Beth yw’r gwahaniaethau rhwng traethawd a chofnod blog?
Cyd-destun, cyfrwng sef cyfrwng o drosglwyddiad o’r awdur i’r darllenwyr, hyd yn oed defnydd o gyfryngau gwahanol fel fideo, lluniau, awdio a dolenni. Ac yn aml iawn mae sylwadau dan y cofnod blog.
Dw i ddim yn siwr os ydy’r Eisteddfod Genedlaethol yn sylweddoli’r gwahaniaethau yma. Ar gyfer y gystadleuaeth blogio eleni (am y trydedd neu pedwaredd blywyddyn dw i’n credu?) mae’n rhaid sgwennu cyfres o draethawdau, yn hytrach nag unrhyw fynegiant arall fel fideo ayyb:
165. Blog amserol
Cyfres o flogiau wedi’u hysgrifennu yn ystod mis Mawrth 2012 heb fod dros 3,000 o eiriau
Gwobr: £200 (o’r PDF)
Maen nhw yn derbyn rhywbeth printiedig ar bapur neu ar USB. Fyddan nhw ddim yn derbyn dolen at rywbeth ar y we. Mewn gwirionedd fydd cofnod blog sydd ar y we eisoes ddim yn ddilys fel cais! Y person cyntaf (oc olaf?) i’w ddarllen ac i’w werthfawrogi fydd Betsan Powys, y beirniad.
Mae’n edrych fel cyfle coll i dyfu’r grefft o flogio yn Gymraeg lle y dylai fe fod, sef ar y we.
DIWEDDARIAD: Diolch i Rhys Wynne am fy helpu i gyda gramadeg.
Cafwyd trafodaeth am hyn sbel yn ol ar flog Hacio’r Iaith.
Dyma ddifiniad o beth yw blog ar Wikipedia:
A blog (a portmanteau of the term web log)[1] is a personal journal published on the World Wide Web
Pan gyfeirias yr Eisteddfod (drwy Twitter) at yr drafodaeth ar Hacio’r Iaith, dyma rhywun o’r sefydliad yn ateb drwy ddweud “Mae’r drafodaeth yn ddiddorol”.
Ie, gwnes i gymryd rhan yn y sgwrs llynedd. O’n i jyst eisiau blogio’r peth eto!
Pwynt dilys iawn am y diffiniad.
Gyda llaw sut mae’r gramadeg? Oes unrhyw howlers?
Paid gofyn i fi!
Ro’n i’n gwybod, dy fod ti’n gwybod am y cofnod ar Hacio’r Iaith, mond eisiau amlygu’r peth rhag ofn nad yw rhai darllenwyr y blog yma yn ymwybodol ohono!