40,000 llun yn yr archif Llyfrgell Genedlaethol

“Mae’n dal i sioc i sawl un, ond mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i 40,000 o luniau” meddai cofnod newydd ar blog Llyfrgell Genedlaethol.

Dw i’n meddwl am y diffyg cynnwys ar y we Gymraeg/Cymru bob dydd felly gallwn i awgrymu dwy strategaeth efallai. Achos ddylai hwn ddim bod yn sioc.

Defnyddia TinEye, chwilio gweledol, i asesu poblogrwydd lluniau. 0 canlyniad hyd yn hyn. Dylai hwn bod yn sioc. Cf. American Gothic ar TinEye: 1235 canlyniad.

1a. Diffyg rhannu lluniau a diffyg anogaeth amlwg

Diolch i’r Llyfrgell am rhannu’r llun Harbwr Aberystwyth o 1792 isod.

Diolch hefyd iddyn nhw am rhannu’r llun yma o’r Harbwr rhwng 1880 a 1899.

Mae Siôn yn dweud

Mae’r Llyfrgell yn edrych ar drwyddedu agored ar hyn o bryd.

Rydym am gasglu rhagor o dystiolaeth ynghylch opsiynau trwyddedu cyn gwneud penderfyniad ar ba ddeunydd i’w drwyddedu a’r math o drwydded agored i’w defnyddio.

Un munud…

Blwyddyn 1792? Blwyddyn 1899? Rydyn ni’n siarad am lluniau sy’n mwy na 100 mlynedd oed. Does dim enw arlunydd i gael am y ddau lun yma. Ond mae’n debyg bod nhw yn y parth cyhoeddus. Fu farw’r arlunydd cyn 1af mis Ionawr 1941? Parth cyhoeddus.

Felly pam ydyn ni’n siarad am drwyddedau agored o gwbl yn y cyd-destun yma?

Paid camddeall – dw i’n ffan mawr o drwyddedau agored, Creative Commons yn enwedig. Dw i wedi blogio amdanyn nhw sawl gwaith. Mae unrhyw trwydded am gynnwys – o “cedwir pob hawl” i Creative Commons yn dibynnu – ar hawlfraint. Wrth gwrs mae’r Llyfrgell yn berchen ar luniau mwy newydd felly bydd trwydded agored yn wych yna.

Ond beth sy’n digwydd yma? Wel mae’n edrych fel mae’r Llyfrgell yn tynnu lluniau o’r delweddau ac yn trio perchen ar y delweddau. Dw i ddim yn siwr gyda lluniau ond maen nhw yn wneud rhywbeth debyg gyda llyfrau, dw i wedi cael sgwrs ar y flog yma gyda nhw. (Crynodeb: os ti eisiau postio lluniau o’r llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg, sef Yn y Lhyvyr Hwnn o 1546, maen nhw yn gofyn am £6. Anhygoel!)

Ydw i’n torri’r rheolau gan bostio’r lluniau uchod?

Pam ydw i mor obsesed gyda hawlfraint ar hyn o bryd? Achos dw i’n hoffi lluniau fel yr enghreifftiau uchod a dw i’n caru Cymru, yr iaith Gymraeg ac ein hetifeddiaeth.

Dw i’n ddiolchgar iawn am waith y Llyfrgell Genedlaethol yma ond dylen nhw rannu/dosbarthu ac annog rhannu heb gyfyngiad am lluniau yn y parth cyhoeddus. Byddan nhw yn werthu mwy o brintiau yn bendant.

rhannwch-pliz?!!

1b. Diffyg ffrydiau

Un ffordd pwerus iawn i godi defnydd ac ymwybyddiaeth yw ffrydiau o luniau. Mae archif o 40,000 yn wych mewn theori. Ond gawn ni weld un – dim ond un – llun sy’n berthnasol heddiw? Sut ydw i’n gallu bod yn ffan o luniau Cymru, Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol? Sut ydw i’n gallu dilyn?

Dw i newydd dechrau blog arall am lluniau Cymru:

http://einlluniau.tumblr.com

Wrth gwrs mae hwn yn gyflym, prawf o’r cysyniad.

Gweler hefyd: lluniau MAWR ar The Big Picture ac In Focus. Neu dilyna @big_picture a @in_focus.

Cer i chwilio am mwy o’r archif lluniau. Bydd yn ofalus gyda hawlfraint – ond os maen nhw yn fas o hawlfraint, defnyddia nhw. Cofia: newid / addasu. Dydy’r Llyfrgell Genedlaethol ddim yn gallu siwio pawb. Mewn gwirionedd, dw i’n meddwl bydd pawb, yn gynnwys Cymru a’r Llyfrgell, yn ennill trwy fwy o ddefnydd.