Bywyd cynnwys Cymraeg – gwers Evernote

Dw i’n meddwl ers mis am yr ‘ymddiriedolaeth’ newydd tu ôl Evernote a’r stori Evernote yma:

[…] But Libin [o Evernote] believes that he can encourage even more people to park their data with Evernote if he can remove any question of doubt about his company’s long-term destiny. To this end, he plans to later this year introduce a legally binding promise that guarantees users 100 years of access to their files — not that his customers will be around that long.

This involves setting up a protected fund that, in the event of Evernote being taken over or shut down, will pay to maintain its data banks. […]

Dw i wedi blogio sawl gwaith am golled blogiau/gwefannau Cymraeg ac mae’r weledigaeth yn achos Evernote yn wych.

Hoffwn i weld rhywbeth tebyg ar gyfer cynnwys Cymraeg – sef fideos, testun, lluniau, awdio ayyb – ar draws y we i gyd. Y cynllun yw, rwyt ti orfod optio mewn er mwyn cadw dy gynnwys yn yr archif. Byddwn i’n cynnig fy mlog yn sicr. Wrth gwrs dw i wedi rhyddhau popeth dan drwydded rydd felly mae croeso i ti copïo fy mlog.

Yr unig beth tebyg ydy’r archif gwe yn Llyfrgell Genedlaethol ond does neb yn gwybod sut i gael gafael arno fe. Does dim byd o’r archif ar y we.

Dw i’n siŵr bod Cymry Cymraeg yn pryderu mwy am ddyfodol ‘cynnwys’ yn eu hiaith na lot o siaradwyr ieithoedd mawr hyd yn oed. Dylen ni. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob darn o gynnwys da, dydyn ni ddim yn ei gymryd yn ganiataol. Bydd cenhedloedd Cymru yn y dyfodol yn gwerthfawrogi archifau o hen gynnwys ac yn wondro pam mae ein cenhedlaeth ni wedi gadael lot o stwff ar y we i ddiflannu yn llwyr. Mae cyfle i fod yn arloesol yma ac wrth gwrs i sicrhau ein gwareiddiad deallusol.

Pryder am gyfryngau Cymraeg

Mae’r ddolen ‘S4C i lansio sianel newydd’ uchod yn swnio’n cyffrous ond mae’r erthygl yn hen. Mae hi wedi bod ar BBC Newyddion ar-lein ers mis Mawrth 2010. Y sianel newydd pryd hynny oedd Clirlun sydd yn dod i ben eleni.

Nid oes digon o gynnwys Cymraeg ar wefan BBC i lenwi’r bwlch gyda phethau newydd.

Felly dw i’n gallu cyfrif dau reswm o leiaf i bryderu am gyfryngau yn Gymraeg heddiw: y newyddion am doriadau S4C a’r adroddiad o’r newyddion hyn. Dyma rywbeth i’w ystyried tra wyt ti’n gwylio’r Gemau Olympaidd haf yma. Gan fod Jeremy Hunt a DCMS yn bennaf yn gyfrifol am y sefyllfa S4C a’r Gemau Olympaidd bydd hi’n anodd datgysylltu’r ddau yn y meddwl.

Lubuntu – system gweithredu fwyaf cyflym?

Dw i wedi gosod Lubuntu ar fy ngliniadur newydd ac mae popeth yn GYFLYM.

Beth yw Lubuntu? Lubuntu ydy system gweithredu, fersiwn amgen o Linux/Ubuntu gyda’r amgylchedd bwrdd gwaith LXDE yn hytrach na GNOME neu Unity.

Yr egwyddor tu ôl LXDM fel amgylchedd bwrdd gwaith ydy system syml heb y nonsens arferol. Does ’na ddim animeiddio neu graffigau ffansi. Beth sydd yn anhygoel ydy’r rwtsh sydd yn dod gyda systemau gweithredu cyfoes dyddiau yma. Ac un bonws arall yw’r bywyd batri. Fel arfer mae 60% mwy o fywyd ar Lubuntu na Windows hyd yn oed os ydw i’n defnyddio’r diwifr ayyb. Taswn i’n rhedeg hen gyfrifiadur neu helpu aelod teulu gyda’i gyfrifiadur baswn i’n gosod Lubuntu arno fe yn bendant.

