‘Clywed arogl’ a damcaniaeth cwantwm

[Roedd clip Vine yma o Dr Jennifer Brookes ond mae gwasanaeth Vine wedi diflannu yn anffodus.]

Mae gwyddonwyr cwantwm wedi darganfod rhywbeth mae Cymry yn gwybod ers canrifoedd.

(Mae’r darn uchod gan Dr Jennifer Brookes yn dod o’r rhaglen The Secrets of Quantum Physics: Let There Be Life gyda Dr Jim Al-Khalili. Daeth y rhaglen i ben ar iPlayer ond mae copi ar YouTube ar hyn o bryd. Gwyliwch o 21:05 ymlaen.)

Pwy sy’n berchen ar y 33Gb o bapurau gwyddonol yma?

Mae rhywun o’r enw Greg Maxwell newydd rhannu 18,592 o rifynnau Philosophical Transactions of the Royal Society sy’n dod o’r blynyddoedd rhwng 1665 a 1923.

Rydyn ni’n siarad am waith gan bobol fel Isaac Newton, James Clerk Maxwell, Michael Faraday a Charles Darwin.

Er rydyn ni i gyd yn berchen ar y papurau, roedden nhw du ôl i fur-dâl a chyfyngiadau JSTOR. Darllena’r dadansoddiadau ar Techdirt a Computerworld UK.

Wrth gwrs mae lot o stwff Cymraeg mewn sefyllfa debyg fel Yn Y Lhyvyr Hwnn (y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf o 1546). Er bod y llyfr (gyda lot o lyfrau eraill) yn y parth cyhoeddus mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gofyn am ffi am unrhyw ddefnydd hyd yn oed defnydd anfasnachol. Yn hytrach na mynediad mae mur-dâl a chyfyngiadau o ran defnydd ond mae’n broblem go iawn i Gymru a’r iaith Gymraeg. Megameth. (Dw i wedi trio gofyn, beth nesaf?)

Diwinyddiaeth a thechnoleg gyda Kevin Kelly

Un o fy hoff feddylwyr a sgwennwyr ydy Kevin Kelly, sefydlwr cylchgrawn Wired. Mae ei wefan kk.org fel byd o flogiau a meddyliau profoclyd. Mae fe wastad yn cynnig safbwynt gwerth chweil ac unigryw fel arfer. Dw i ddim yn cytuno gyda fe bob tro, mae’i agwedd tuag at dechnoleg yn ‘Californiaidd’, sef positif iawn – sydd ddim yn briodol trwy’r amser yn fy marn i.

Beth bynnag, dyma gyfweliad gyda rhai o’i meddyliau am ddiwinyddiaeth, Iesu Grist, eglwys – a thechnoleg.

MWY 20/07/2011: Ateb gwych a doniol gan Nicholas Carr gydag ateb Kelly yn y sylwadau!

Gwyddonwyr o Gymru – rhai o’r uchafbwyntiau

Dw i newydd ffeindio darn o hen aur – araith o fis Mai, 2001 am wyddonwyr o Gymru:

Dechreuaf gyda datganiad a all beri syndod: mae gwyddoniaeth yn faes o weithgaredd dynol y mae Cymru wedi rhagori ynddo a hynny’n gwbl anghymesur â’i maint.

Yr wyf wrthi’n gweithio ar restr o 200 o wyddonwyr o’r radd flaenaf o Gymru ar gyfer gwyddoniadur arfaethedig Cymru. Fodd bynnag, heddiw, nid enwaf ond ychydig.

Dyfeisiodd Robert Recorde o Ddinbych-y-Pysgod yr arwydd hafal.

Creodd Richard Price o Langeinor y tablau actiwari cyntaf a chyhoeddodd theorem Bayes sydd yn sail i ystadegaeth fodern.

William Miller o Lanymddyfri oedd sylfaenydd crisialeg, a’r dyn cyntaf i gysylltu siâp crisialau â’r strwythur atomig gwaelodol.

Alfred Russel Wallace o Frynbuga oedd y cyntaf i gynnig dethol naturiol fel dull o esblygu.

