Dwyieithrwydd personol

Meddwl am ychwanegu WPML i’r blog hon ar gyfer dwyieithrwydd – yn y rhyngwyneb. Efallai yn y tudalen about/ynghylch ond bydd y dwy yn wahanol.

Hoffwn i barhau gyda chymysgiad o ieithoedd yn y cofnodion. Dw i ddim am flogio pob peth yma yn y dwy iaith bob tro. Mae’r Twll yn uniaith, un o’r amcanion. Ond ar blog personol? Dw i’n gwybod dau blog personol gyda phopeth yn y dwy iaith, pob lwc iddyn nhw. Dyw e ddim yn cynaliadwy i rywun fel fi.

Nes i glywed sôn am fy hen beiriant ateb unieithog (wedi cael yr un neges Saesneg ar y ffôn am flynyddoedd B.C. – Before Cymraeg). Nawr efallai dylet ti ei newid i fod yn hygyrch Carl. Boo hoo. Ffonia rhywun arall felly.

Syniad. Newydd newid y neges i fy enw yn unig. Mae’n gweithio yn bob iaith felly mae’n well na dy ateb tua 7000 gwaith.

Sefydliadau, cwmnïau ac ati, yn bendant. Unigolyn dw i – fy mholisi ieithyddol personol yw beth bynnag dw i’n teimlo o ddydd i ddydd.

Hefyd. Pam ddylai unigolyn gwneud rhywbeth mwy nag unwaith?!

Yn hytrach na chyfieithu fy hun mae gyda fi pethau eraill i’w wneud – fel dysgu iaith ARALL.

2 Ateb i “Dwyieithrwydd personol”

  1. Mae cael pennawdau popeth mewn un iaith yn anfoddhaol pan yn blogio mewn un iaith, ond ydy o’n broblem mawr. Peta’r rhyngwyneb yn Gymraeg yn unig, fyddai llai o bobl di-Gymraeg yn gadael sylw? (base mae’n debyg – er mod i wedi gadael sylw ar blogiau Sbaeneg a BAsgeg yn ddi drafferth, dw i’n cydnabod, fel siaradwr iaith leafrifol, yn edrych ar bethau fel hyn mewn gwahanol ffordd). Dw i wedi bod yn meddwl am dy flog di, a sut y dechreuaist ti’n Saesneg, gyda’r mwyafrif o dy ddarllenwyr yn ddi-gymraeg, tra rwan mae dy gynnwys i gyd wedi ei anelu at ‘y gymuned Gymraeg’ (a’r rheini sy’n fodlon mynd y filltir ychwanegol a defnyddio Google Translate). Wyt ti’n gweld eisiau sylwadau gan gynulleidfa ehangach?

    Mae’n dibynu ar sut byddi di’n ei osod wrth gwrs, oes peryg na fydd darllenwyr Cymraeg yn trafferthu edrych ar y cofnodion Saeseng, a’r di-Gymraeg ddim yn trafferthu edrych ar y Cymraeg (drwy GoogleTranslate?) bellach?

    Falle cael pennawdau cofnodion yn yr iaith arall mewn lle amlwg ar frig y blog.

    Os chi’n defnyddio WPML, oes modd cael un ffrwd RSS ar gyfer yr holl gofnodion, yn hytrach na fesul iaith sgwn i?

  2. Mae blogiau wedi cael eu dadfwndelu. Ar Quixotic mae rhan fwyaf o bobol yn darllen un neu dau cofnod.

    Dw i ddim yn chwilio am mwy o sylwadau. Efallai bydd e’n neis bod yn dylanwadol weithiau – yn hytrach na phoblogaidd. A joio!

    WPML yn cynnig ffrwd RSS o’r dewisiad iaith gyfoes. RSS Saesneg os ti’n darllen Saesneg, RSS Cymraeg os ti’n darllen Cymraeg. URLs gwahanol. Sy’n dda iawn.

Mae'r sylwadau wedi cau.