Map prototeip o lofnodion Deiseb Heddwch Menywod Cymru (Hacathon Hanes 2025)

Gwych iawn oedd cael cymryd rhan yn y digwyddiad Hacathon Hanes 2025 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar 12 Chwefror eleni.

Roedd llu o setiau data ac adnoddau ar gael i’w hacio ac addasu ac yna creu prosiectau. Fe benderfynais cyfuno rhai o fy niddordebau mewn prosiect undydd – hanes ymgyrchu, heddwch, data, a mapio.

Yn y flwyddyn 1923 yn sgil erchyllderau’r Rhyfel Fawr roedd ymdrech fawr i drefnu deiseb heddwch. Yn y pen draw fe gasglwyd 390,296 o lofnodion gan fenywod yng Nghymru, oddeutu un trydydd o holl fenywod a merched Cymru ar y pryd. Chwarae teg iddynt! Aeth y ddeiseb ar dipyn o daith wedyn. Darllenwch yr hanes.

Dyma brototeip (cynnar iawn iawn) o fap cyfredol sy’n dangos llofnodion deiseb gan fenywod yn ardal Grangetown, Caerdydd.

Mae’r map yn ymdrech i:

  • ddangos yr ymgyrch mewn ffordd weledol amgen,
  • cyflwyno’r menywod a lofnododd y ddeiseb yn eu holl amrywiaeth,
  • talu teyrnged iddynt,
  • gweld ein strydoedd mewn ffordd arall,
  • a sbarduno’r meddwl.

Mae’r data lleoliad a delweddau yn dod o brosiect digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru gan y llyfrgell ei hun a’i chriw o wirfoddolwyr.

Dyma enghraifft o lofnod. Yn yr achos yma mae’r trefnydd lleol wedi ysgrifennu’r enw Margaret Jones, 23 Paget Street, ac yn hytrach na llofnodi mae hi wedi rhoi X – o bosib oherwydd salwch, cyflwr, neu anllythrennedd?

Dw i eisoes yn gweld fy strydoedd lleol yma mewn ffordd wahanol.

Y prif heriau technegol i mi oedd cysoni a thacluso’r data, a chanfod lleoliadau’r map. O ran y data roedd pob cyfeiriad mewn maes unigol ac roedd ychydig o anghysondeb (a oedd yn adlewyrchu’r amrywiaeth yn y dogfennau gwreiddiol i fod yn deg). Roedd angen i mi wneud bach o gysoni gyda sgript a bach â llaw. Defnyddiais y set data agored OS Open Names i gael cyfesurynnau am ganol bob stryd (yn hytrach na rhywbeth fel API Google Maps sydd â chyfyngiadau ar ddefnydd dw i’n credu). Mae’r set data OS yn cynnig lleoliad canol y stryd a ‘bocs’ o amgylch y stryd.

Wrth gwrs mae angen llawer iawn mwy o lofnodion ar fy map. Mae cyfanswm o 69 ohonynt ar y fersiwn cyfredol. Bydd hi’n dda cael ymestyn i’r holl ddinas a’r holl wlad wedyn. Nid oes mynediad gyda fi at y data gwreiddiol rhagor.

Mae eisiau i mi ffeindio ffordd well o ddangos clwstwr o lofnodion sydd wedi dod o’r un stryd hefyd, o bosibl drwy ddefnyddio’r bocs o amgylch bob stryd. Roedd ychydig o orgyffwrdd yn y lleoliadau fesul stryd felly o’n i wedi cyflwyno bach o amrywiaeth randym – datrysiad cyflym dros dro oedd hyn!

Gobeithio bod modd diweddaru’r prosiect yn y dyfodol agos. Hoffwn i rannu’r cod tu ôl iddo hefyd.

Diolch i’r Llyfrgell am y croeso. Dyma erthygl gan Jason Evans sy’n cynnwys sôn am rai o’r prosiectau eraill.

