Sawl wici sydd yn Gymraeg?

Tra o’n i’n siarad gyda chyfieithiwr MediaWiki ar y maes ddoe o’n i’n meddwl: sawl prosiect wici sydd yn Gymraeg? Rydyn ni’n casglu blogiau, beth am wiciau?

WikiMedia yw’r sefydliad tu cefn i MediaWiki sydd yn gyfrifol am:

Diolch i WikiMedia mae’r system wici meddalwedd rydd MediaWiki yn bodoli. Dw i wedi bod yn rhedeg

gyda Rhys Wynne ac eraill am sbel (ers i ni newid o’r hen system DokuWiki).

Roedd Suw yn arfer rhedeg wici i ddysgwr. Ac mae ambell i gyfeiriad i Wiki Deddfu, prosiect Hywel Williams AS sydd ddim ar y we rhagor. Gwnes i drio gosod wici dwyieithog unwaith i gleient (Cyngor Prydeinig).

Oes wiciau eraill ar y we yn Gymraeg? Mae wiciau da yn cymryd buddsoddiad o amser i lwyddo, dw i ddim argymell llwyth o wiciau newydd di-ri yma achos mae angen rheswm penodol i lansio un. Ond byddai mwy o enghrefftiau yn ddidorol.

3 Ateb i “Sawl wici sydd yn Gymraeg?”

  1. Bues i’n arbofi ychydig yn 2007

    http://cadwcwmni.pbworks.com
    http://eisteddfod2007.pbwiki.com (stwff ar y dde)

    Mae hefyd un AM y Gymraeg
    ssiw.pbworks.com/

    Cofiais bod gan Wikisapces ryngwyneb Cymraeg – falle wedi ei gymryd o gronfa Mediawiki?

    Wrth gwglo*, dois ar draws
    http://tiwtor-cymraeg.wikispaces.com/
    http://welshsecondlanguage.wikispaces.com/
    http://cymraeg-i-oedolion.wikispaces.com/
    http://canolradd1.wikispaces.com/
    http://dyffrynteifi.wikispaces.com/Hafan
    (Mae lot mwy ar Wikispaces)

    Gyda lot o’r rhain, prin yw’r cynnwys, un person wedi eu dechrau, ac yna eu anghofio.

    *Falle daw mwy i’r fei wrth gwglo ‘Cymraeg’ ac enw gwasanaeth wiki farm (eg pbworks)

Mae'r sylwadau wedi cau.