau sydd ddim yn bodoli eto- at enwau menywod.
Dyma fy ffordd i o ddechrau prosiect tebyg yn y Gymraeg o’r enw MenywodMewnCoch a gwella cynrychiolaeth menywod.
Os ydych chi’n gweld trydariad fel yr isod, ewch amdani i greu erthygl.
Helpwch olygu: Björk (cerddor) https://t.co/70Fzo260Iv #MenywodMewnCoch pic.twitter.com/4eNQNQv5kt
— Wicipedia Cymraeg (@Wicipedia) February 17, 2017
#DelweddDirgel
Mae cannoedd o luniau mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi postio i Gomin Wicimedia.
Tybed os fydd pobl Cymru yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i ni am hen adeiladau a phobl yn y delweddau sydd ddim wedi cael eu henwi eto. Gawn ni weld yn fuan!
Dirgelwch y llun… fedri di ganfod rhagor? https://t.co/wwB0tCrTPb #DelweddDirgel pic.twitter.com/jr9zfUoaGM
— Wicipedia Cymraeg (@Wicipedia) April 21, 2017
DIWEDDARIAD 29 Ebrill 2017
Dr Dylan Foster Evans yw’r cyntaf i roi gwybodaeth am ddelwedd dirgel. Gwaith da Dylan!
Dirgelwch y llun… fedri di helpu? https://t.co/H9m4laxbGB #DelweddDirgel pic.twitter.com/msB3mjhNVV
— Wicipedia Cymraeg (@Wicipedia) April 26, 2017
Rhagor am y bots
Dw i wedi gosod bots mewn PHP i bostio’r cyfan yn awtomatig bob dydd. Byddan nhw yn ddiddorol i bobl gobeithio ac wedyn yn sbarduno rhagor o ymweliadau i Wicipedia, rhagor o ddysgu, a rhagor o gyfraniadau i’r wefan mwyaf brysur yn y Gymraeg.
Gadewch i mi wybod os ydych chi eisiau trafod prosiectau eraill fel apiau gwe, bots, prosesu data, ac ati.
Diolch i Robin Owain am rai o’r syniadau ac am eu cefnogaeth brwd a diolch iddo fe a WikimediaUK am gomisiynu’r prosiect hwn.
Llun Björk gan deep schismic (CC BY)