 

Pa blatfform? Pa brotocol? Rhai nodiadau am drafodaeth ar y we

Mae’r nodiadau isod yn perthnasol i newyddion dibynadwy, trafodaethau, gwrando ar arbenigwyr, dysgu, datblygu dealltwriaeth, a dwyn awdurdodau i gyfrif. Mae hyn i gyd yn bethau sydd yn bosibl i’w gwneud drwy ddefnydd o’r we, ar ei gorau.

Ar hyn o bryd mae hi’n teimlo i mi fod nifer o bobl yn ‘coroni’ gwahanol blatfformau penodol megis Bluesky fel Y Lle i gynnal sgyrsiau ar y we am bob pwnc dan haul, ac mae hynny’n codi llawer o gwestiynau i mi.

Ym mha ffordd a fyddai’r platfform o’ch dewis yn well na Twitter/X nawr ac yn dyfodol?

Beth yw’r risg?

Pa wersi ydyn ni’n dysgu o brofiad[au] Twitter/X? Beth am Myspace? A Facebook, ac ati?

Ydyn ni’n fodlon treulio llawer o amser i ymgartrefu ar blatfform am ychydig blynyddoedd, i ddechrau eto ar blatfform arall pan fydd y chwarae’n troi’n chwerw? (Dw i ddim eisiau gwneud hyn.)

Beth am y Gymraeg?

Yn ystod yr etholiad yn yr UDA roedd nifer o bobl a sefydliadau yn datgan bod nhw am adael Twitter/X. Un enghraifft oedd ysgol a gyhoeddodd “nad yw X yn alinio gydag ein gwerthoedd”… a bwriad yr ysgol i ymuno ag Instagram yn lle. Mae hyn eto yn codi cwestiynau.

Efallai bod Instagram yn teimlo fel lle neisach i dreulio amser yn 2024, ond mae hynny’n dibynnu yn llwyr ar bwy wyt ti.

Am wn i does dim llawer iawn o wahaniaeth pwysig rhwng Twitter/X ac Instagram: y pwrpas, y model masnachol, y model llywodraethiant, pwy sy’n rheoli, beth all digwydd ar ei waethaf (Meta yw perchennog Instagram a Facebook), felly ie, gwerthoedd eithaf tebyg hefyd.

Dw i’n llwyr ymwybodol o bwy yw Elon Musk ac dw i wedi bod yn dilyn yr hanes.

Rhaid nodi bod hefyd rhai ystyriaethau a phroblemau strwythurol gyda’r “we gorfforaethol” sy’n trosgynnu unigolyn.

Yn wir mae Bluesky mewn meddiant corfforiaeth buddiant cyhoeddus (PBC yn yr UDA). Mae hynny’n swnio’n addawol. A dweud y gwir does dim llawer iawn o ddealltwriaeth gyda fi eto o arwyddocâd hynny o ran llywodraethiant, risg a/neu “gost” hir dymor i ddefnyddwyr (dw i ddim yn cyfeirio at bris ariannol yn unig).

Ar hyn o bryd mae Tŵt Cymru yn cynnig cyfuniad apelgar i mi o ryngwyneb Cymraeg, rhyddid i symud i blatfform arall â fy holl ddilynwyr, y gallu i ddilyn defnyddwyr Saesneg gan gynnwys rhai ar weinyddwyr eraill, ac wrth gwrs dilyn nifer sylweddol – os nad anferth ar hyn o bryd – o ddefnyddwyr Cymraeg heb algorithm i’w boddi, polisïau sy’n edrych yn gall i mi, a llywodraethiant iachus hyd y gwelaf i.

Hynny yw dw i wedi cwrdd â’r person sy’n rhedeg Tŵt Cymru ac wedi cael peint yn y Blue Bell yng Nghaerdydd, ac mae modd gohebu’n uniongyrchol gyda fe gyda chwestiynau, problemau, syniadau, ayyb. Mae tîm cymedroli sydd hefyd yn ddefnyddwyr.

Mae’r blog hwn yn le da i mi rannu meddyliau hefyd (ac i’r rhai sydd â diddordeb mae modd cael ffrwd ActivityPub a/neu RSS). Mae’r blog yn rhedeg yn annibynol o unrhyw gwmni neu gorff heblaw am y perthnasau gyda chofrestrydd enw parth a chwmni lletya.