Ond dw i ddim wedi dweud hwyl fawr wrth Windows 7 ar fy mheiriant i. Mae nodwedd cychwyn ddeuol gyda fi – dw i’n gallu dewis naill ai Lubuntu neu Microsoft Windows 7 tra bod y system yn dechrau. Dw i’n gallu cael mynediad i’r ffeiliau ar Windows hefyd – cerddoriaeth, dogfennau ayyb. Dw i ddim yn erbyn Windows 7 ond dw i’n hoff iawn o egwyddorion meddalwedd rydd. A hefyd o’n i eisiau rhedeg meddalwedd fel Apache, MySQL, git yn eu cartref naturiol.

Wedi dweud hynny roedd fy ffrind, sydd ddim yn arbennig o dechnegol, yn defnyddio’r porwr we Chromium ar fy ngliniadur neithiwr (sydd yn debyg iawn i Google Chrome). Wnaeth e ddim sylwi’r system wahanol. Dw i’n rhedeg Chromium tra bod i’n teipio’r cofnod blog yma fel mae’n digwydd. Mae’r cwmni tu ôl Ubuntu wedi mabwysiadu Lubuntu fel prosiect swyddogol ac mae meddalwedd arferol fel Firefox, LibreOffice, Audacity i gyd ar gael wrth gwrs. O’r rhestr yna maen nhw i gyd ar gael yn Gymraeg hefyd. Dw i’n ymwybodol o’r prosiectau Ubuntu Cymraeg a GNOME Cymraeg. Ond dw i’n methu ffeindio LXDE Cymraeg felly mae’n debyg does neb wedi dechrau prosiect cyfieithu LXDE Cymraeg (ar hyn o bryd…).

 

Ôl-‘dysgwr’

Mae Christine James yn Archdderwydd. Llongyfarchiadau iddi hi. Mae dolen i’r stori BBC ar y dudalen flaen yr holl adran Saesneg, stori top ar BBC Newyddion ac yn brif stori Golwg360 ar hyn o bryd.

Ond dyw’r term ‘dysgwraig’ yma ddim yn briodol. Mae hi’n ddarlithydd yn y Gymraeg! Ar gyfer unrhyw un arall sydd yn rhugl mae’r term yn rong. Ydy Bobi Jones yn dysgwr? Nac ydy. Does neb sydd yn cyhoeddi papurau fel Canu Gwirebol a Wittgenstein ar ei wefan yn haeddu’r term dysgwr. Beth am Heather Jones? Neu Gwynfor Evans? Neu Ffred Ffransis? Neu Jerry Hunter? Mae rhywbeth fel ‘person sydd wedi dysgu’, ‘person ail iaith’ neu ‘person trydedd iaith’ yn well efallai. Neu ’mabwysiadwr’.

Sut mae grwpiau ieithyddol eraill yn delio gyda phobl fabwysiedig? Sa’ i’n meddwl bod ieithoedd eraill yn ystyried ‘dysgwr’ fel categori arbennig, yn enwedig pobl rhugl. Fel arfer does dim angen gwobr dysgwr iaith y flwyddyn chwaith achos mae atyniadau fel y mae yn ddigon.

Gyda llaw, ar y teledu dw i erioed wedi gweld enghraifft gredadwy o gymeriad sydd wedi mabwysiadu Cymraeg fel ail iaith. Ond dw i wedi gweld sawl caricature fel yr Americanwr comig ar Pobol Y Cwm, yr ysgrifenyddes dwp ar Gwaith Cartref ayyb.

