Braf i weld y flog newydd Byw Yn Y Byd ar gyfer y rhaglen S4C. Mae’n defnydd da o WordPress.com. Creuodd rhywun y flog yn 2 munud, am ddim. Gwych. Dw i’n meddwl bod Russell Jones, y cyflwynydd, yn flogio ei hun. Gobeithio.
Mae unrhyw un yn gallu creu blog ar WordPress.com am ddim.
Byw Yn Y Byd yw dyddiadur ond does dim rhaid i flog bod yn dyddiadur.
Strategaeth ar-lein dibynadwy: ar y cychwyn gydag unrhyw project dw i’n gofyn “ble fyddan ni blogio?”. Rydyn ni angen rheswm arbennig i beidio blogio. Dweda’r gair cyhoeddi os ti ddim yn licio’r gair blogio. Blogio yw’r ffordd gyflymaf i ychwanegu tudalen i’r we. Mae blog yn dod â newyddion am dy broject, system rheoli CYFLYM, dolenni dwfn a pharhaol – hawdd i’r rhannu ar Facebook/Twitter, ffrwd RSS a sylwadau. (Neu gofynna cwmni lan y stryd am brochure monolithig, efallai yn Flash, heb unrhyw system ar gyfer diweddaru – dy benderfyniad!)
Dyw blogiau ddim mor trendi â rhywbeth fel… apps symudol dyddiau ’ma. Sori ond dw i’n poeni am ddefnydd. Plis cer i flogio am tri neu chwech mis o leiaf, datblygu dy brofiad, cyn i ti sôn am rhyddhau app.
Darllena’r sylwadau ar y flog Pethe o fis Medi 2010. Fydd sgwrs am bethau diddorol a pherthnasol byth yn mynd mas o ffasiwn!
Mae’r cod Pethe o WordPress.org yn hytrach na .com gyda thema arbennig.
Rydyn ni’n casglu cyfeirlyfr o flogiau ar Hedyn. Dyma’r blogiau sy’n gysylltiedig â S4C hyn yn hyn. Cofia Yahoo yn y 90au? Dyddiau gynnar o’r we Saesneg. Gwersi am Gymraeg heddiw yn fy marn i. Gwnaf i archwilio cyn hir. Plis ychwanega mwy os ti’n gallu.
Diolch am y sylw i’r blog Carl.
Roedd o i fod yn ddyddiadur yn ystod y daith ond doedd hyn ddim yn bosib yn aml…
Nid Russell ei hun sy’n blogio – tydi o ddim yn gwirioni ar flogio fel mae Bethan Gwanas! Fi ac eraill o’r criw cynhyrchu sy’n creu’r cynnwys.
Ac mae’n amser i fi ychwanegu ychydig o wybodaeth am yr hyn sydd yn y rhaglen heno, felly hwyl am y tro!
Nici