Gyda llaw… mae blogio’n lot haws pan dw i’n cynnwys ‘meddyliau’ neu ‘nodiadau’ yn y teitl yn hytrach na cheisio ysgrifennu darn feddylgar, craff, campus. 😂

Byddai hi’n braf tasai hi’n bosibl i ddilyn defnyddwyr Bluesky drwy weinydd Mastodon fel Tŵt Cymru, a’r ffordd arall, ac ymateb ayyb. Byddai hynny’n dibynnu ar ryw fath o ffederaleiddio yn y dyfodol. Efallai bod hynny yn gwbl amhosibl ac yn ddatganiad hollol nonsens, bydd rhaid i mi ymchwilio.

I’w barhau.

Yn y cyfamser diolch i Richard, Nwdls, ac eraill am ysgogi’r sgwrs.

NaPTAN Cymraeg: rhestr o bwyntiau trafnidiaeth nawr yn Gymraeg

Nod prosiect Mapio Cymru yw i wella’r genhedlaeth nesaf o wasanaethau mapio Cymru, ac ar fy rhan i mae ymhlith y prosiectau gwaith gorau erioed am ddysgu pethau newydd – am ddata agored, systemau gwybodaeth daearyddol, a sgiliau datblygu.

Ar flog y prosiect ysgrifennais eitem am newidiadau i NaPTAN sy’n rhestr fawr o bwyntiau trafnidiaeth gan gynnwys safleoedd bws a gorsafoedd trên.

Hedyn, gwefan wici o adnoddau ar gyfer tyfu’r we agored Gymraeg

Gwefan wici o adnoddau ar gyfer tyfu’r we agored Gymraeg yw Hedyn.

hedyn.net yw’i gyfeiriad.

Dw i newydd ddiweddaru’r feddalwedd tu ôl iddi hi (Debian a MediaWiki). Gadewch wybod os ydych chi’n gweld unrhyw broblemau pls!

Mae modd i chi, unrhyw un, gael cyfrif a chyfrannu adnoddau at Hedyn. Roedd rhaid diffodd y ffurflen creu cyfrif yn anffodus, oherwydd sbam.

Rhestr ar Hedyn o wasanaethau API Cymraeg

Mae nifer o bethau wedi newid ers sefydlu’r wici yn 2009, e.e.

  • fe oedd twf mewn podlediadau (ydy hynny wedi arafu bellach?)
  • twf platfformau ‘meicroflogio’ neu beth bynnag rydych chi eisiau eu galw nhw (Twitter yn gyntaf, nawr mae llu ohonyn nhw)
  • twf mewn defnydd o WordPress gan gyrff ac eraill
  • lleihad blogio ‘traddodiadol’ Cymraeg
  • a thwf gerddi muriog (fel Instagram, TikTok ayyb)
  • cyflwyniad a thwf technolegau newydd
  • llawer mwy o bethau yng Nghymru ac o gwmpas y byd…

A dweud y gwir mae eisiau meddwl am ddefnydd Hedyn yn 2024 a thu hwnt. Pa rôl sydd i dechnolegau agored a meddalwedd rydd i ffyniant y Gymraeg? Beth sydd eisiau er mwyn cynnal sffêr gyhoeddus a democratiaeth iachus yng Nghymru a thu hwnt? Pa wersi ydyn ni’n gallu dysgu o hanes Twitter? Ydy’r delfryd o we agored Gymraeg yn freuddwyd gwrach? Beth am yr holl sgwrs am ymgacheiddio Tech Mawr? Mae digon yma i mi gnoi cil drosto.

Yn y cyfamser diolch i holl gyfranwyr Hedyn dros y blynyddoedd ac i Rhys Wynne yn benodol am ei holl help, cefnogaeth, a syniadau.

Darparu ActivityPub o flog unigolyn – beth ddysgais i

Dw i wedi ychwanegu ffrwd ActivityPub i fy mlog bellach, fel gwasanaeth arbrofol.