Darganfod barddoniaeth sain a phethau eraill mewn cylchgrawn

Dw i bach yn obsesed gyda barddoniaeth sain gan Bob Cobbing ac eraill ar ôl i mi ddarllen erthygl mewn rhifyn diweddaraf ar bapur o’r cylchgrawn Wire. Bob tro dw i’n ystyried prynu’r cylchgrawn dw i’n ymwybodol o’r moethusrwydd – pam ydw i’n prynu cyfryngau? Mae gymaint o erthyglau ar y we eisoes! Ond fyddwn i byth wedi dod ar draws rhai o’r pethau diwylliannol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fi heblaw am y cylchgrawn. Mae’r weithred prynu cylchgrawn yn fy ngorfodi i ddarllen bron pob erthygl, cyfweliad ac adolygiad. Wrth gwrs mae brand dibynadwy ar y we yn wneud rhywbeth tebyg i ryw raddau ond mae’r prynu yn annog lot lot mwy o serendipity ar fy rhan i.

Cathod bach yn y rhyfel sbam MediaWiki

Mae ein gwefan Hedyn, sydd yn rhedeg ar y feddalwedd rydd MediaWiki, wedi dioddef o sbam yn ddiweddar.

Pam fasai rhywun eisiau sbamio Hedyn? Yn hytrach na sbam trwy e-bost mae pobol yn rhedeg sgriptau awtomatig er mwyn creu cyfrifon a thudalennau gyda thestun a dolenni i wefannau sydd yn werthu bob math o gynnyrch dodji. Y prif bwriad yw cynyddu’r sgorau ar Google trwy adeiladu dolenni o gwmpas y we.

Does dim byd peryglus hyd yn hyn o ran gwarchodaeth, dim pysgota drwg yn ôl pob golwg. Ond mae’r sbam yn cymryd lle ar y cronfa ddata ac yn ymyrru gyda’r profiad defnyddiwr. (Mae’r wefan yn wici sydd yn cynnwys adnoddau Cymraeg, dolenni defnyddiol a’r Rhestr, chyfeirlyfr enfawr o (bron) pob blog yn Gymraeg.)

Pan wnes i Gyfrifiadureg gwnes i ddysgu am y cyfaddawd rhwng gwarchodaeth a hygyrchedd ar unrhyw system cyfrifiadur. Y ffordd gorau i sicrhau’r gwarchodaeth gorau ar Hedyn fydd cyfrifiadur caeëdig ar wely’r môr. A’r ffordd gorau i sicrhau hygyrchedd fydd cyfrifiadur agored ar Heol Santes Fair yng Nghaerdydd! Rydyn ni eisiau cydbwysedd rhwng y dau, rhywbeth sydd yn digon hawdd i fod yn defnyddiol ond yn digon saff i warchod rhag sbam.

Captcha

Gwraidd y broblem yw’r cyfrifon awtomatig. Ond o’n i’n meddwl bod Captcha a ReCAPTCHA yn codi gormod o stwr ac yn passé (er bod yr agenda i ddigido llyfrau ar ReCAPTCHA yn wych).

Felly dw i wedi gosod ategyn newydd o’r enw KittenAuth bellach. Pob tro mae rhywun yn gofrestru mae pump llun gwahanol yn ymddangos. Ac mae’n rhaid ffeindio’r llun o gath bach er mwyn creu cyfrif. Mae modd gweld y delweddau yma (ond plis paid â chreu cyfrifon di-angen!). Mae’r job yn hawdd i berson ond yn anodd i feddalwedd.

Mae’r cyfieithiad Cymraeg o KittenAuth ar gael yma.

(Gyda llaw sut mae Wicipedia yn delio gyda sbam?)

Wrth gwrs mae’r sbamwyr yn gallu sgwennu datrysiad i’r ategyn KittenAuth sydd yn seiliedig ar enwau ffeiliau achos dyw’r ategyn ddim yn cuddio’r enwau fel 19.png eto. Neu mae’r sbamwyr yn gallu cyflogi rhywun hyd yn oed i ffeindio’r gath bach. Fydd y Gymraeg ddim yn drysu pobol achos mae’r dolenni a nodweddion i gyd yn gyson trwy MediaWiki ym mhob iaith.

