Jyst dogfennu sgwrs o heddiw:
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/carlmorris/status/146211575991250945″]
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/ifanmj/status/146245883569258498″]
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/ifanmj/status/146246086200270848″]
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/carlmorris/status/146259354411216896″]
(Dim stori newydd yma, o’n i’n chwilfrydig. Ond mae’n ddiddorol i weld agweddau cwmnïau technoleg tuag at y Gymraeg yn y cyd-destun yma. Mwy na thechnoleg maen nhw yn cwmnïau cyfryngau, cwmnïau cyhoeddi, cwmnïau dosbarthu…)
Wedyn bod ar flog Saesneg Luistxo am y tro cyntaf ers sbel. Mae cofnod am ymchwil gan Google i’r cysylltiad rhwng ieithoedd arlein. Dw i’n cymryd mai oherwydd diffyg presenoldeb y Gymraeg (o’i chymharu a ieithoedd fel Basgeg a Galisieg) yw’r rheswm nad yw yn yr adroddiad.
Diddorol IAWN.
Bydd ymchwil Cymraeg yn ddefnyddiol… (Os oes unrhyw ymchwilwyr o gwmpas mae gyda fi llwyth o syniadau!)
Dw i’n pryderu am ddyfodol y ddolen http yn gyffredinol ar-lein! Mae’r cysyniad bach yn hen ffasiwn i lot o bobol nawr yn anffodus ac yn siwtio cwmnïau i drio creu ecosystemau ar wahân (e.e. App Store, iTunes, Facebook i gyd yn tanseilio’r ddolen i ryw raddau).