Sgwrs am y Gymraeg ar-lein, addysg Gymraeg ac hanes fy nheulu ar Beti a’i Phobol

mis Gorffennaf, 1983

Roedd hi’n ddifyr cael ymddangos ar raglen Beti a’i Phobol y mis hwn. Diolch i Beti a’r tîm am y croeso.

Fel rhywun sydd wedi gwrando ar y cyfweliadau ers blynyddoedd roedd hi’n ddiddorol bod yn dyst i’r broses o baratoi’r rhaglen. Mae’r ymchwil yn drylwyr iawn ac mae cyfle i gael sgwrs cyn y sgwrs i gael gwell syniad o beth sy’n debygol o godi.

Wedyn y tro hwn roedd rhaid recordio’r cyfan o bell oherwydd cyfyngiadau iechyd. Er bod llawer mwy i ddweud ar rai o’r pynciau dw i’n hapus iawn gyda’r canlyniad.

Yn y rhaglen cawsom trafodaeth ar amryw o bynciau gan gynnwys cerddoriaeth, y Gymraeg yn y byd ar-lein, addysg Gymraeg, ac hanes fy nheulu.

Ar y ffordd i Lydaw am Gouel Broadel ar Brezhoneg 2019

Dros y penwythnos byddaf i’n cymryd rhan mewn Gouel Broadel ar Brezhoneg yn Langoned, Llydaw.

Mae’r gair ‘broadel’ yn gyfieithu i ‘cenedlaethol’. Gŵyl genedlaethol trwy gyfrwng y Llydaweg yw hi ac bydd naws eisteddfodol i’r peth am wn i, er nad ydw i’n ymwybodol bod gymaint o farnu na chystadlu.

Mae dau beth ar wahân ar yr amserlen i mi: cyflwyniad am gyfryngau, a DJo.

Cyflwyniad am y we Gymraeg yw’r briff. Mae’r paratoad wedi bod yn anodd achos dim ond hanner awr sydd i ddweud y cyfan. Mae’n rhaid cydnabod bod sut gymaint o weithgaredd ar hyn o bryd, hyd yn oed o fewn categori penodol megis Wicipedia Cymraeg neu’n gwaith ar mapio, newyddion cymunedol a Bro360, defnydd o blatfformau corfforaethol fel Twitter a Facebook, neu fideos a chynnwys o bob math ar-lein, ac yn y blaen.

Ar yr un pryd mae’n wych cael derbyn briff mor agored ac eang, a chael siarad yn blwmp ac yn blaen am drafferthion, problemau ac heriau’r platfformau corfforaethol cyfalafol yn ogystal â sut i geisio manteisio arnyn nhw.

Wedyn byddaf i’n troelli tiwns Cymraeg ar y llwyfan. Mae’r briff ar gyfer hwnna yn eang hefyd ac byddaf i am chwarae pethau electroneg, hip-hop, reggae, ac ati. Dylai DJ swnio fel DJ dw i’n credu – amrywiaeth o gynhyrchiadau, seiniau arallfydol a phethau sydd yn amhosibl yn fyw.

Dw i wedi dweud hyn o’r blaen ond dyma’r gân Gymraeg ‘wleidyddol’ orau y blynyddoedd diwethaf. Nid oes llawer iawn o ganeuon sy’n sôn am yr hinsawdd gyda samplau dychanol o Trump (cyn iddo fe gael ei ethol).

Edrychaf ymlaen at weld Chroma a Lleuwen sydd yn cynrychioli’r Gymraeg yn fyw yn yr ŵyl yn ogystal â llwythi o artistiaid gwerinol a roc a genres eraill o Lydaw sydd ddim yn gyfarwydd iawn i mi eto.

Mewn sgwrs gyda Ronan Hirrien mae Aneirin Karadog wedi nodi bod Llydawyr yn well na ‘Cymry Cymraeg’ am ddysgu’r chwaeriaith.

Y tro diwethaf i mi ymweld â Llydaw (y Gyngres Geltaidd yn Kemper llynedd) ces i sawl trafodaeth yn Gymraeg gyda Llydawyr. Dw i am fwynhau dysgu mwy o’i hiaith nhw y tro hwn. O ran y Llydaweg bydd y rhestr o frawddegau yma yn ddefnyddiol.

Dydy Google a Bing yn eu holl ddoethineb ddim yn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar gyfer Llydaweg ond mae peiriant cyfieithu peirianyddol sylfaenol gan Apertium sy’n edrych yn well na dim byd.

Sgyrsiau am y dyfodol ar bodlediad annibynnol newydd Cymru Fydd

Podlediad newydd sbon ydy Cymru Fydd sy’n cynnig:

cyfres o sgyrsiau a seiniau eraill yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig.