Captcha Cath!

Ond rydyn ni’n ennill y rhyfel am y tro, diolch i’r cathod bach.

Trydar dwyieithog, oes ots?

Twitter+Cymraeg=? neu Twitter-Cymraeg=?, dyma’r cwestiwn.

Yn hytrach na chofnod cynhwysfawr dyma bwyntiau gwahanol dro yma. Sa’ i eisiau bod yn ciwt heno trwy sgwennu nhw fel tweets.

Felly dyma casgliad o feddyliau am Twitter, Cymraeg a dwyieithrwydd.

  • Dw i’n meddwl bydd rhywbeth fel Twitter gyda ni am byth o hyn ymlaen. Bydd yr iaith Gymraeg yn parhau o hyn ymlaen felly mae’n werth ystyried y perthynas rhwng y ddau. Wrth gwrs ar hyn o bryd mae Trydaru a thrydar yn golygu’r un peth (fel y mae Twittering a tweeting yn Saesneg yn golygu’r un peth). Mae’n siwr bydd mwy o blatfformau eraill yn y dyfodol neu gobeithio protocol agored yn hytrach na rhywbeth dan un cwmni. Beth bynnag, bob tro dw i’n dweud Twitter yma dw i’n cyfeirio at unrhyw gwasanaeth cyhoeddus ar-lein gyda negeseuon byrion mewn ffrwd.
  • Mae brandiau fel @ytwll, @golwg360, @haciaith, @tuchwith, @fideobobdydd, @bbccymru, @llencymru ayyb i gyd yn uniaith Gymraeg. Viva la brandiau!
  • Ond oes na unrhyw unigolion uniaith Gymraeg ar Twitter rhagor? Os oeddet ti’n meddwl bod rhyw fath o gadarnle mewn brên trydar Geraint Lövgreen (er enghraifft!), wel, ti’n rong. Nid yw fy mhwynt i i godi helynt gydag unrhywun, dim ond i sylwi bod defnydd personol Twitter yn hollol dwyieithog erbyn hyn. Deliwch â’r peth?
  • Mae unigolion sydd yn dechrau yn uniaith Gymraeg yn troi at Saesneg bob hyn a hyn yn y pen draw. Wel, lot ohonyn nhw…
  • Aildrydar yw’r gateway drug i drydariadau Saesneg.
  • Dw i byth yn aildrydar Saesneg o @ytwll er enghraifft. Dw i ddim yn meddwl bod e’n addas i’r brand. Ambell waith dw i wedi cyfansoddi neges newydd yn Gymraeg yn lle aildrydar.
  • Mae Twitter YN gyfrwng byd-eang. Os wyt ti’n mynd ar gyfrwng byd-eang rwyt ti’n cael dy globaleiddio gan ffans Justin Bieber. Oes ots?
  • Roedd pobol yn chwerthin pan wnaeth Dr John Davies sôn am y ffôn cynnar – roedd rhai o bobol Cymraeg yn cwestiynu os oedd y dechnoleg yn gallu trosglwyddo sgyrsiau yn Gymraeg. Dw i’n siwr bydd y sefyllfa diglossia ar y we yn cael ei ystyried yn yr un modd yn y dyfodol. Ond mae problemau sydd yn atal Cymraeg, e.e. mae’n anodd i decstio yn Gymraeg neu ddim mor hawdd â Saesneg. Mae awtogywiro yn wneud cawlach o Gymraeg.
  • Tu hwnt i globaleiddio (neu tu mewn) mae lot o bobol ifanc yn y dwyrain fel Caerdydd yn postio yn Saesneg achos mae gyda nhw ffrindiau neu dilynwyr di-Gymraeg. Efallai maen nhw eisiau cynyddu eu nifer o ddilynwyr. Ym mhersonol dw i’n trio peidio edrych at fy ystadegau dilynwyr, maen nhw yn hollol amherthnasol i’r sgwrs dw i eisiau cynnal NAWR.