Dyma rai nodiadau am y profiad:

  • Mae bellach dau gyfrif ar y Ffedisawd i bobl ddilyn os dymunir, @carlmorris@toot.wales (cyfrif Tŵt Cymru gyda phostiadau â llaw) a @carl (ffrwd awtomatig o’r blog yma).
  • Mae hyn yn arbrofol. Ond pam arbrofi? Yn fy marn i byddai hi’n braf cael ffordd agored ac annibynol o rannu a sgwrsio ar y we. Hynny yw, does dim rhaid i bobl ildio rheolaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn llwyr i gorfforaethau fel Twitter a Meta. Mae rhai pobl a sefydliadau eisiau cael grym a hyblygrwydd o fod yn annibynol o’r corfforaethau hynny.
  • Mewn gwirionedd mae Meta wedi datgan bod nhw am gydweithio gyda ActivityPub ‘yn fuan’ ta waeth. Yn y dyfodol agos bydd y systemau yn cydweithio.

  • Roedd hi’n neis cael arbrofi ar y cyd gyda ffrindiau ar Mastodon wedyn. Mae ychydig o bobl wedi dechrau dilyn y blog (gweler uchod) ac wedi gweld yr eitem yn eu hapiau (diolch i Iestyn am y llun isod o’r ap Ivory). Mae ychydig o bobl wedi postio ymatebion i’r eitem prawf hefyd. Mae ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar weinydd penodol yr ymatebwr ac hefyd fel sylwadau ar fy mlog (testun yn unig mae’n debyg – diolch Rhys).
  • Mae’r arbrawf yn arwain at gwestiynau fel… Ydy darparu dau gyfrif (neu fwy) ychydig yn ddryslyd i rai darllenwyr? Oes gwir angen cynnal dau? Sut mae gwahaniaethu? Ydy hyn yn fodel sydd angen ei ystyried gan eraill?
  • Dw i’n teimlo bod fy ngyfrif Tŵt Cymru yn iawn ar gyfer postio pethau cyflym ffwrdd-â-hi tra bod y blog yn canolbwyntio ar bethau ‘o bwys’. Ar hyn o bryd dw i wedi rhoi label ac afatar gwahanol ar y ‘ffrwd’ blog. Un her: dw i ddim yn gallu rheoli pa gyfeiriad mae pobl yn ei ddefnyddio pan yn @io. Efallai bydd rhai yn fy ngopïo mewn ar frys ac yna cyfeirio at y blog yn hytrach na’r cyfrif Tŵt Cymru. Gawn ni weld beth sy’n digwydd.
  • Mae ActivityPub yn ymdrech i gysylltu â phobl eto, darllenwyr, sylwebwyr, ac ati. Mewn theori mae ActivityPub yn fwy grymus na RSS. (Yn yr hen ddyddiau roedd ychydig o bobl yn dod i eitem blog trwy Google Reader a/neu Blogiadur. Yn anffodus mae’r ddau wedi gweld y machlud haul er bod modd i unrhyw un danysgrifio gyda darllenydd trwy RSS o hyd.)
Llun gan Iestyn
  • Er fy mod i’n cyhoeddi fersiwn Saesneg o rai o’r eitemau blog dim ond y cynnwys Cymraeg sydd ar gael trwy ActivityPub ar hyn o bryd i gadw pethau’n syml.
  • Mae ActivityPub o flog yn addawol iawn yn fy marn i. Ar ôl ychydig o waith mae’n gweithio – o ran y nod o roi eitem blog o flaen pobl – sydd yn galonogol. Mae statws beta i’r ategyn WordPress penodol dw i wedi gosod. Mae’r cyfan ‘mewn beta’ mewn gwirionedd.

Ymwadiad:

  • Pwy a ŵyr os fydd system fel hyn yn helpu datrys neu liniaru’r broblem benodol rydych chi’n gweld yn y disgwrs cyhoeddus ar-lein boed hynny’n twyll, sbam, ffugio, camarwain, sarhad, casineb, y diffyg democrataidd, hysbysebion amherthnasol, cael algorithm penodol o’ch dewis, dod o hyd i bethau Cymraeg ayyb. O’r hyn dw i’n deall mae’r Ffedisawd yn rhoi mwy o reolaeth a chyfrifoldeb mewn dwylo gweinyddwyr annibynol, sef y rhai sy’n cyfrifol am y cymuned/cymunedau. Ond does neb wir yn annibynol os ydyn ni am rwydweithio. Mae llawer o ystyriaethau pwysig yma… ar gyfer erthygl arall!