Yn y bennod gyntaf dyma Rhodri ap Dyfrig a finnau fel gwestai yn sgwrsio am amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • meddalwedd rydd
  • hen recordiau
  • Mastodon
  • safon y trafodaeth ar Twitter (eithaf gwael)
  • Facebook ac ymerodraethau eraill
  • fy nheulu ym Malaysia
  • ieithoedd bychain y byd a gwaith K David Harrison

Fel arall mae modd gwrando mewn sawl app, e.e. Spotify.

Roedd y profiad o wneud hyn yng Nghaerfyrddin yn lot fawr o hwyl ac wedi profocio fy meddwl llawer.

Mae’n bwysig nodi bod hyn yn sgwrs anffurfiol, ac yn anghyflawn o ran triniaeth o roi o’r pynciau dan sylw. Yn sicr gallwn i wedi ymhelaethu (mwydro) llawer mwy, yn enwedig ar rai o’r pethau dadleuol. Dw i’n difaru peidio sôn am fudiadau gwleidyddol a’i ddylanwad nhw ar safon trafodaethau ar-lein. Hynny yw, nid mater o unigolion yn ymddwyn yn ‘gas’ yw’r unig broblem ond shifft fawr sylweddol sydd wedi digwydd yng nghymdeithas.

Ar yr un pryd dw i’n ddiolchgar iawn i Rhodri am olygu mas y darnau mwyaf ffurfiol/sych yn ein sgwrs!

Mae’r holl bennod o dan drwydded Comin Creu BY-SA.

Dyma’r ffrwd i chi danysgrifio i bennodau newydd, ac mae’r ddwy bennod nesaf eisoes ar y gweill.

Problem o ddiffyg cyhoeddusrwydd i gerddoriaeth Gymraeg

Lois Gwenllian yn gofyn:

Yn aml iawn mi glywaf bobl yn sôn am ddiffyg diddordeb pobl ifanc Cymru mewn pethau Cymreig. Un o’r rheiny sy’n codi ei ben yn dragywydd yw cerddoriaeth Gymraeg. Pam nad oes mwy o bobl yn gwrando / prynu’r gerddoriaeth? Dw i wedi pendroni tipyn am y peth, ac wedi methu dod o hyd i ateb / rheswm / beth bynnag boddhaol am y diffyg diddordeb yna. Does ’na ddim un rheswm, nid mater du a gwyn ydy pethau fel hyn. […]

Dyma fy ymateb i yn y sylwadau:

Y broblem fwyaf, dw i’n credu, ydy’r diffyg cyhoeddusrwydd haeddiannol i’r gerddoriaeth.

Mae’n lot haws dod ar draws cerddoriaeth yn Saesneg ar unrhyw sianel, rhaglen neu blatfform – yn y cyfryngau prif ffrwd, ar-lein, mewn siop, mewn garej ac yn y blaen – na chanfod cerddoriaeth Gymraeg.

Fel unrhyw gerddoriaeth o safon sydd ddim yn cyrraedd cynulleidfa fawr, mae fe i gyd yn dod lawr i ddosbarthiad. Gallai artistiaid fel Candelas, Yr Ods, Plu ac ati tynnu mwy o sylw tasai mwy o bobl yn eu clywed yn y lle cyntaf.

Darganfod barddoniaeth sain a phethau eraill mewn cylchgrawn

Dw i bach yn obsesed gyda barddoniaeth sain gan Bob Cobbing ac eraill ar ôl i mi ddarllen erthygl mewn rhifyn diweddaraf ar bapur o’r cylchgrawn Wire. Bob tro dw i’n ystyried prynu’r cylchgrawn dw i’n ymwybodol o’r moethusrwydd – pam ydw i’n prynu cyfryngau? Mae gymaint o erthyglau ar y we eisoes! Ond fyddwn i byth wedi dod ar draws rhai o’r pethau diwylliannol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fi heblaw am y cylchgrawn. Mae’r weithred prynu cylchgrawn yn fy ngorfodi i ddarllen bron pob erthygl, cyfweliad ac adolygiad. Wrth gwrs mae brand dibynadwy ar y we yn wneud rhywbeth tebyg i ryw raddau ond mae’r prynu yn annog lot lot mwy o serendipity ar fy rhan i.

Rhannu yw’r recordio newydd.

Dim ond meddyliau heddiw.

Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau.

Trafodwch.

  • BBC
  • Recordiau Sain
  • Bando
  • Sidan
  • S4C
  • Fideos o Eisteddfodau
  • Llyfrau
  • Y Gasgen
  • Pethau o’r 1990au a 2000au
  • Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011)

Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach.

1960au.

Arwr yr archif: Bernie Andrews

After these sessions, instead of lodging the master tapes in the BBC library, Andrews invariably — and crucially — took them home. This was in breach of the rules, but it meant that much precious material escaped the BBC’s infamous policy of “wiping” tapes to save money.

2011.

Arwr yr archif: un person sy’n rhyddhau, rhannu ac annog rhannu gyda chaniatâd. Neu heb ganiatâd swyddogol. Maen nhw yn wneud y mwyafswm gyda thechnoleg sydd ar gael.

Rhannu yw’r recordio newydd.