  • Dw i’n siarad wrth gwrs fel rhywun sydd yn postio yn y ddwy iaith. Dw i’n dwyieithog fel person. Os ydw i’n gofyn cwestiwn dw i’n trio yn Gymraeg cyntaf ac yn aros am ateb. Dw i’n rhoi blaenoriaeth i Gymraeg fel arfer.
  • Dw i’n ateb i bobol ddi-Gymraeg yn Saesneg eithaf lot. Byddi di dim ond yn gweld y trydariadau yna yn dy ffrwd os wyt ti’n dilyn y ddau berson sydd yn cymryd rhan yn y sgwrs (yr unig ffiltro yn dy ffrwd Twitter).
  • Yn fy marn i mae rhywbeth bach yn sefydliadol am bobol sydd yn drydar yr un neges dwywaith – yn y ddwy iaith. Hefyd mae Twitter mor llafar – mae’n od i weld pethau Saesneg gan bobol sydd yn hollol Cymraeg i ti. Dw i’n trio dychmygu’r llais Saesneg.
  • Ond wedi dweud hynny, mae lot o resymau pam mae pobol yn trydar yn Saesneg. Maen nhw yn byw tu fas i Gymru, yn ail iaith neu yn trio cymryd rhan mewn sgwrs benodol mewn niche (e.e. dylunio) neu sgwrs dan tag. Fel arfer mae tag yn gysylltiedig gydag un iaith, e.e. sioeau yn y Trydar-Teledu Complex. (Mae tagiau dwyieithog. Dw i’n cofio pan wnaethon ni awgrymu i’r Cynulliad ar gyfer etholiadau.)
  • Mae pawb [wedi penderfynu bod] yn rhydd. Does dim rheolau. Mae polisi/amcanion iaith rhywun arall yn wahanol i dy un di.
  • Hefyd mae Twitter yn perfformiad cyhoeddus i ryw raddau. Dyma pam mae Dafydd El yn ateb Vaughan Roderick yn Saesneg. Ond mae ffenomen dal yn od i rywun sydd yn cysylltu nhw gydag un iaith yn unig.
  • Mae lot lot mwy ar y rhyngrwyd na Twitter. Ac mae angen lot mwy na Twitter Cymraeg er mwyn cynnal gwareiddiad. Blogia, recordiau fideo neu cyfieitha term neu ddau o dy hoff feddalwedd.
  • Gyda llaw os ydw i’n asesu cyfryngau cymdeithasol a’r Gymraeg dw i’n ystyried ‘rhyngwyneb’, ‘cynnwys’ a ‘chymuned’. Mae rhyngwyneb yn bwysig ond dydy e ddim mor bwysig a’r ddau arall.
  • Os wyt ti’n pryderu am shifft ieithyddol paid â ‘chywiro’ pobol Cymraeg sydd yn postio yn Saesneg. Paid â chyfeirio at y peth. Mae’n boring. Ond mae rhywbeth penodol rwyt ti’n gallu gwneud. Cadwch ar y pwnc a phostiwch ateb perthnasol yn Gymraeg. Atebwch bob trydariad yn Gymraeg. Rwyt ti wedi ateb y person gyda rhywbeth diddorol ac wedi newid y shifft ieithyddol tipyn bach. Hefyd mae mwy o Gymraeg yn arwain at fwy o Gymraeg.

Riwbobmania

Pwy sy’n dweud does na ddim stwff niche ar y we Gymraeg? Ar ddechrau’r wythnos dwedodd y blog Hadau:

[…] Pigais i 3kg o riwbob dros y penwythnos, felly gan ei bod hi’n Ŵyl y Banc es i ati ddydd Llun i baratoi danteithion. Ryseitiau i ddilyn…

Ac mae digon o ryseitiau am bryd o fwyd riwbob-gyda-phopeth: jam riwbob, fodca riwbob a hufen ia riwbob.

Dw i ddim yn siŵr os ydy riwbobmania yn cyfrif fel trend go iawn eto. Ond gawn ni weld.