O’r we i’r teledu a llyfrau

Cefais i sgwrs da heddiw gyda Nwdls am bob math o beth gan gynnwys pethau sydd yn symud o flogiau i lyfrau fel Stuff White People Like (a Sleeveface…).

Y cwestiwn oedd, beth yw’r pethau diwylliannol Cymraeg sydd wedi dechrau ar y we ar blogiau, YouTube, Flickr ayyb ac wedi symud i deledu, llyfrau ac ati i fod ar gyfryngau ‘traddodiadol’?

Enghreifftiau Cymraeg:

  • Sgymraeg gan ffotograffwyr amrywiol (hanes Scymraeg/Sgymraeg – taith o’r byd corfforol i’r we i llyfr corfforol trwy’r Lolfa)
  • Paned a Chacen – Y Llyfr gan Elliw Gwawr, trwy’r Lolfa
  • Mae blog Lowri Haf Cooke yn ffynnu ac yn sail i lyfr gerllaw yn Gymraeg am Gaerdydd trwy Gomer (er bod y blog yn rhan o gynllun Lowri o’r dechrau fel teclyn ymchwilio/datblygu)
  • Oes llyfrau Cymraeg eraill sydd yn seiliedig ar bethau gwe?

Fel mae’n digwydd, heno dw i wedi bod yn pori S4C Clic a newydd gweld pobol o YouTube! Sef:

Yn y dau enghraifft uchod mae’r cwmniau cynhyrchu wedi ychwanegu graffeg i ddweud ‘mae’r clip yn lo-fi, peidiwch ffonio i gwyno am ansawdd y lluniau’: graffeg y sioe yn achos Llŷr a graffeg lens camera digidol yn achos Wales Shark.

Hefyd:

  • Ydy Dan Rhys yn cyfrif?! Mae fe wedi bod ar S4C a BBC ond dyw e ddim wedi bob ar Pobol y Cwm eto…

Wrth gwrs mae’r we yn digon, does dim rhaid i ddiwylliant y we Gymraeg derbyn sel bendith oddi wrth cyfryngau eraill i fod yn dilys. Mae’r pwynt yn gweithio dwy ffordd – dw i ddim yn meddwl bod pobol creadigol sydd yn joio eu crefft eisoes yn desperet i fod ar y teledu. Ddylai pobol yn Y Diwydiant ddim tanseilio gwerth neu ddim bod yn nawddoglyd tuag at y we fel cyfrwng. Dylen nhw neidio mewn hefyd.

Ond mae manteision i ddiwylliant y we Gymraeg. Mae pobol chwilfrydig yn gallu dilyn y llwybrau o deledu/llyfrau yn ôl i’r we ac yn gallu cymryd rhan mewn sawl ffordd. Mae siwrnai dwyffordd posibl.

Ambell waith mae’r cyfranogiad teledu/cwmniau yn rhoi arian i’r bobol tu ôl y syniadau. Dw i ddim yn gallu siarad ar ran Wales Shark neu unrhyw un ond mae’n wych eisoes os ydy pobol yn gallu profi a joio syniadau ar y we gyda chost isel. Ac mae’n dwbl gwych os ydy cwmniau gydag adnoddau ac arian yn gallu cynnig pethau. Doedd dim rhaid i Wales Shark derbyn y cynnig i fod yn y ‘prif ffrwd Cymraeg’ (gyda 10X mwy o wylwyr!) ond mae fe wedi penderfynu i ymestyn ei ‘brand’ i deledu. A pham lai.

Es i i ROFLCon 2010, roedd y sgyrsiau diddorol y cynnwys prif ffwrd a’r we.

Wrth gwrs os ydy’r we yn ffynhonnell o greadigrwydd, ysbrydoliaeth a syniadau – a dyma beth dw i’n credu wrth gwrs – mae hi’n gallu sbarduno diwylliannau Cymraeg yn gyffredinnol. (Gyda llaw bwrdd delwedd yw un o’r pethau dw i eisiau ychwanegu i Maes E v2012 yn bendant.)

Roedd Dave Datblygu yn awgrymu syniad o sioe newydd ar S4C. Os ydy e wir eisiau rhaglen dylai fe rhoi fideo ar YouTube ac aros am ganiad.

2 sylw ar “O’r we i’r teledu a llyfrau”

  1. O ran rhaglenidave, byddai comisiwn teledu yn llethu ei lais dwi’n meddwl. Mae’r holl fwg a drychau sydd ynghlwm ym mhroses cynhyrchu teledu yn beth annodd iawn i’w droi yn lais naturiol. Dwi’n ofni byddai Dave yn cael digon ohono’n reit sydyn. Arlein ddylai o fod, gan syndicatio fo i wahanol wefannau ar draws y we (a falle gwefan S4C yn y diwedd…).

    Diolch am bostio! Byddai’n dda gallu cael ffordd o fod yn mainstream ar y we yn hytrach nac gorfod mynd i gyfrwng arall. Yn y byd Saesneg ei iaith arlein mae na brif ffrwd arlein (Revision3, BoingBoing a nifer fawr o gwmniau eraill). Mae Golwg360 wedi mynd rhyw gam o’r ffordd i greu prif ffrwd arlein sydd ddim yn ddarlledwr. Mae potensial iddyn nhw “ddyrchafu” pobol, deunydd sydd yn apelio at nifer fawr o bobol.

  2. Cofnod ardderchog, hyd yn oed gyda’r enghreifftiau Cymraeg prin ti wedi roi, mae o’n gwenud i rhywun feddwl, bod unrhyw beth yn bosib a bod y rhod yn dechrau troi (er yn araf).

    Beth sydd hefyd yn amlwg o’r esiamplau prin hyn yw eu bod yn ymateb i rhywbeth sydd ddim ar gael yn y prif ffrwd traddodiadol.

    Dw i’n hoffi’r ffordd mae Hwb wedi gwneud defnydd o gynnwys lo-fi ar-lein oedd yn bodoli’n barod a’i ddyrchafu, cyfrannu ato drwy eu sianel YouTube, a’r ffordd mae nhw’n wirioneddol annog y cyhoedd i gyfrannu hefyd a chreu eu cynnwys eu hunain. Calonogol iawn.

Sylwadau ar gau.