Chwilio am blatfform? Osgoi unrhyw beth secsi…

Dw i ddim yn proffwydo bywyd sefydlog i Tumblr fel platfform blog.

(Dw i’n meddwl am flogio bob dydd, yn arbennig achos rydyn ni’n casglu blogiau Cymraeg ar hyn o bryd ar Y Rhestr Hedyn.net fel archwiliad ac adnodd.)

Pam ydy pobol yn defnyddio Tumblr?

Wel mae’n hawdd. Mae’n gweithio heddiw.

Mae’n ffasiynol.

Mae’n secsi.

Fel unrhyw beth fel ’na bydd e’n mynd mas o steil rhywbryd yn y dyfodol. I fi mae’n teimlo fel ffad. Ateb blogio i’r hoola hoop.

Mae unrhyw beth yn gallu digwydd i blatfformau, mae’n dibynnu ar lot o bethau. Weithiau mae cwmniau cryf yn tynnu’r plwg achos mae gyda nhw rhywbeth “gwell”, e.e. mae Google Video yn dod i ben achos mae gyda nhw YouTube.

Ond fel arfer mae’n digwydd achos mae cwmnïau yn prynu cwmnïau bychain, am y talent neu adnoddau eraill yn unig weithiau, a chael gwared â rhai o’r gwasanaethau (Pownce) neu stopio ei datblygiad (FriendFeed). Weithiau mae diffyg datblygiad, defnyddwyr a chariad – fel Geocities, mae Yahoo yn anfon y peth, gyda dy waith yn dy iaith, i’r machlud haul. Dydyn ni’n methu dibynnu ar archifau neu Archive.org bob tro t’mod.

Neu wrth gwrs mae’r cwmnïau jyst yn dod i ben.

Mae Tumblr yn teimlo, i fi, fel rhywbeth o’r un fath. Dim ond teimlad sydd gyda fi. Bydd cwmni cyfryngau enfawr di-glem sydd eisiau pwyntiau cŵl yn ei brynu. Efallai MTV. Ie, MTV. (Rhagfynegiad! Y cwmni mawr tu ôl MTV fydd y cwmni i’w brynu. Yn 2013.)

Dw i wedi ei brofi a dyw e ddim yn ddibynadwy o ddydd i ddydd chwaith.

Yn diweddar mae un o’r blogwyr mwyaf cyson dw i’n dilyn wedi newid o WordPress i Tumblr, sef Morfablog. Mae rhai fel Guto Dafydd wedi dechrau postio pethau bychain ar y platfform hefyd. Mae’n braf iawn i weld y blog arddechog Dyl Mei o’i chasgliad o gerddoriaeth hefyd. Ond efallai ddim ar Tumblr.

Bydd y stwff yna wythnos nesaf? Dw i’n meddwl. Beth am flwyddyn nesaf? Mae’n debyg. Ond blynyddoedd i ddod? Hmm.

Rydyn ni’n siarad am flogiau o ansawdd yma, nid jyst lluniau o sneakers, graffiti a phobol noeth fel lot o flogiau Tumblr eraill.

Mae hwn yn beryg i unrhyw blatfform dan gwmni, dyma pam dw i’n rhedeg y cod WordPress fy hun.

Ond i bobol sy’n chwilio am blatfform hawdd a chyflym fel arfer dw i’n awgrymu WordPress.com. Does dim byd rong gyda Blogger chwaith, mae pobol yn ei defnyddio a dyw e ddim yn cystadlu ar bortffolio Google gydag unrhyw beth arall (heblaw efallai Buzz ond ni’n saff yna). Yn hytrach na hipsters yn unig mae busnesu a hipsters yn defnyddio WordPress.com a Blogger, sydd yn beth positif. Dyna ni – platfformau gyda safety in numbers, solet, ac sydd ddim yn secsi o gwbl (dyna dy swydd di, nid y blatfform). Ar WordPress.com mae lot o’r defnyddwyr yn talu am y gwasanaeth, maen nhw yn gwsmeriaid go iawn.

Gobeithio fi’n hollol anghywir yma. Ond dw i ddim yn ymddiried Tumblr gyda fy ngwaith – neu fy iaith.