Lubuntu – system gweithredu fwyaf cyflym?

Dw i wedi gosod Lubuntu ar fy ngliniadur newydd ac mae popeth yn GYFLYM.

Beth yw Lubuntu? Lubuntu ydy system gweithredu, fersiwn amgen o Linux/Ubuntu gyda’r amgylchedd bwrdd gwaith LXDE yn hytrach na GNOME neu Unity.

Yr egwyddor tu ôl LXDM fel amgylchedd bwrdd gwaith ydy system syml heb y nonsens arferol. Does ’na ddim animeiddio neu graffigau ffansi. Beth sydd yn anhygoel ydy’r rwtsh sydd yn dod gyda systemau gweithredu cyfoes dyddiau yma. Ac un bonws arall yw’r bywyd batri. Fel arfer mae 60% mwy o fywyd ar Lubuntu na Windows hyd yn oed os ydw i’n defnyddio’r diwifr ayyb. Taswn i’n rhedeg hen gyfrifiadur neu helpu aelod teulu gyda’i gyfrifiadur baswn i’n gosod Lubuntu arno fe yn bendant.

Ond dw i ddim wedi dweud hwyl fawr wrth Windows 7 ar fy mheiriant i. Mae nodwedd cychwyn ddeuol gyda fi – dw i’n gallu dewis naill ai Lubuntu neu Microsoft Windows 7 tra bod y system yn dechrau. Dw i’n gallu cael mynediad i’r ffeiliau ar Windows hefyd – cerddoriaeth, dogfennau ayyb. Dw i ddim yn erbyn Windows 7 ond dw i’n hoff iawn o egwyddorion meddalwedd rydd. A hefyd o’n i eisiau rhedeg meddalwedd fel Apache, MySQL, git yn eu cartref naturiol.

Wedi dweud hynny roedd fy ffrind, sydd ddim yn arbennig o dechnegol, yn defnyddio’r porwr we Chromium ar fy ngliniadur neithiwr (sydd yn debyg iawn i Google Chrome). Wnaeth e ddim sylwi’r system wahanol. Dw i’n rhedeg Chromium tra bod i’n teipio’r cofnod blog yma fel mae’n digwydd. Mae’r cwmni tu ôl Ubuntu wedi mabwysiadu Lubuntu fel prosiect swyddogol ac mae meddalwedd arferol fel Firefox, LibreOffice, Audacity i gyd ar gael wrth gwrs. O’r rhestr yna maen nhw i gyd ar gael yn Gymraeg hefyd. Dw i’n ymwybodol o’r prosiectau Ubuntu Cymraeg a GNOME Cymraeg. Ond dw i’n methu ffeindio LXDE Cymraeg felly mae’n debyg does neb wedi dechrau prosiect cyfieithu LXDE Cymraeg (ar hyn o bryd…).

 

Fflachio / Hacio’r Iaith – beth ddysgais i

Dyma’r fideo o fy sesiwn Fflachio’r Iaith i’w wylio eto ac eto!

(Yn y fideo dw i’n sôn am rhedeg Android ar efelychydd Eclipse ar dy gyfrifiadur. Dylet ti chwarae gydag Eclipse oes os diddordeb gyda ti.)

Dyma beth ddysgais i:

  • Mae’n bwysig iawn i ailadrodd y Rheol Dau Droed, sef os wyt ti eisiau gadael unrhyw bryd dylet ti adael. O’n i’n gwybod oedd y pwnc yn niche felly gwnes i atgoffa pobol ar y dechrau.
  • Mae’n bosib gwneud sesiwn Hacio’r Iaith heb unrhyw baratoad. Ac mae lle i sesiynau ymarferol amlgyfrannog.  Baddiel and Skinner Unplanned yn hytrach na Christmas Lectures.
  • Mae’r fformat sgrin + cyflwynydd + cynulleidfa yn creu disgwyliadau i ryw raddau. Cawson ni lot o help a chyfranogiad ond efallai bydd e’n haws i greu awyrgylch neis gyda strwythur ‘agored’, e.e. cylch o seddau. Diolch i bawb am ddod a chyfrannu!
  • Dw i wedi bod yn rhan o Hacio’r Iaith ers y dechrau, tri cynhadledd a sesiynau mewn Chapter ayyb, dw i’n hapus i ddweud bod i erioed wedi darparu ’darlith traddodiadol’! Er bod darlith traddodiadol yn hollol iawn dw i’n gweithio mewn ffordd gwahanol.
  • Cyn i mi ddechrau tro nesaf dylwn i dreulio tri neu bedwar munud i baratoi’r stafell i annog cyfranogiad. Er enghraifft ambell waith mae’n well i fod yng nghanol y stafell gyda dwy sgrin – un mewn gliniadur ac un allanol i ddangos y sgrin i bobol gyferbyn.
  • Mae gyda phobol lot i’w gyfrannu, yn enwedig y pobol ‘technegol’. Ond ar hyn o bryd mae rhai ohonyn nhw yn eithaf distaw, efallai dydyn nhw ddim yn teimlo digon hyderus i fentro sesiwn? Neu ydyn nhw eisiau mwy o anogaeth i ffeindio pwnc diddorol? Ar y cyfan roedd y cynrychioliad o bobol yn eithaf da: dynion a benywod, pob oedran, pynciau a diddordebau gwahanol, ayyb. Tra bod Hacio’r Iaith yn ymestyn i bobol o bob arbenigaeth (ac yn croesawu tips am sut i fod yn gyfartal) mae angen cofio a chefnogi’r gîcs. Efallai bydd sesiynau niche iawn yn syniad.
  • Tra bod i’n siarad dw i’n symud fy mreichiau eithaf lot. Mae angen ail-asesu effeithiolrwydd y dull yma yn sicr.
  • O safbwynt symudol roedden ni’n methu rhedeg yr ap Helo Byd ar ffôn (yn hytrach na chyfrifiadur). Felly roedd y sesiwn yn fethiant! Paid ag ofni methiant.
  • Y term llinyn (yn y cyd-destun meddalwedd).
  • Mae dal galw am Android Cymraeg! Mae’r system yn enfawr ond dylai fe fod yn bosib gyda chyd-weithredu. Gwnaf i drio gosod system cyfieithu hawdd ar-lein (gydag XML, schemas ac ati yn y cefndir yn saff).
  • Mae galw am wybodaeth hygyrch am sgwennu cod – rhyw fath o gwrs byr am ddim ar-lein fel Codeacademy? Wrth gwrs dw i’n meddwl am rhywbeth yn Gymraeg gyda chynnwys brodorol. Mae’n bwysig, hyn yn oed, i fabwysiadu pethau yn Gymraeg er mwyn llifo trwy’r sgwrs a phobol Cymraeg a newid yr ‘agenda’.