Rhai nodiadau am WordPress yn benodol:

  • I’r rhai sydd ar WordPress.org mae modd gosod yr ategyn beta ActivityPub. Roedd rhaid i mi ddiffodd ategyn Yoast SEO sydd yn awto-flaenyrru pobl o dudalen awdur. Dydy optimeiddio ar gyfer chwilio ddim yn hynod bwysig i’r wefan hon ta waeth. (DIWEDDARIAD 13/7/2023: mae modd rhedeg ategyn ActivityPub gyda Yoast SEO, mae angen troi archifau awduron ymlaen yn Yoast.)
  • Dw i wedi gwneud ychydig o waith cyfieithu ar yr ategyn ActivityPub ac mae croeso i bobl eraill gyfrannu mwy.
  • Mae rhai opsiynau yn yr ategyn ActivityPub dw i heb drio eto. Yn ogystal mae modd newid unrhyw WordPress i fod yn weinydd Ffedisawd go iawn sydd yn dilyn a dangos cyfrifon eraill (gyda’r ategyn Friends er enghraifft).

Prawf: eitem mewn ffrwd ActivityPub o fy mlog

Mae’r blog yma bellach yn darparu ffrwd ActivityPub o’i holl eitemau.

Os ydych chi ar Mastodon (neu systemau eraill megis Pleroma, Friendica, HubZilla, Pixelfed, SocialHome, a Misskey yn ôl y sôn) fe gewch chi ddilyn y ffrwd trwy’r cyfeiriad @carl

Yn bennaf dyma brawf i weld beth sy’n ymddangos. Gadewch wybod am eich profiad trwy bostio ymateb Mastodon (neu system arall). Mae sylwadau ‘traddodiadol’ ar agor islaw hefyd.

Bydd rhaid i mi flogio mwy o nodiadau am y profiad.

DIWEDDARIAD (20 munud ar ôl cyhoeddi): dw i wedi ehangu’r rhestr o blatfformau. Mae chwech eitem yn lle dau bellach. Tybed os fydd hyn yn ymddangos yn y ffrwd ActivityPub.

Map arbrofol newydd gan Mapio Cymru – gwella mapio Cymru trwy olygu enwau

Fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Mapio Cymru dw i wedi darparu gweinydd map arbrofol newydd.

Fel y prif fap mae’n dangos map gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Y gwahaniaeth yw bod e’n dangos symbol ar bwys bob enw lle i ddangos pa ffynhonell data a ddefnyddiwyd. Bydd hyn yn helpu unrhyw un sydd eisiau cyfrannu enwau llefydd yn Gymraeg – ac yna cyfranogi yn y prosiect a gwella mapio yn y Gymraeg.

Darllenwch fy eitem blog ar Mapio Cymru am ragor o fanylion.

Mapio a llywio digidol: pa mor bell o ‘bopeth yn Gymraeg’?

Fel datblygydd gwe llawrydd mae hi wastad yn ddifyr cael gweithio ar Mapio Cymru, a chyfle i gyfuno rhai o fy niddordebau: meddalwedd rydd, data agored, mapiau, a’r Gymraeg.

Mae’r prosiect wedi tyfu o’i fan cychwyn fel map arbrofol gydag enwau Cymraeg. Rydyn ni bellach yn helpu cwpl o sefydliadau i gynnig gwasanaethau mapio Cymraeg.

Trafnidiaeth Cymru yw un o’r sefydliadau.

Dyma Ben Proctor o’r prosiect yn ymhelaethu ar ein gwaith ymgynghorol i TrC.

