Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi ar bethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau.
Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n ddigon soffistigedig i weld sut oedd oedolion yn ystyried pynciau. Mae’r geiriau yn wahanol ym mhob ysgol ond mae themâu yn debyg. Dw i’n cofio’r geiriau’r athrawon yn fy ysgol i: ‘the core subjects are English, Maths and Science…’.
Dw i’n sgwennu’r cofnod blog yma i unrhyw oedolyn sydd eisiau meddwl am y pwnc, o unrhyw le ac unrhyw sefydliad.
Os wyt ti’n rhiant mae dy blant yn ddigon soffistigedig i weld sut wyt ti’n ystyried y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau tu hwnt i barthau fel y dosbarth a’r cartref. Maen nhw yn sylwi.
Os wyt ti’n athro neu wleidydd ac yn rhiant sydd ddim yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod dy waith, pa fath o neges wyt ti’n anfon i dy blant? Dylen ni fel oedolion cymryd yr iaith o ddifri cyn i ni ddisgwyl ein plant ni feddwl yr un peth.
Hoelen. Taro. Pen!
Pobl yn gweud ar y radio gynnau bod Carwyn Jones yn ffili â chael ei blant i siarad Cymraeg gyda’i gilydd. Rwyt ti wedi gweld gwirionedd eu sefyllfa, wi’n credu!
Ond r’yn ni gyd yn euog o hyn i raddau. Sawl un ohonom sydd yn siarad Cymraeg gyda phlant o deuluoedd di-Gymraeg? Neu gyda dysgwyr eraill? Sawl un ohonom sydd â ffrindiau (neu bartneriaid) Cymraeg eu hiaith, a ninnau’n siarad Saesneg gyda nhw?
Diolch am y blogiad craff yma!
Hoelen ar ei phen yn wir. I ddechrau, gallai Llwyodraeth Cymru droi’r Gymraeg yn iaith weinyddiaeth fewnol cwbl o adrannau’r llywodraeth (e.e. addysg, amaeth), dyweder dros gyfnod o 3 blynedd, yn tynnu ar brofiadau Cyngor Sir Gwynedd o rhan hyfforddi’r staff ac ati. Gallai cyrff eraill y wladwriaeth wneud yr un peth. Beth am gatrawd Cymraeg yn y fyddin Brydeinig (a’r cadetiaid), fel sydd i’r Swedeg yn y Ffindir (mae’n ddrwg gennyf i’r heddychwyr, ond mae methu â chymryd yr iaith o ddifri mewn maes o’r fath yn gyrru neges i blant am ei amherthnasoldeb)? Beth am ehangu dysgu Cymraeg i oedolion o ddifri fel yng Ngwlad y Basg?
Cytuno ond catrawd Cymraeg yn y fyddin? Ddwyt ti ddim wedi gweld Hedd Wyn?!
Ydw ac dwi’n deall y pwynt. Fy argraff yw, serch hynny, bod cryn nifer o Gymry yn lluoedd arfog Prydain, y cadetiaid ac ati. Dyna’r realiti a byddai angen i Gymru annibynnol bod a lluoedd amddiffyn o ryw fath. Rhaid peidio a hepgor yr iaith o unryw faes.