Pam dylai’r Cynulliad Cymru cyhoeddi’r Cofnod dwyieithog? Y cyd-destun technoleg

Mae Daniel Cunliffe yn cywir iawn i sôn am Google Translate, y cofnod Cynulliad Cymru a’r Adolygiad o Wasanaethau Dwyieithog.

Dw i wedi darllen yr adroddiad wreiddiol wythnos yma (ar gael yn Cymraeg a Saesneg. Mae ymatebion dda eraill yn bodoli ond dw i eisiau dilyn Daniel a siarad am technoleg yn enwedig. Mae gormod o bwyslais ar “technoleg dychmygus” yn yr adroddiad (heb diffiniad glir, gyda llaw) a stori BBC gyda Dafydd Elis-Thomas hefyd.

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad a chadeirydd y comisiwn, wedi dweud bod y panel wedi “ceisio barn mor eang â phosibl.”

“Un o brif amcanion y Trydydd Cynulliad yw sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru.

“Dyna pam ein bod yn falch o ddilyn argymhellion y panel, yn arbennig ei gynnig ynghylch sicrhau bod cofnodion o Drafodion y Cynulliad yn haws eu defnyddio, a hynny drwy ddefnyddio technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar.”

Yn cyffredinol, mae’n amhosib dweud beth fydd yn digwydd gyda dy ffynonellau data arlein (e.e. testun neu unrhyw cynnwys arall). Mae data yn mwy gwerthfawr pan mae pobol yn gallu ail-defnyddio fe – os maen nhw yn defnyddio data cyfanred efallai gyda ffynonellau eraill yn enwedig.
Dylet ti meddwl am:

Wyt ti erioed wedi postio unrhyw beth arlein a wedyn welaist ti rywbeth hollol newydd yn digwydd gyda fe? Mae’n digwydd trwy’r amser.

Felly mae technoleg a dychymyg yn well gyda dychymyg pobol eraill – newyddiadurwyr, ymchwilwyr, pobol, cwmnïau ayyb mewn ffyrdd diddorol iddyn nhw. Rhowch data da arlein, gwelwch beth fydd yn digwydd.

Paid rhoi ffocws ar “technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar” heb manylion penodol achos mae’n bron diystyr. Mae’n well i rhoi’r data llawn arlein gyda fformatau agored cyntaf (e.e. XML). Dyna beth dyn ni’n gwybod yn barod. Mae pobol yn gallu adeiladu teclynnau eu hun.

Dyn ni wedi colli’r gwerth llawn os dyn ni’n stopio’r cyfieithiad Cymraeg. Mae gwerth yn bodoli nawr, wythnos nesaf ac yn y dyfodol.

Paid anghofio: iaith yw technoleg.

YCHWANEGOL 1: Dw i wedi postio sylw ar cofnod Guto Dafydd am yr un pwnc hefyd.

YCHWANEGOL 2: Mae Syniadau yn sôn am y problem chwilio (Google ayyb).

Meddalwedd rydd, WordPress 3.0, projectau cyffrous

Beth yw’r cyswllt?

  • Y band Datblygu
  • cylchgrawn Tu Chwith
  • Capel Y Ffynnon Bangor
  • Hacio’r Iaith
  • Metastwnsh
  • Y Twll…

Wnawn ni ychwanegu mwy o enghreifftiau i’r oriel WordPress yn fuan gobeithio. Dyna’r ateb. Heblaw Datblygu, dechreuodd dyluniadau yma yn 2009 neu 2010. Mae’r chwildro yn dechrau gyda WordPress, meddalwedd rydd a phobol sy’n bywiog!

Dw i wedi cael lot o hwyl gyda WordPress. Dw i dal ddim yn hyderus iawn gyda cyfieithadau llawn o feddalwedd yn anffodus. Dyma pam dw i’n gofyn am help gyda cy.wordpress.org yma. Diolch.

Ond dw i’n hyderus bod meddalwedd rydd yw dewisiad ardderchog am lot o rhesymau.

Dw i wedi sgwennu am papur newydd arlein yn yr Alban yn barod.

Ddylai’r llywodraeth rhannu eu côd? Efallai. Dylen nhw edrych at meddalwedd rydd am projectau? Yn bendant. (Os mae’r byddin Ffrengig yn deall manteision meddalwedd rydd, rydyn ni’n gallu.)

Gyda llaw, dw i newydd wedi ychwanegu cofnod am BBC Vocab hefyd. Côd ar gael i bawb. (Ond dan “trwydded BBC” yn lle rhywbeth arferol am rhyw rheswm?) Dw i wedi sgwennu digon nawr, siwr o fod ti’n gallu creu rhywbeth da. Pob bendith.

Paid prynu iPad – os oes unrhyw ddiddordeb gyda ti yn yr iaith

Os oes unrhyw ddiddordeb gyda ti yn yr iaith Gymraeg, paid prynu iPad. Paid meddwl bydd digon o feddalwedd Cymraeg ar gael yn y dyfodol yr “app store”. Rydyn ni’n gallu dweud yr un peth am yr iPhone hefyd.

Dw i’n sôn am feddalwedd rydd a meddalwedd berchnogol.

Meddalwedd rydd yn cynnwys rhyddid ieithyddol.

Mae cyfrifiaduron tabledi dal yn ddiddorol i mi wrth gwrs. Dw i ddim yn poeni am unrhyw beth “da” neu “awesome” ar unrhyw iPad. Os dwyt ti ddim yn gallu rhedeg meddalwedd yn dy iaith di neu greu cyfieithiadau, mae’r uned wedi torri.