Gofynnodd Trafnidiaeth Cymru inni wneud darn o waith ymchwil ar eu cyfer. Roeddent am wybod sut y gallent adeiladu apiau mapio ar-lein a oedd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Rydym wedi bod yn meddwl am y themau yma am sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn cynnal map iaith Gymraeg o Gymru: openstreetmap.cymru. Fodd bynnag, buodd y prosiect hwn ar gyfer sefydliad sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gyfle gwirioneddol i feddwl am oblygiadau’r materion yma. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Trafnidiaeth Cymru sy’n llawn manylion ac sy’n canolbwyntio ar eu hamgylchiadau penodol.

Darllenwch y blogiad llawn gan Ben.

Cwyn am erthygl ’naratif unochrog Covid’ ar BBC Cymru Fyw

Dyma gopi o gwyn a anfonais at BBC heddiw. Mae sgwrs ar Twitter amdano fe hefyd.

Annwyl BBC

Parthed: Cwestiynu ’naratif unochrog’ Covid, BBC Cymru Fyw ar 8fed Chwefror 2022

Mae BBC Cymru Fyw wedi rhoi erthygl cyfan i unigolyn fynegi barn di-sail am Covid gan gynnwys ei benderfyniad i wrthod derbyn brechiad a gwrthod gwisgo masg. Nid yw’r erthygl yn helpu dealltwriaeth o’r pynciau dyrys a phwysig dan sylw, felly mae’r risg o gamarwain yn sylweddol. Mae hyn yn is na’r safonnau a ddisgwylir fel arfer wrth wasanaeth cyhoeddus.

Byddai hi wedi bod yn lawer gwell cyhoeddi erthygl ar sail wyddonol yn y lle cyntaf, yn hytrach na chyhoeddi a lledu sylwadau o farn a phryderon gan unigolyn. Nid yw hi’n addas i’r BBC roi gymaint o le i rywun gwestiynu cyngor iechyd cyhoeddus sydd eisoes yn gonsensws ymhlith gwyddonwyr yn fyd-eang.

Rwy’n cymryd bod golygiad i’r erthygl wedi bod ers cyhoeddi sydd yn adrodd ychydig o ffeithiau moel fel tri phwynt bwled. Nid yw hi’n gwbl glir pa elfennau eraill sydd wedi’u golygu. Mae angen nodi ar unrhyw erthygl pan mae golygiad o bwys wedi cael ei wneud, a beth oedd natur yr olygiad. Ar hyn o bryd nid yw hi’n gwbl dryloyw i gyhoeddi, sbarduno sgwrs trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ati, a golygu’r erthygl heb unrhyw gofnod o’r golygiad. Nodwch fod Guardian yn ychwanegu nodiad tebyg pan mae golygiad neu ychwanegiad i erthygl.

Yn gywir
Carl Morris

DIWEDDARIAD 21 Chwefror 2022

Ces i’r ymateb isod dros e-bost ar 18 Chwefror 2022.

Annwyl Mr Morris

Diolch i chi am eich neges am gynnwys ein adroddiad Cwestiynu ’naratif unochrog’ Covid ar BBC Cymru Fyw.

Hoffwn eich sicrhau ein bod wedi cofrestru eich sylwadau a’i ddod at sylw‘r tim golygyddol.

Mae’r erthygl bellach wedi ei diweddaru i gynnwys gwybodaeth ffeithiol ynglyn â risigiau Covid yn ogystal â manteision gwisgo mwgwd a brechu. Mae nodyn ar waelod yr erthygl yn cydnabod ei bod wedi ei diweddaru a’r rheswm dros wneud hynny.

Diolch i chi eto am gysylltu gyda’ch sylwadau.

Yn gywir

Uned Gwynion y BBC
https://www.bbc.co.uk/contact/make-a-complaint-welsh/#/Cwyn

DS: Mae’r neges hon yn cael ei hanfon o gyfrif e-bost nad yw’n cael ei fonitro. Ni allwch ateb i’r cyfeiriad hwn. Os bydd angen i chi gysylltu â ni os gwelwch yn dda gwnewch hynny drwy ein ffurflen gwynion uchod gan ddyfynnu unrhyw gyfeirnod a ddarparwyd gennym ni