Dyfeisiodd William Grove o Abertawe y gell danwydd ac ef oedd y cyntaf i gyhoeddi cyfraith gwarchod ynni mewn cyfnodolyn gwyddonol.

Dyfeisiodd David Hughes o Gorwen y meicroffon, y telegraffydd a’r magnetomedr anwytho ac ef oedd y cyntaf i brofi bodolaeth tonnau radio electromagnetig.

Syr Robert Jones o’r Rhyl oedd sylfaenydd llawdriniaeth orthopedig fodern.

Arloesodd Humphrey Owen Jones o Lynebwy ym maes stereogemeg.

Isaac Roberts o Ddinbych oedd sylfaenydd astroffotometreg ac ef a dynnodd y ffotograff cyntaf o wrthrych o tu allan i’r alaeth’sef Andromeda Nebula.

Cyfrifodd Dai Brunt o Lanidloes, a gydnabyddir yn gyffredinol fel arloeswr meteoroleg modern, amledd osgiliadau’r atmosffêr, a elwir hyd heddiw yn amledd Brunt.

Darganfu Evan Williams o Landysul, y gwyddonydd mwyaf yn eu plith efallai, y meson ac ef oedd y cyntaf i brofi dirywiad meson – dirywiad gronyn hanfodol.

Darganfu Don Hey o Abertawe radicalau rhydd. Heddiw mae ei waith yn hollbwysig mewn ystod o bynciau o betro-gemegion i feddyginiaeth.

Datblygodd Lewis Boddington o Frithdir ger Bargoed, y bwrdd hedfan onglog sydd wedi gwneud y cludydd awyrennau modern yn bosibl.

Datblygodd Eddie Brown o Abertawe y radar yn yr awyr ac ef a wnaeth fwy nag unrhyw Gymro arall i ennill yr Ail Ryfel Byd. Nodaf ei fod hefyd yn aelod o Blaid Cymru.

Yn olaf, Brian Josephson o Gaerdydd, yr oeddwn yn ei adnabod pan oeddem yn fechgyn ysgol ac yn fyfyrwyr gyda’n gilydd, a enillodd yr unig wobr Nobel a gafodd Gymru ar gyfer Cysylltle Josephson, sef y swîts electronig cyflymaf erioed.

Gallwn siarad am oriau, ond dim ond ychydig funudau sydd gennyf. Yn hytrach gofynnaf ddau gwestiwn.

Pam bod Cymru wedi esgor ar gymaint o wyddonwyr o’r radd flaenaf? Nid oes gennyf amser ond i roi ateb chwe gair i’r cwestiwn cyntaf hwnnw’sef ymneilltuaeth gynnar, chwyldro diwydiannol, Arglwydd Aberdâr.

Yr ail gwestiwn yw’ pam na sylweddolwn fod Cymru wedi esgor ar gymaint o wyddonwyr o’r radd flaenaf? Mae’n rhannol oherwydd yr ymadawodd pob gwyddonydd ar fy rhestr â Chymru er mwyn gwneud eu hymchwil orau, a chymerir yn ganiataol, bron yn ddieithriad, mai Saeson oeddent. Mae gennyf restr o ddyfyniadau lle y cyfeiriwyd at Miller, Wallace, Roberts a Brunt yn benodol fel Saeson. Dywed fy ffrindiau wrthyf, dan chwerthin, y cyfeiriwyd at y gwyddonydd o Loegr, Phil Williams, mewn cynhadledd ar wyddoniaeth radio yn ddiweddar. Yr ydym yn gweithio y tu allan i Gymru, a chymerir yn ganiataol nad oedd llawer o’r bobl hyn yn Gymry.

Y rheswm dros hynny yw bod angen labordai â chyfarpar da ar wyddonwyr er mwyn gwneud gwaith o’r radd flaenaf, ac anghyffredin yw labordai o’r fath yng Nghymru.

Digwyddodd yr araith yn y Cynulliad wrth gwrs, roedd Phil Williams yn siarad. Mae fe’n datblygu pwynt dilys am wasanaethau gwyddoniaeth yng Nghymru hwyrach yn yr araith.

Diolch Click on Wales am y dolen.