Fydda i ddim yn cwyno i Apple chwaith. Bydda i’n gweithio ar gyfieithiadau meddalwedd yn lle. Wnaf i blogio enghreifftiau da mis yma, fel OpenOffice Cymraeg a Firefox.

Mae rhyddid ieithyddol yw darn pwysig o ddyfodol yr iaith. Paid talu am bethau wedi torri sy’n erbyn dy ryddid ieithyddol di felly.

Mae Dave Winer yn awgrymu Asus yn lle iPad am lawer o resymau yn cynnwys meddalwedd rydd, y rheswm pwysicach. Mae meddalwedd rydd yw’r un peth a chôd agored. Ond mae meddalwedd rydd yw term well tro yma.

Yn gyffredinol, pan mae Dave Winer, Richard Stallman, Cory Doctorow neu unrhyw un arall yn siarad am “meddalwedd rydd”, ti’n gallu dweud “rhyddid ieithyddol” yn lle.

Dw i newydd wedi creu tudalen ar Hedyn am feddalwedd symudol a thabledi. Mae’r dudalen yn gwag ar hyn o bryd ond mae llawer o feddalwedd ar y ffordd. Rydyn ni’n gallu adeiladu’r dyfodol o feddalwedd yn Gymraeg gyda’n gilydd.

Diwrnod Ada Lovelace: danah boyd

Mae hi’n Ddiwrnod Ada Lovelace heddiw, sef diwrnod i ddathlu menywod mewn technoleg a’u cyfraniadau.

Fy dewis i yw danah boyd, ymchwilydd a blogiwr. Dw i erioed wedi cwrdd â hi ond dw i wastad yn mwynhau blog hi, un o’r goreuon arlein yn y maes.

Mae hi’n trafod cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn y cyd-destun pobol, yr ifanc yn enwedig. Mae’r maes yn eitha newydd ond mae llawer o bynciau. Mae dealltwriaeth hi yn dwfn.

Er enghraifft, mae gwahaniaethau pwysig yn bodoli rhwng

Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn darllen ei feddyliau hi am preifatrwydd, Facebook a phobol ifanc.

Meddyliau am diwylliant DIY arlein

Now form a band

Dyma dudalen enwog o Sideburns fanzine, mis Rhagfyr 1976. Wnaeth pobol ddim yn gallu ffeindio cyfryngau gyda diddordebau eu hun. Felly dechreuon nhw gylchgronau eu hun gyda llungopiwyr. Ti’n gallu galw fe DIY, punk, ayyb. Mae bandiau DIY yn annog cyfryngau DIY yn hybu bandiau DIY…

Dyn ni ddim yn byw yn y 70au, dyn ni’n gallu cael ysbrydoliaeth. Fel Orange Juice pan gopïon nhw solo/riff o Buzzcocks.

Beth yw’r cywerthydd nawr arlein? Ti’n gallu dechrau cyfryngau dy hun gyda meddalwedd rydd, e.e. WordPress. Y band? Beth bynnag ti eisiau yn y byd. Neu dy byd. Weithiau mae’r fanzine yn dathlu ei hun, ti’n mwynhau’r fanzine ei hun.

Dw i dal yn meddwl am ffordd i hybu arlein fel teclyn defnyddiol, ar ôl Hacio’r Iaith yn enwedig. Dw i’n teimlo aflonydd.

“Dydy arlein ddim yn ddefnyddiol am bopeth” meddit ti. Ti’n gallu esbonio yn dy flog dy hun achos dw i wedi cau’r sylwadau tro yma.

Ychwanega Google Translate i dy wefan

Wyt ti’n sgennu gwefan yn y Gymraeg? Wyt ti eisiau parhau ac agor mynediad dy wefan?

Dyma sut ti’n gallu ychwanegu Google Translate i dy flog neu gwefan.

http://www.google.com/webelements/translate/

Pwysig! Rhaid i ti newid “pageLanguage: en” ac ysgrifennu “pageLanguage: cy” yn lle. (Neu dy côd iaith dau lythyr rwyt ti’n defnyddio yn barod!)

Enghraifft: gwela Y Twll ar y gwaelod. Rwyt ti’n gallu mynd i tudalen cofnod neu prif tudalen. Mae Google Translate yn gweithio beth bynnag.

YCHWANEGOL: Dw i ddim yn hoffi’r bar Google Translate ar y brig y tudalen. Hyll ac ymwthiol 🙁

Syniadau y we Cymraeg am 2010

This is about my “New Year’s Resolutions” for the web, particularly the Welsh language web. Maybe other people can write theirs and we can have a fun discussion.

Mae wythnos olaf y flwyddyn yn doniol. Dw i’n siarad am yr wythnos rhwng Dydd Nadolig a blwyddyn newydd. Mae digon o amser i sgwennu cofnodion blog.

Dw i’n meddwl am fy “breuddwydion” am y we Cymraeg neu y we cyffredinol.

Rydyn ni’n gallu defnyddio’r gair “addunedau” achos rydyn ni’n creu y we gyda’n gilydd. Er enghraifft, hoffwn i weld mwy cynnwys yn y Gymraeg (mwy nag un post dw i’n meddwl!).

Hefyd, hoffwn i darllen addunedau pobol eraill. Felly bydda i sgwennu fy “addunedau blwyddyn newydd” am y we Cymraeg. Bydda i sgwennu syniadau a meddyliau a defnyddio’r tag gwecymraeg2010 gwegymraeg2010 (diolch Nic am y treiglad cywir!).

Os ti eisiau ymuno, defnyddia’r un tag. Pa fath o bethau wyt ti eisiau weld? Neu creu?