Mae’n braf iawn i weld fideobobdydd.com (da iawn nwdls).
Mae’n enghraifft da o wefan WordPress wrth gwrs. Dyn ni’n gallu ychwanegu e i’r cofrestr WordPress.
Dw i’n meddwl llawer am y diffyg cynnwys arlein Cymraeg. Nawr mae fideobobdydd yn cyfrannu cofnod a thweet bob dydd. Dyna 365 cofnod a 365 tweet awtomatig o leiaf bob blwyddyn! Fideos ardderchog hefyd, dyma’r pwynt.
Mae’n tyfu’r rhwydwaith hefyd achos mae’n hybu fideos YouTube ar gael yn Gymraeg. Weithiau mae’n ddigon i gasglu cynnwys (a chynulleidfa/cymuned). Dolenni yw cynnwys hefyd. Mae’n annog crewyr fideos.
Dyn ni’n gallu annog hefyd gydag ein sylwadau.
(Ychwanegol am gynnwys arlein Cymraeg: dw i dal yn siomedig am Y Cofnod am yr un rhesymau.)
Braf iawn gweld pethau fel hyn. Mae’n amlwg bod cynnwys Cymraeg ma’s ’na yn y gwyllter, ond mae angen pobl sy’n fodlon rhoi bach o amser mewn i’w hidlo a wneud detholiad o’r pethau gorau. Aeth hwn syth i mewn i’r darllenydd RSS.
Dw i’n ofalus gyda’r gair “cynnwys” neu “content” achos mae’n rhy haniaethol weithiau. Mae’r rhinwedd yn bwysig wrth gwrs.
Dw i’n siŵr bod blogiau yn bwysig iawn yma. Blogiau yw un o ffyrdd gyflyma/rhad i bostio – ychydig o ymdrech bob wythnos a ti’n casglu dy ddarnau bach cam wrth gam.
Mae S4C a chwmnïau cynhyrchiol gallu bod yn ffynonellau cynnwys da. Mae YouTube yn rhhhhhad. Er enghraifft cyfrannodd Uned5 551 fideo i YouTube dros ei fywyd. Bydd y cynnwys yn bodoli am flynyddoedd.