Cryptoarian: nodiadau am Bitcoin ayyb

Mae’r maes cryptoarian wedi datblygu eithaf tipyn ers genedigaeth Bitcoin yn 2009.

Dyma restr anghyflawn o fathau gwahanol o gryptoarian y mae pobl yn cyfnewid a defnyddio yn 2017.

  • 0x
  • Aragon
  • Augur
  • Bancor
  • Basic Attention Token
  • Binance Coin
  • BitConnect
  • BitShares
  • Bitcoin
  • Bitcoin Cash
  • Bytecoin
  • Civic
  • Dash
  • Decentraland
  • Diamunds
  • Dogecoin
  • EOS
  • Ethereum
  • Ethereum Classic
  • Factom
  • Faircoin
  • Filecoin
  • Funfair
  • Gnosis
  • Golem
  • IOTA
  • Iconomi
  • Lilium
  • Lisk
  • Litecoin
  • MaidSafeCoin
  • Metal
  • Monero
  • NEM
  • NEO
  • OmiseGo
  • OpenANX
  • Populous
  • Qtum
  • Ripple
  • Siacoin
  • Status
  • Steem
  • Stellar Lumens
  • Stratis
  • TenX
  • Tether
  • Tezos
  • TheDAO
  • Veritaseum
  • Waves
  • Zcash

Allwn i ddim ymhelaethu ar nodweddion unigryw bob un. Ond dw i wedi cael gafael ar Bitcoin, Ethereum a Litecoin trwy brynu. I ddechrau o’n i am weld sut mae hi’n teimlo i ddelio gyda chryptoarian a chael y profiad o fynd trwy’r broses. Chwilfrydedd pur oedd hi.

Fe ges i fach o Dash hefyd am ddim wrth anarchydd o’r enw Ed mewn digwyddiad anffurfiol ym Mryste – cyfuniad diddorol tu hwnt o fathmategwyr sy’n ymddiddori yn y systemau, codwyr sy’n chwarae ac yn ceisio arloesi gyda’r arian ond hefyd algorithmau cadwyn bloc mewn sawl maes gwahanol (pleidleisio ayyb), anarchwyr sy’n meddwl bod cryptoarian yn cynnig ffordd o greu marchnad(oedd) amgen a datblygu cymdeithas gwell sydd ddim yn dibynnu ar fanciau a sefydliadau traddodiadol eraill, a buddsoddwyr arian cyfred sy’n masnachu a phobl eraill sydd jyst eisiau canfod ffordd o fod yn gyfoethog rhywsut!

Mae egwyddorion moesegol Faircoin yn swnio’n addawol iawn ond dw i heb gael unrhyw brofiad o Faircoin.

Ar hyn o bryd dw i’n eithaf siŵr taw buddsoddi yw’r prif gategori o ddefnydd o gryptoarian ac wedyn cyffuriau yn ail (neu’r ffordd arall rownd), ond mae pobl yn ei wario ar ynnyrch fel pitsa a gemau ac hefyd gwasanaethau gwe, dylunwyr, ayyb. Byddai hi’n ddiddorol cael gweld siart o’r prif gategorïau o bethau sy’n cael ei brynu gyda chryptoarian yn fyd eang ond dw i ddim yn gallu canfod un ar hyn o bryd.

Tybed pwy fydd fy nghlient cyntaf i fy nalu mewn Bitcoin? Mae sawl prosiect gwe yn cadw fi yn frysur ar hyn o bryd. Mae opsiwn talu Bitcoin ar bob anfoneb dw i’n anfon at glientiaid. Ond dw i am gadw dulliau talu traddodiadol fel BACS yna am y tro.

Dyma werth Bitcoin mewn punnoedd o Awst 2016 i Awst 2017. Yn amlwg mae sawl person yn meddwl bod hi’n werth ei brynu.

Hoffwn i ddysgu mwy am hyn i gyd achos mae’n ddiddorol. Oes ’na unrhyw alw am sgwrs am Bitcoin yn yr Hacio’r Iaith nesaf? (Ionawr neu Chwefror 2018 yng Nghaerdydd… i’w gadarnhau!)

Yn y cyfamser, dyma gynnig arbennig…

Os ydych chi eisiau prynu cyfanswm o $100 neu fwy mewn cryptoarian (Bitcoin, Ethereum a/neu Litecoin) defnyddwch y ddolen hon. Fe gewch chi $10 am ddim yn ychwanegol ac byddaf i’n cael $10 yn ogystal.

6 Ateb i “Cryptoarian: nodiadau am Bitcoin ayyb”

  1. Diolch! Diddorol iawn 🙂

    Y peth nesa ymlaen tua’r iwtopia anarchaidd … neu y sgam mwya fyth? Gawn ni weld ‘falla 😉

  2. Maen nhw i gyd yn seiliedig ar feddalwedd rydd Bitcoin.

    Felly gallen ni ddechrau Leiacoin heddiw. 🙂

    Pwy a ŵyr pa rai fydd yn parhau ac yn llwyddo, hyd yn oed yn ôl eu hamcanion nhw.

  3. Gall fynd y ddwy ffordd. Unai bydd cadwyn bloc yn gwneud hi’n haws i anarchwyr gyd-weithio – symud pres, gwneud cytundebau etc. Neu, gwneud hi’n anodd iawn diflannu, gan wneud dy adnabyddiaeth arlein yn llai rhithiol ac yn fwy real.

Mae'r sylwadau wedi cau.