Dw i’n rhedeg cwrs yng Nghaernarfon ar hyn o bryd am gyfryngau cymdeithasol gyda Cyfle a saith person o gwmnïau a sefydliadau gwahanol. Rydyn ni wedi siarad am lot o bethau gwahanol.
Nes i ddechrau gyda Google Docs er mwyn creu rhywle i adael dolenni a rhannu nodiadau. Mae’r dogfen wedi bod yn wych fel sail cymuned ar-lein bach o wyth (y saith a fi). Mae’n arbed amser i gadw nodiadau yn gyffredin.
Wedyn gwnaethon ni ddechrau blogiau ar wordpress.com. Dyma rhestr o’r blogiau newydd. Croeso i ti adael sylwadau ar y blogiau!
Dylai pob dolen yma gadael pingback ar bob blog (pingback yw sylw awtomatig sydd yn cael ei adael gan blog). Mae’r pobol i gyd ar Twitter hefyd.
Bydd mwy o gynnwys ar y blogiau dydd Mercher, diwrnod y project. (Yn y cyfamser dyma rhestr o flogiau Cymraeg.)
Swnio fel mentern diddorol dros ben! Gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i gyfrannu a hybu’r cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg!
Dalia ati!!
Mae’n swnio fel cwrs gwych. Dw i wedi gadael cwpl o sylwadau i’r blogiau. Mae nhw’n wneud swydd da iawn!