Cymru (digidol) rydd!

FrancoDyma cofnod diddorol gan Rhodri ap Dyfrig: pam dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn manteisio ar Foursquare?

Mae mwy na Foursquare yna. Mae fe hefyd yn sôn am bolisi gwrth-ieithoedd Quora. Wel, fel y dwedais ar y pryd sa’ i’n trysto unrhyw platfform gyda’r un polisi ieithyddol a Generalísimo Franco.

Ond mae mwy o heriau i’r platfformau nag ieithoedd a mwy na rhyngwyneb yn dy hoff iaith. Pam fod gyda ni polisi? Ydyn nhw wedi ystyried dy bolisi a fy mholisi?

Dw i’n dechrau colli diddordeb mewn platfformau dan gwmniau ‘trwm’ er enghraifft. Mae lot yn teimlo fel rheolaeth top-i-lawr. Os oes na gormod o reolau mympwyol, dw i’n gadael. Er bod rhai o bobol Cymraeg ddim yn mynegi’r problemau gyda’r un geiriau, maen nhw yn sensitif i’r wendidau fel y mae Rhodri yn dweud am enwau llefydd ayyb. Ac dw i’n cymryd bod y stori yn debyg yn ieithoedd eraill.

Dw i’n eitha hapus i dalu platfform gyda fy data ac hyd yn oed ‘gweithio am ddim’ iddyn nhw os dw i’n cael gwerth yn ôl. Os oes gyda ti cyfrif Facebook neu unrhyw gwasanaeth am ddim rwyt ti’n cytuno. Rwyt ti’n hapus i weld lluniau dy ffrindiau a’r clonc diweddaraf mewn cyfnewidfa, ti’n cynnig dy data.

Mae rhyddid yn bwysig i fi. Nid jyst rhyddid ieithyddol.

Rhyddid i bostio am bob math o bwnc. (Os oes gyda ti ddiddordeb yn democratiaeth ac ymgyrchu gweler y stori Facebook am ymgyrchwyr eleni.)

Mae rhyddid i adael. Wyt ti’n gallu allforio dy gynnwys Quora neu Foursquare i wasanaeth arall, dy flog neu ffeil lleol? Sa’ i’n meddwl. ‘Corporate blogging silos‘ fel y mae Dave Winer yn dweud.

Ar blatfformau fel YouTube neu Twitter mae tipyn o reoliaeth ysgafn (tu fas i broblemau hawlfraint) ond mae’n teimlo fel bod ychydig mwy o ryddid. Rydyn ni’n gallu anghofio presennoldeb y cwmni i roi ffocws ar y sgwrs/cynnwys. WordPress.com a rhai o’r wasanaethau Google yn dda o ran allforio dy stwff. Gweler Google Data Liberation Front.

TimWrth gwrs mae lot fawr o stwff yn dod dan y categori cyfryngau digidol, nid jyst Facebook, Twitter nid hyd yn oed YouTube, Flickr ac ati… Un dyfodol delfrydol: mwy o reolaeth yn y gymuned Cymraeg, sef mwy o bethau fel adolygiad.com (ar steroids), blogiau annibynnol, platfformau annibynnol, prosiectau fel Diaspora sydd ddim yn cynnig rhwydwaith gymdeithasol o gwbl ond gwe gymdeithasol. Does dim rhaid i ti fod yn codydd i elwa o ryddid.

(Llun gan Paul Clarke)

Mewn gwirionedd mae’r byd wedi colli rhai o’r egwyddorion Tim Berners-Lee.

Cyn hir bydd gwasanaeth neu mwy nag un dewis o wasanaethau Diaspora yng Nghymru. Neu rywbeth tebyg. Mae cyfathrebu dynol yn rhy bwysig i fod ar blatfform cwmni enfawr.

Nôl i’r we yn hytrach na gweoedd o gwmpas y lle.

Datganoliad digidol!